Daeth yr ymgynghoriad i ben 2 Medi 2014.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gwahodd eich sylwadau ar Adroddiad Amgylcheddol yr Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA) ar gyfer Rhaglen Gydweithredu Iwerddon/ Cymru 2014-2020.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r SEA yn cael ei gynnal yn unol â Chyfarwyddeb SEA (2001/42/EC) a Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 (Offeryn Statudol Cymru 2004 rhif 1656 (Cy.170)). Cafodd Adroddiad Amgylcheddol SEA ei baratoi ar ôl ymgynghori’n llawn â chyrff statudol.
Mae disgwyl i raglenni a noddir gan yr UE gynnal safonau uchel o ran amddiffyn yr amgylchedd a bydd yr SEA yn helpu i sicrhau bod rhaglenni’n cyfrannu’n bositif at hynny.
Cynhelir yr ymgynghoriad ar y cyd â’r ymgynghoriad cyhoeddus ar Rhaglen Gydweithredu Iwerddon/ Cymru 2014-2020 a lansiwyd gan y Weinidog ar 6 June 2014.