Mae Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA) yn asesu sut y bydd cynllun yn effeithio ar yr amgylchedd.
Mae'n broses ffurfiol i ystyried effaith cynllun neu raglen ar yr amgylchedd.
Nod
Nod yr SEA yw:
- gwarchod yr amgylchedd
- hyrwyddo datblygu cynaliadwy
- gwneud yn siŵr bod yr amgylchedd yn cael ei ystyried wrth baratoi a mabwysiadu cynllun neu raglen
Arweiniad
Pwy sy'n gyfrifol am benderfynu a oes angen cynnal SEA:
- y corff sy'n paratoi'r cynllun, neu
- y corff y mae'r cynllun yn cael ei baratoi ar ei ran
Rhaid ystyried pob achos ar ei ben ei hun. Weithiau, bydd angen ichi benderfynu beth yw arwyddocâd yr effeithiau ar yr amgylchedd. Fe gewch arweiniad ac enghreifftiau yn Gyfarwyddeb Asesiad Amgylcheddol Strategol: canllawiau ar gov.uk.
Camau proses yr SEA
Mae'n bwysig eich bod yn ystyried yr SEA o'r dechrau'n deg wrth baratoi'r cynllun fel ei fod yn rhan annatod o'r broses. Dyma gamau cynnal yr SEA:
- gosod y cyd-destun a'r amcanion a phenderfynu ar linell sylfaen a chwmpas
- datblygu a chaboli ffyrdd eraill posib ac asesu'r effeithiau
- paratoi adroddiad amgylcheddol
- ymgynghori ar y cynllun neu'r rhaglen ddrafft a'r adroddiad amgylcheddol
- monitro effeithiau arwyddocaol y cynllun neu'r rhaglen ar yr amgylchedd
Manylion cysylltu
Rhowch wybod inni am eich SEA trwy:
e-bostio: SEA@llyw.cymru
ffonio: 029 2082 3178
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg
drwy'r post at
Asesiad Amgylcheddol Strategol
Is-adran y Tir, Natur a Choedwigaeth
Adran yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 2
Caerdydd
CF10 3NQ