Ddoe, aeth Julie James, Arweinydd y Tŷ i ymweld ag un o’r prosiectau peilot sy’n datblygu’r rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adref.
Mae Swyddi Gwell yn Nes at Adref yn anelu at greu cyfleoedd a swyddi cynaliadwy drwy ddefnyddio pŵer gwariant caffael cyhoeddus. Caiff hyn ei gyflawni drwy ddefnyddio dulliau masnachol arloesol, a thrwy ddefnyddio contractau ar gadw, gan ddefnyddio hynny i greu swyddi mewn ardaloedd o ddiweithdra uchel.
Mae pedwar o raglenni peilot Swyddi Gwell yn cael eu profi ar hyn o bryd ar draws ardal Cymoedd De Cymru, ac os y byddant yn llwyddiannus, gallai ymyrraethau tebyg gael eu defnyddio mewn rhannau eraill o Gymru.
Roedd Julie James yng Nglyn Ebwy ddoe i ymweld ag EBO Quality Signs, un o’r rhaglenni peilot. Menter gymdeithasol yw EBO sy’n cyflogi pobl leol sydd ag anableddau, ac roedd Arweinydd y Tŷ yn awyddus i weld pa gynnydd oedd wedi’i wneud hyd yma, ac a fyddai’r rhaglen yn llwyddo yn y dyfodol.
Meddai:
“Mae EBO eisoes yn fenter wych ohoni ei hun, ac roeddem yn teimlo ei bod yn addas ar gyfer y math arbennig yma o ymyrraeth. Mae ein tîm wedi gweithio gydag EBO i gynyddu oriau gwaith drwy froceru trafodaethau rhwng yr uned a chadwyni cyflenwi ledled Cymru i roi rhagor o archebion iddynt.
“Roeddwn yn falch iawn o ymweld a gweld y gwaith fy hun a chlywed mwy am yr archebion newydd oedd yn dod i mewn. Roeddwn yn arbennig o falch o ddysgu mwy am fanteision gweithio gyda’n tîm, a pha ymyrraethau fyddai’n gweithio mewn mannau eraill o Gymru yn eu tyb hwy.”
Meddai Jonathon Bell, Cyfarwyddwr EBO:
“Roeddem yn falch iawn bod Arweinydd y Tŷ wedi neilltuo’r amser i ymweld â’n safle yng Nghlyn Ebwy yr wythnos hon a gweld y gwaith cynhyrchu.”
Mae EBO Signs yn cynhyrchu arwyddion traffig a masnachol megis arwyddion ar y briffordd, enwau strydoedd, arwyddion diogelwch a byrddau hysbysebu mawr.
Mae’r galw ychwanegol am eu cynnyrch eisoes wedi arwain at archebion yn y ffatri gyda dau brif gontractwr yr awdurdod lleol, a Chomisiwn y Cynulliad. Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd wedi nodi eu bod yn defnyddio’r ffatri hon ar gyfer eu harwyddion, ac mae cyfarfodydd ar y gweill ar hyn o bryd gyda Keolis/Amey am gyfleoedd yn ystod cam symudiadau eu contract trenau newydd.
Mae’r pedair rhaglen beilot yn cael eu harwain gan Dasglu’r Cymoedd, y mae Julie James yn aelod ohono, ac maent wedi’u cynnwys o fewn y cynllun Ein Cymoedd Ein Dyfodol a gyhoeddwyd yn ddiweddar.