Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Cyfleuster Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch arloesol newydd Cymru yn cael ei reoli gan Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) Prifysgol Sheffield

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £20 miliwn i ddatblygu cam cyntaf y cyfleuster ym Mrychdyn er mwyn cynyddu cynhyrchiant a masnacheiddio, a datblygu arloesedd a sgiliau ar draws sawl sector gwahanol, gan gynnwys Awyrofod a Modurol.

Y nod yw datblygu cymorth busnes er mwyn hyrwyddo a chynyddu cydweithio cynhyrchiol rhwng diwydiant, partneriaid academaidd ac entrepreneuriaid. Rhagwelir y gallai cam cyntaf y cyfleuster ymchwil newydd gynyddu gwerth ychwanegol gros (GVA) Cymru £4 biliwn dros ugain mlynedd.  

Mae’r gwaith o godi’r adeilad oddi ar Ffordd Caer wedi hen ddechrau, ac mae’n cael ei arwain gan Galliford Try. Erbyn hyn, cafwyd cadarnhad mai AMRC yw’r sefydliad a fydd yn gweithredu’r cyfleuster ac mai cwmni Airbus fydd y tenant cyntaf. Bydd hyn yn rhoi sylfaen gadarn pan gaiff y cyfleuster ei agor yn swyddogol yn 2019.

Meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Sates:

“Mae’r newyddion y bydd AMRC yn rheoli Cyfleuster Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch cyntaf Cymru ar Lannau Dyfrdwy yn achos dathlu go iawn.

“Mae gan AMRC hanes 15 mlynedd o ddarparu gwasanaethau, ac mae’r Ganolfan wedi dangos ei bod yn arwain y diwydiant o ran ei gallu i ddarparu ymchwil, cymorth gweithgynhyrchu a gwasanaethau partneriaeth.  

“Mae wedi datblygu cysylltiadau hynod gryf ag amrywiaeth o bartneriaethau, gan gynnwys cwmnïau corfforaethol byd-eang, BBaCh a chadwyni cyflenwi,  a bydd yn gwneud cyfraniad allweddol at ddatblygu gwaith arloesol a sgiliau cynaliadwy a hirdymor o safon uchel. Mae hyn yn newyddion da i ddyfodol gweithgynhyrchu uwch yma yng Nghymru, i’r economi rhanbarthol ac i economi ehangach Cymru." 

Hefyd, diolchodd Ysgrifennydd yr Economi i Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy am ei gwaith yn sicrhau’r cyfleuster newydd, sy’n allweddol i gynllun strategol y Bwrdd ar gyfer yr ardal.  

Meddai’r Athro Keith Ridgway, Deon Gweithredol AMRC:

“Rydym yn rhannu gweledigaeth glir Llywodraeth Cymru i hybu enw da gogledd Cymru am ragoriaeth ym maes gweithgynhyrchu, gan greu swyddi diogel o ansawdd da a chyfoeth ar gyfer Cymru gyfan trwy weithredu fel magnet ar gyfer mewnfuddsoddi.  

“Bydd y cyfleuster newydd yn dod â thalentau a phrofiad ymchwil ac arloesi AMRC Prifysgol Sheffield i fenter newydd mewn rhanbarth sydd â hanes cyfoethog a chyfleoedd sylweddol ym maes gweithgynhyrchu.

“Ein nod yw datblygu’r cyfleuster yn ganolfan ymchwil mynediad agored a fydd yn ysgogi gwelliannau sylweddol ym meysydd cynhyrchiant, perfformiad ac ansawdd, nid yn unig yn y sector awyrofod, ond ledled y sector gweithgynhyrchu uwch yn ehangach yn y Gogledd, gan gynnwys y diwydiannau niwclear, modurol, ynni a bwyd a diod.

“Mae Airbus yn un o bartneriaid hirdymor AMRC mewn sector sy’n allweddol i’r economi. Trwy ddatblygu ein cysylltiadau ymchwil presennol, byddwn yn sicrhau bod y cwmni yn parhau i arwain y gwaith o ddatblygu’r diwydiant awyrofod, gan gefnogi sgiliau yn yr ardal ac yn uwchsgilio ei bartneriaid yn y gadwyn gyflenwi gweithgynhyrchu.

“Hefyd, byddwn ni’n gweithio’n agos gyda phrifysgolion eraill yng Nghymru er mwyn sicrhau ein bod yn cael yr effaith fwyaf, gan fanteisio ar eu harbenigedd ymchwil i ddatblygu prosiectau newydd sydd o fudd i economi Cymru ac enw da Prifysgol Sheffield a phrifysgolion Cymru. Bydd hyn yn dangos bod partneriaethau gyda diwydiant a’r llywodraeth yn gallu cyflymu gwelliannau mawr mewn llesiant economaidd a chymdeithasol.”

Meddai Paul McKinlay, Uwch Is-lywydd Airbus a phennaeth ffatri Brychdyn: 

“Mae gan Airbus berthynas â’r AMRC ers blynyddoedd lawer. Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â sawl menter, ac rydym wrth ein bodd y bydd ein perthynas yn parhau i dyfu diolch i’r fenter ddiweddaraf hon.

“Mae gan y sefydliad hwn sgiliau ac arbenigedd cryf ym meysydd arloesi, gweithgynhyrchu uwch a digideiddio, a dyma’r sefydliad perffaith i reoli cyfleuster mwyaf cyffrous Cymru.”  

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddatblygu ail gam y cyfleuster ar safle gwahanol yn y Gogledd. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i weithio gyda Bwrdd Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy a’r Weinyddiaeth Amddiffyn, o dan arweiniad y Defence Electronics and Components Agency (DECA), ar gynnig i leoli ail gyfleuster ar dir wrth ymyl Cyfnewidfa Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.