Neidio i'r prif gynnwy

Nod ac amcanion yr ymchwil

Nod yr Asesiad Cyflym hwn o’r Dystiolaeth (ACD) yw cynorthwyo Llywodraeth Cymru (LlC) i gynnig arweiniad i ymarferwyr, hyfforddwyr a llunwyr polisi ar sut i ddarparu addysg drochi effeithiol i ddysgwyr rhwng 3 ac 16 oed yng Nghymru. 

Yn yr astudiaeth hon, diffinnir ‘addysg drochi’ fel profiad dysgwyr o dderbyn addysg drwy gyfrwng iaith yr ysgol, a bod yr iaith honno yn wahanol i iaith yr aelwyd.

Mae cyfeiriad cyfredol polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg mewn dwy iaith (dwyieithog) yn cael ei adlewyrchu yn amcanion strategaeth Cymraeg 2050 a thrwy’r Cwricwlwm i Gymru. Mae’n fwriad gan y Llywodraeth i gynnwys modelau trochi yng ngwaith prif ffrwd y gyfundrefn addysg ac ehangu’r rhaglen drochi hwyr i ddisgyblion.

Pedwar amcan y prosiect oedd:

  • canfod, gwerthuso a chrynhoi’r dystiolaeth ymchwil sydd ar gael yng Nghymru ac yn rhyngwladol;
  • llunio casgliadau a fydd yn sail i arweiniad ar ddarparu addysg drochi effeithiol ar gyfer dysgwyr 3 i 16 oed yng Nghymru;
  • cynnig argymhellion ynghylch meysydd a chwestiynau ymchwil a allai fod angen eu harchwilio drwy ymchwil pellach; 
  • creu crynodeb ymarferol a hygyrch sy’n darparu arweiniad i ymarferwyr, hyfforddwyr a darparwyr hyfforddiant ar sut i ddarparu addysg drochi effeithiol ar sail canfyddiadau’r asesiad cyflym o’r dystiolaeth.

Y prif gwestiwn ymchwil a ddefnyddiwyd i lywio’r astudiaeth hon oedd:

  • Beth mae’r llenyddiaeth yn ei ddweud wrthym am gyrchddulliau a dulliau addysg drochi effeithiol ac am addysgeg effeithiol mewn addysg drochi?

Y cwestiynau ymchwil eilaidd oedd:

  • Beth mae’r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym am effeithiolrwydd cyflwyno a defnyddio iaith neu ieithoedd ar wahân i’r iaith darged ar wahanol gamau taith addysgol ac ieithyddol y dysgwr?   
  • Beth mae’r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym am effeithiolrwydd cyflwyno a chynnal addysg drochi i ddysgwyr gwahanol oedrannau h.y. beth yw nodweddion darpariaeth effeithiol o ran addysg drochi gynnar, canolig a hwyr?   
  • Beth mae’r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym am gyrchddulliau i ymdrin ag amrywiaeth o gefndiroedd ieithyddol a phrofiadau ieithyddol blaenorol ymhlith carfannau neu grwpiau o ddysgwyr?  
  • A oes ystyriaethau penodol sydd yn haeddu sylw o ran anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a darpariaeth addysg drochi?

Ceir allbwn ychwanegol i’r astudiaeth hon, sef crynodeb o ganfyddiadau’r astudiaeth ar gyfer ymarferwyr, hyfforddwyr a darparwyr hyfforddiant, sy’n cyflwyno’r prif ganfyddiadau am gyrchddulliau a dulliau trochi.

Methodoleg

Defnyddiwyd y cwestiynau ymchwil i lunio termau a meini prawf chwilio er mwyn sicrhau bod yr ACD mor ddichonadwy ac mor addas i'r diben â phosibl. 

Yn unol â’r protocol a luniwyd ar gyfer yr astudiaeth, cynhaliwyd yr ymchwil mewn pedwar cam. Crëwyd cronfa ddata gychwynnol o 4,342 o eitemau (Cam 1). Cafodd 41 eitem llenyddiaeth eu cynnwys yn y synthesis terfynol o dystiolaeth (Cam 4).

Cam 1: Sefydlu cwmpas a ffiniau’r adolygiad a chynnal y chwiliadau llenyddiaeth

Yn dilyn gwaith sgopio cychwynnol, detholwyd naw cronfa ddata gan gynnwys ffynonellau mynediad agored (Met Search, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Gwerddon) er mwyn cyrchu eitemau iaith Gymraeg na fyddai o bosibl yn cael eu canfod trwy gronfeydd rhyngwladol mwy eu maint. Penderfynwyd ar y termau chwilio drwy ystyried y cwestiynau ymchwil ar gyfer yr ACD. Cafodd y termau chwilio eu cadarnhau, a’u mireinio gan dynnu ar arbenigedd y tîm ymchwil a’u dealltwriaeth o’r llenyddiaeth yn y maes, a thrwy ymgynghori ag ymarferwyr, hyfforddwyr, darparwyr hyfforddiant ac arweinwyr system sy’n gweithio ym maes addysg drochi cyfrwng Cymraeg, mewn cyfarfod grŵp ffocws rhithiol. Treialwyd termau chwilio (yn Saesneg ac yn Gymraeg) er mwyn sicrhau bod y termau chwilio, y cronfeydd data a’r meini prawf cynnwys ac eithrio a ddefnyddiwyd yn addas i bwrpas yr ACD. Ar sail y broses beilota, penderfynwyd cynnwys eitemau a oedd wedi eu cyhoeddi rhwng 2000 a 2023.  

Gwahoddwyd tri o arbenigwyr sy’n gydnabyddedig yn y maes addysg drochi yn rhyngwladol i dynnu sylw’r tîm ymchwil at y cyhoeddiadau ymchwil sydd yn ymwneud â chyrchddulliau a dulliau effeithiol mewn addysg drochi a fyddai’n berthnasol ar gyfer yr astudiaeth, o’u profiad hwy, ac a oedd yn cwrdd â’r meini prawf sgrinio. Fe’u holwyd hefyd am enghreifftiau o ymchwil gyfredol ac ymchwil ar fin ei chyhoeddi. Un o’r tri oedd yn gallu cyfrannu at yr ymchwil o fewn yr amser a oedd ar gael ar gyfer y cam hwn. Derbyniwyd 44 eitem gan yr unigolyn a gyfrannodd. Dilynwyd yr un drefn ag a ddefnyddiwyd ar gyfer yr eitemau a ganfuwyd trwy’r chwiliadau llenyddiaeth wrth sgrinio ac echdynnu gwybodaeth am yr eitemau hyn.

Yn unol â meini prawf Cam 1, casglwyd cyfanswm o 4,342 o eitemau i’w sgrinio yng Ngham 2.

Cam 2: Sgrinio gwybodaeth

Er mwyn eu cynnwys yn y cam echdynnu gwybodaeth (Cam 3), roedd rhaid i’r 4,342 o eitemau llenyddiaeth a sgriniwyd yng Ngham 2 gwrdd â’r meini prawf canlynol:

  • trafod effeithiolrwydd rhywbeth y mae modd ei adnabod fel cyrchddull neu ddull mewn sefyllfa o addysg drochi, a
  • bod yn berthnasol i addysg drochi yng Nghymru h.y.:
    • yn ymwneud ag addysgu yn yr ystafell ddosbarth neu sy’n gysylltiedig â’r ystafell ddosbarth 
    • yn berthnasol i ddysgwyr rhwng 3 ac 16 oed
    • yn berthnasol i addysgu’r Gymraeg yng Nghymru e.e. addysg mewn iaith a ystyrir fel iaith leiafrifol mewn cyd-destun dwyieithog ac amlieithog (ceir enghreifftiau yn Seland Newydd, Awstralia, Canada, Gwlad y Basg, Asia, De Affrica, Iwerddon, Yr Alban, ac America).

Cafwyd cyfanswm o 180 o eitemau a wnaeth gwrdd â’r meini prawf yng Ngham 2.

Cam 3: Echdynnu gwybodaeth ac asesu ansawdd a phwysau’r dystiolaeth

Cynhaliwyd y gwaith echdynnu gwybodaeth, asesu ansawdd a phwysau’r dystiolaeth ar sail darllen testunau llawn yr eitemau a oedd wedi cwrdd â’r meini prawf sgrinio yng Ngham 2. Addaswyd Ffurflen Echdynnu Data a oedd yn cynnwys 53 o gwestiynau i fod yn addas i ddiben yr ACD. Defnyddiwyd y ffurflen hon i gasglu gwybodaeth allweddol o bob eitem.[troednodyn 1] O’r 180 eitem y cafodd gwybodaeth ei hechdynnu ohonynt, eithriwyd 115 oherwydd nad oeddent wedi derbyn sgôr pwysoli uchel. Cafwyd 65 o eitemau a wnaeth gwrdd â’r meini prawf, a dyma’r eitemau a ddefnyddiwyd ar gyfer datblygu’r synthesis yng Ngham 4.

Cam 4: Datblygu synthesis

Yn dilyn y chwiliadau, yr echdynnu data a’r gwaith pwysoli, aethpwyd ati i ddrafftio synthesis yr ymchwil. Oherwydd natur gymhleth rhai o’r diffiniadau o ‘addysg drochi’ a ‘iaith leiafrifol’, roedd y broses o gynhyrchu synthesis yn iteraidd. Cyflwynwyd cam sicrhau ansawdd ychwanegol wrth gynhyrchu’r synthesis, er mwyn sicrhau bod y cwestiynau ymchwil yn cael eu hateb yn briodol gan yr eitemau llenyddiaeth a gafwyd. Eithriwyd 24 eitem ychwanegol yn y cam sicrhau ansawdd hwn. Cafodd cyfanswm o 41 o eitemau eu cynnwys yn y synthesis terfynol.

Mae’r dystiolaeth sy’n cael ei chyflwyno yn y synthesis yn cynnwys 23 astudiaeth oedd yn trafod trochi cynnar yn benodol, 10 yn trafod trochi canolig a 10 yn trafod trochi hwyr (categoreiddiwyd rhain ar sail oedran y dysgwyr).[troednodyn 2] Roedd 12 astudiaeth yn ymwneud â throchi rhannol, a saith yn trafod trochi dwys. Daw’r rhan fwyaf o’r dystiolaeth o Unol Daleithiau America (n=14), gydag amrywiaeth helaeth o wledydd eraill wedi eu cynnwys.

Paratoi crynodeb i ymarferwyr

Yn seiliedig ar ganfyddiadau’r ACD, paratowyd crynodeb ar sut i ddarparu addysg drochi effeithiol ar gyfer ymarferwyr, hyfforddwyr a darparwyr hyfforddiant. Gwahoddwyd y rhanddeiliaid a ddaeth i sesiwn Grŵp Ffocws 1 i ail sesiwn Grŵp Ffocws er mwyn iddynt gael cyfle i gyflwyno eu barn a’u sylwadau ynghylch fersiwn ddrafft o’r crynodeb hwn.

Casgliadau

Crynodeb o’r dystiolaeth am effeithiolrwydd cyflwyno a defnyddio iaith neu ieithoedd ar wahân i’r iaith darged ar wahanol gamau taith addysgol ac ieithyddol y dysgwr

  • Er bod rhai awduron wedi canfod bod defnyddio’r iaith darged yn bennaf yn fuddiol mewn cyd-destunau trochi, ceir tystiolaeth bod defnydd achlysurol o iaith aelwyd y dysgwyr hefyd yn gallu bod o fudd i wneud cymariaethau rhwng ieithoedd gwahanol.  
  • Mae strwythuro’r defnydd o ieithoedd amrywiol (mewn sesiynau neu wersi penodol ar gyfer pob iaith) yn ogystal â dyrannu amser ar gyfer trawsieithu yn effeithiol.
  • Mae ymyraethau i ddatblygu sgiliau llythrennedd yn cael effaith gadarnhaol ar gaffael iaith, er enghraifft cynnydd mewn medrau darllen ac ymwybyddiaeth feta-ieithyddol. Fodd bynnag, mae hyn yn ddibynnol ar sawl ffactor ac yn dibynnu ar y math o ymyrraeth dan sylw.
  • Mae peth tystiolaeth am fanteision defnyddio technoleg i ddatblygu ymwybyddiaeth ffonolegol a chaffael geirfa wrth ddysgu iaith ond mae’n anodd adnabod ar sail y dystiolaeth a gafwyd yn yr astudiaeth hon pa elfennau o’r dechnoleg sydd fwyaf effeithiol.

Crynodeb o’r dystiolaeth am effeithiolrwydd cyflwyno a chynnal addysg drochi i ddysgwyr gwahanol oedrannau

Trochi cynnar

  • Mae defnyddio llyfrau dwyieithog a defnyddio cyfnewid cod mewn deunydd darllen yn cefnogi datblygiad ieithyddol dysgwyr mewn addysg drochi gynnar, yn yr iaith darged. Yn ogystal, mae cael amser darllen 1:1 rhwng oedolion a dysgwyr ifanc (e.e. rhwng plant a’u rhieni) yn fuddiol. 
  • Mae'r dystiolaeth yn nodi y dylai dysgwyr trochi cynnar gael eu haddysgu mewn grwpiau bychain. Wrth addysgu grwpiau bychain o ddysgwyr, mae modd adnabod anghenion penodol dysgwyr, a gall addysgwyr wahaniaethu ar sail yr anghenion hynny. 
  • Mae siarad athro (teacher talk) yn effeithio ar allu llafar dysgwyr, ac mae defnyddio’r iaith darged yn effeithiol (drwy ailadrodd, cadarnhau, manylu ac ymhelaethu) yn rhagfynegi deilliannau ieithyddol y dysgwyr. 
  • Mae rhaglenni technoleg yn gallu cefnogi datblygu sgiliau darllen mewn addysg drochi. Gall hyn gynorthwyo athrawon lle bo adnoddau yn brin.
  • Nid yw defnyddio’r iaith darged yn ei hun yn ddigon mewn addysg drochi; rhaid i ddefnydd yr athrawon o’r iaith darged fod yn ystyrlon. Hynny yw, dylai athrawon ddefnyddio iaith sy’n rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ymestyn ac ymhelaethu wrth siarad yr iaith darged, yn hytrach na dim ond rhoi cyfarwyddiadau yn yr iaith honno.

Trochi hwyr

  • Cafwyd llawer o dystiolaeth fod dulliau sy’n targedu sgiliau darllen yn cefnogi caffael iaith mewn cyd-destunau trochi hwyr. Yn benodol, mae dulliau addysgu darllen drwy ffoneg yn gallu helpu dysgwyr i gysylltu ffonemau a graffemau ac i segmentu ffonemau. 
  • Mae’r dystiolaeth a gafodd ei harchwilio ar gyfer yr astudiaeth hon yn dadlau’n gryf fod cyflwyno dwy iaith ar yr un pryd mewn deunydd darllen yn fuddiol. 
  • Noda’r dystiolaeth bwysigrwydd adnabod cyd-destun ieithyddol y dysgwyr wrth ystyried datblygiad ieithyddol mewn cyd-destunau trochi hwyr. Mae hyn yn ymestyn i ystyried anghenion unigol dysgwyr.
  • Mae’r dystiolaeth yn adrodd fod Dysgu Cynnwys ac Iaith Integredig (Content and Language Integrated Learning - CLIL) yn arf effeithiol ar gyfer datblygu hyder dysgwyr, gwella gwybodaeth am bynciau ar wahân i’r iaith darged ac ar gyfer datblygu medrau ieithyddol. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth yn brin o ran manylu ar yr union fedrau. 
  • Mae dulliau cyfathrebol yn helpu dysgwyr i gaffael yr iaith darged. Mae tystiolaeth bod grwpiau bychain yn annog dysgwyr i ddefnyddio’r iaith darged yn amlach. Hefyd, trwy ddefnyddio cyrchddull echblyg anwythol (sef bod dysgwyr yn mynd ati i ganfod rheolau strwythur gramadegol drostynt eu hunain) mae dysgwyr yn cael eu harfogi i weithio gyda chyfoedion er mwyn datblygu a chofio dealltwriaeth o reolau gramadeg yn well.
  • Mae tystiolaeth i awgrymu fod defnyddio gemau, neu dechnoleg i gynorthwyo dysgu iaith / ieithoedd yn gallu bod yn effeithiol. Yn benodol, mae technoleg rhithrealiti yn gallu meithrin ymdeimlad o bresenoldeb sy’n ategu’r profiad o drochi.

Crynodeb o’r dystiolaeth am gyrchddulliau i ymdrin ag amrywiaeth o gefndiroedd ieithyddol a phrofiadau ieithyddol blaenorol ymhlith carfannau neu grwpiau o ddysgwyr

  • Mae’r dystiolaeth am ddefnyddio ieithoedd amrywiol mewn dosbarthiadau trochi lle mae’r dysgwyr yn dod o gefndiroedd iaith amrywiol yn dangos nad yw ymwybyddiaeth feta-ieithyddol yn arwain at allu uwch yn yr iaith darged. 
  • Mae tystiolaeth gref bod defnyddio iaith aelwyd y dysgwyr yn bwysig er mwyn dangos bod gwerth i’r ieithoedd hynny. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod angen addysg rhyng-ddiwylliannol er mwyn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, ac y gallai symud mudwyr i’r brif ffrwd yn gynnar helpu gyda hyn. Fodd bynnag, amwys yw’r cysylltiad rhwng gweld gwerth mewn ieithoedd a chaffael cymhwysedd ieithyddol yn effeithiol. 
  • Mae cymysgu grwpiau uniaith ac amlieithog yn gallu cael effaith gadarnhaol ar allu ieithyddol bob dysgwr, nid mudwyr yn unig. 
  • Mae gwaith pâr yn gallu helpu i ddatblygu medrau darllen yn yr iaith darged ymhlith grwpiau gyda gallu cymysg.

Crynodeb o’r dystiolaeth am ystyriaethau penodol o ran anghenion dysgu ychwanegol a darpariaeth addysg drochi

Mae sgôp i gefnogi dysgwyr ag ADY mewn dosbarthiadau trochi ac mae addysgu mewn grwpiau bychain ac annog cydweithio rhwng cyfoedion yn ffyrdd effeithiol o wella medrau ieithyddol gan ystyried ADY penodol y dysgwyr. 

Mae trawsieithu yn gallu cynorthwyo i adnabod ac asesu ADY dysgwyr amlieithog. 

Mae ymyrraeth ffoneg yn gallu mynd i’r afael â diffygion ymwybyddiaeth ffoneg dysgwyr ADY.

  • Cyflwyna’r synthesis ystod o lenyddiaeth ar ddulliau a chyrchddulliau mewn addysg drochi yn rhyngwladol. Mae’r ieithoedd a addysgir yn yr astudiaethau a adolygwyd oll yn cynrychioli cyd-destun addysg lle mae’r sefyllfa yn berthnasol i’r Gymraeg (hynny yw, addysg mewn iaith a ystyrir fel iaith leiafrifol mewn cyd-destun dwyieithog ac amlieithog).
  • Cynigia’r dystiolaeth arweiniad i wneuthurwyr polisi ac addysgwyr ar gynnig addysg drochi effeithiol yng Nghymru. Fodd bynnag, dylid cofio y gallai darpariaeth effeithiol edrych yn wahanol yng Nghymru o’i gymharu â chyd-destunau rhyngwladol. Wrth gynllunio darpariaeth a gwerthuso ei heffeithiolrwydd, dylai anghenion ac amgylchiadau penodol i Gymru fod yn ystyriaeth ganolog.

Ystyriaethau am ymchwil bellach

Mae’r adroddiad hwn yn adrodd ar dystiolaeth o gyrchddulliau a dulliau addysg drochi rhyngwladol. Gellid cynnal ymchwil pellach i fethodoleg trochi yng Nghymru gan edrych ar y cyrchddulliau a’r dulliau a ddefnyddir mewn cyd-destunau trochi cynnar a hwyr, gyda mewnfudwyr, gyda dysgwyr ag ADY, ac sy’n defnyddio iaith ar wahân i’r iaith darged ar yr aelwyd. Byddai ymchwil â ffocws penodol ar effeithiolrwydd y dulliau a’r cyrchddulliau yn rhoi gwybodaeth werthfawr am y ddarpariaeth addysg drochi yng Nghymru.

Troednodiadau

[1] Addaswyd Ffurflen Echdynnu Data y Ganolfan EPPI (Evidence for Policy & Practice Information Centre). Gweler EPPI-Centre (2007) Review Guidelines for Extracting Data and Quality Assessing Primary Studies in Educational Research. Fersiwn 2.0 Llundain: EPPI-Centre, Social Science Research Unit.

[2] Nid yw’r niferoedd hyn yn cyfateb yn union i’r nifer o eitemau, oherwydd bod rhai yn cynnwys mwy nag un lleoliad daearyddol a chyd-destun trochi. 

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Kathryn Jones ac Iolo Jones (IAITH: y ganolfan cynllunio iaith), Mirain Rhys, Katharine Young ac Adam Pierce (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Dr Eleri Jones
Ymchwil Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ebost: ymchwil.cymraeg@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 37/2024
ISBN digidol 978-1-83577-989-7

Image
GSR logo