Neidio i'r prif gynnwy

Bydd mwy na 100 o arweinwyr twristiaeth o'r sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn dod i Westy'r Metropole yn Llandrindod, ar ddydd Iau 28 Mawrth, ar gyfer Uwchgynhadledd Twristiaeth Cymru 2019.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod yr uwchgynhadledd, bydd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn cychwyn trafodaeth am ddyfodol twristiaeth yng Nghymru. Wrth i'r strategaeth twristiaeth gyfredol, Partneriaeth ar gyfer Twf, ddod i ben, mae'r uwchgynhadledd yn gyfle i feddwl am ein cyflawniadau ac i edrych ar yr heriau a'r cyfleoedd ar gyfer y diwydiant yn y dyfodol. 

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas:

"Mae’r strategaeth ddiwethaf wedi cyflawni cryn dipyn drwy waith partneriaeth gyda'r diwydiant, ond heddiw, byddaf yn cychwyn trafodaeth sy'n gofyn beth allwn ni ei wneud yn well, a pha fath o economi ymwelwyr fydd gennyn ni mewn deg mlynedd?

"Dros y misoedd nesaf rydyn ni am weithio gyda'r diwydiant er mwyn llunio'r blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. Felly, hoffen ni glywed gan y sector twristiaeth a'r llawer o bobl eraill mae ganddyn nhw ddiddordeb yn yr economi ymwelwyr ehangach, i feddwl am y cwestiynau mawr ar gyfer y dyfodol a'r heriau rydyn ni'n eu hwynebu."

Rhoddwyd deg cwestiwn i fynychwyr yr uwchgynhadledd er mwyn cychwyn y drafodaeth dros y misoedd nesaf. 

Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth yng Nghymru gwerth £50 miliwn, mewn partneriaeth â Banc Datblygu Cymru, i fynychwyr yr uwchgynhadledd. Dyma un o dair cronfa newydd gwerth cyfanswm o £121miliwn a gafodd eu cyhoeddi gan Weinidog yr Economi, Ken Skates, yn gynharach yr wythnos hon. 

Oherwydd Brexit, pa beth bynnag ei ffurf, bydd yn rhaid i lawer o gwmnïau yng Nghymru newid eu ffordd o wneud busnes yn sylfaenol, ac mae Llywodraeth Cymru yn ystyried pob opsiwn posibl ac yn defnyddio pob adnodd i sicrhau bod busnesau o bob maint, ac ym mhob rhan o'r wlad, yn cael mynediad at y cyllid sydd ei angen arnynt er mwyn addasu a llwyddo. 

Wrth siarad cyn yr uwchgynhadledd, dywedodd y Dirprwy Weinidog:  

“Mae ein gallu i farchnata Cymru mewn marchnadoedd newydd a marchnadoedd sy’n newid drwy’r amser ym mhedwar ban y byd yn dibynnu'n llwyr ar yr hyn sydd gennyn ni i'w ddweud – ac mae rhan o hynny'n cynnwys buddsoddi mewn profiadau a mannau sy'n diffinio Cymru ac a fydd yn apelio at ymwelwyr y dyfodol.

"Mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i weithio gyda buddsoddwyr o'r sector preifat i sicrhau ein bod yn mynd ati'n barhaus i wella'r hyn y gall Cymru ei gynnig. Bydd y Gronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth yng Nghymru yn caniatáu inni barhau i gefnogi'r nifer mawr o ddatblygiadau arfaethedig gwirioneddol gyffrous ym mhob cwr o Gymru." 

Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru,

"Mae cefnogi'r sector twristiaeth yn flaenoriaeth sydd wedi cael ei hamlinellu yng Nghynllun Gweithredu ar yr Economi Llywodraeth Cymru. Nod y Gronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth yng Nghymru yw parhau i gefnogi twf parhaus yn y sector fel ysgogydd economaidd mewn cymunedau ledled Cymru. Mae'n dda gennyn ni fod wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynnig cyfalaf tymor estynedig wedi'i dargedu, gyda chynnyrch sy'n diwallu anghenion busnesau twristiaeth."

Wrth ddod i gasgliad dywedodd y Dirprwy Weinidog,

"Heb os mae'r sefyllfa hon yn gwbl ddieithr inni, ac yn heriol. Ond mae Cymru'n ddigon abl i wynebu'r her, a gallwn ni gynllunio at y dyfodol gyda'n gilydd.  Heddiw yw'r cam cyntaf – sef gwrando ar yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud cyn inni fynd ati i ddatblygu cynllun gweithredu a fydd yn seiliedig ar ein blaenoriaethau ym maes twristiaeth. Hoffen ni glywed eich barn ar y ffordd rydyn ni'n ffurfio ein heconomi ymwelwyr, sydd hanfodol bwysig i Gymru. Gyda'n gilydd gallwn ni ddyfeisio ffyrdd newydd o ddatblygu twristiaeth ar gyfer y blynyddoedd nesaf."