Cynhaliwyd yr asesiad yng nghyd-destun rhoi Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ar waith.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Canfyddiadau allweddol
- Mae'r Asesiad yn amlinellu canlyniadau ymchwil ynghylch beth sy'n gweithio wrth ddelio â chyflawnwyr cam-drin domestig er mwyn atal troseddu o'r fath neu leihau'r perygl o aildroseddu.
- Mae'r Asesiad yn darparu cyfuniad cyfredol o'r dystiolaeth ddiweddaraf, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, o effeithlonrwydd gwasanaethau i ddelio â chyflawnwyr cam-drin domestig.
- Mae'n tynnu sylw at gyfyngiadau'r ymchwil, gan gynnwys gogwydd yr ymchwilydd, problemau â'r fethodoleg a heriau gwerthuso gwasanaethau ar gyfer cyflawnwyr cam-drin domestig yn effeithiol.
- Nid yw'r Asesiad yn darparu cefnogaeth glir ar gyfer unrhyw ddull gweithredu unigol dros y gweddill o ran gwasanaethau ar gyfer cyflawnwyr cam-drin domestig.
- Mae'n nodi'r ymyriadau hynny sy'n fwy addawol, gan gynnwys y rhai sydd ag elfen ysgogiadol a rhaglenni sy'n defnyddio dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y teulu.
- Nodir pwysigrwydd cynnwys triniaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau (pan fo'n berthnasol).
- Mae'r Asesiad yn tynnu sylw at werth defnyddio dull gweithredu 'system gyfan' wrth fynd i'r afael â cham-drin domestig.
- Mae'r Asesiad yn ystyried goblygiadau'r canfyddiadau ar gyfer comisiynwyr, academyddion, ymarferwyr a'r rhai sy'n llunio polisïau sy'n ymwneud â gwasanaethau ar gyfer cyflawnwyr cam-drin domestig.
- Mae'n pwysleisio pwysigrwydd gwaith gwerthuso cadarn ac annibynnol ym maes gwasanaethau ar gyfer y troseddwyr.
- Mae'r Asesiad yn nodi'r angen i roi dulliau gweithredu mwy arloesol ar brawf o ran gweithio gyda chyflawnwyr cam-drin domestig.
- Trafodir cyfleoedd i ddatblygu gwasanaethau ar hyd 'taith y troseddwr', sy'n rhoi'r pwyslais ar waith atal ac ymyrryd yn gynnar.
Adroddiadau
Asesiad Cyflym o’r Dystiolaeth: beth sy’n gweithio gyda chyflawnwyr cam-drin domestig? , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Ymchwilydd
Rhif ffôn: 0300 025 7387
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.