Araith gan Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yng Nghynhadledd y Leadership Foundation for Higher Education yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Bae Caerdydd.
Bore da bawb.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Sefydliad Arweinyddiaeth Addysg Uwch am fy ngwahodd i yma heddiw ac am roi’r cyfle i mi rannu fy meddyliau â chi ar arwain newid ym maes addysg yng Nghymru.
Yn union fel rydych chi wedi bod yn trafod y Brifysgol Ystwyth, rwyf finnau am ganolbwyntio ar Lywodraethu Ystwyth.
Nawr bydd rhai ohonoch yn meddwl, a hynny’n ddealladwy, nad yw llywodraethau’n gyffredinol yn enwog am eu hystwythder.
Ac ar ôl treulio blynyddoedd lawer yn yr wrthblaid, a dal gweinidogion i gyfrif, rwyf finnau wedi profi’r amheuon hynny hefyd.
Disgrifiodd James Madison, yn y Federalist Papers, benderfyniadau lluosog ac araf llywodraeth fel “monuments of deficient wisdom”.
Ei gyngor flynyddoedd pell yn ôl yn y 1780au oedd y dylid cadw pethau’n syml.
Ond nid mor syml efallai â llywodraethu trwy ddictad twitter am 5 o’r gloch y bore …
Yn ôl Madison, roedd llywodraethu da yn gyfystyr â dau beth.
Yn gyntaf, ffocws cyflawn ar y bwriad o wneud gwaith da – canolbwyntio ar les pobl.
Ac yna, yn syml, gwybod pa ddulliau fyddai orau i gyflawni hyn.
Wrth gyflawni rhaglen uchelgeisiol o ddiwygiadau addysg – yr hyn rwy’n ei ddisgrifio fel ein cenhadaeth genedlaethol – rwyf am rannu’r gwersi rwyf wedi eu dysgu mewn llywodraeth, a’m hegwyddorion arweiniol ar gyfer arwain a chyflawni newid, gan osgoi’r doethinebau diffygiol hynny.
Mae fy amcanion yn glir ar gyfer ein diwygiadau. Rhaid inni godi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy’n destun balchder a hyder i’r genedl.
Felly, mae gennym agwedd at newid sy’n cwmpasu’r system gyfan. Rydyn ni’n:
- Diwygio ein cwricwlwm a’n mesurau asesu er mwyn sicrhau safonau uwch;
- Yn lleihau maint dosbarthiadau i dargedu myfyrwyr difreintiedig ac annog dulliau dysgu arloesol;
- Canolbwyntio’n ddiflino ar arweinyddiaeth addysgol fel y prif sbardun ar gyfer llwyddiant;
- Gweddnewid cyllid myfyrwyr yn llwyr fel mai ni yw’r wlad gyntaf yn Ewrop i ddarparu’r un chwarae teg i bob myfyriwr;
- Sefydlu dull strategol sengl newydd, trwy awdurdod newydd, ar gyfer y system ôl-orfodol gyfan.
Felly mae fy neg mis cyntaf yn y swydd wedi bod yn rhai prysur dros ben!
Fis Mai diwethaf, yn ôl y cytundeb gyda’r Prif Weinidog a roes i mi le yn y llywodraeth, nodwyd y dylai ein cydweithio fod yn uchelgeisiol, yn optimistaidd ac yn arloesol.
Fe wnaethon ni gytuno mai addysg o ansawdd uchel yw’r grym sy’n gyrru symudedd cymdeithasol, ffyniant cenedlaethol a democratiaeth ymgysylltiol.
Credaf mai dim ond addysg – ac agor y cyfle i’n holl ddinasyddion – a all wireddu’r fath newid ar raddfa unigol a chenedlaethol mewn gwirionedd.
Fel academyddion ac arweinwyr mewn prifysgolion a cholegau, rwy’n gwybod fod ymrwymiad i drawsnewid bywydau a hyrwyddo addysg i mewn i gymdeithas yn ysgogi eich llwybr gyrfa dewisol. Rwy’n rhannu’r ymrwymiad hwnnw.
Ni ddylai gallu dinesydd i elwa ar addysg gael ei benderfynu yn ôl ble mae’n byw neu faint yw ei incwm.
Felly, mae ein diwygiadau’n canolbwyntio ar sicrhau tegwch a hyrwyddo rhagoriaeth. Ond i gyflawni’r uchelgeisiau hyn rhaid inni sicrhau bod y ddarpariaeth yn un gwerth chweil.
Ar un adeg, ystyriwyd y tair R fel sgiliau cynradd sylfaenol. Rwyf finnau o’r farn fod angen 5 C ar gyfer arwain newid mewn llywodraeth ystwyth.
Cydlyniant;
Clirder;
Cynghreirio;
Cred;
Cymell – bod yn Gymhellwr.
Dyma’r cyntaf.
Cydlyniant
I ddechrau, mae sicrhau cydlyniant ar draws y rhaglen ddiwygio gyfan yn bwysig
Mae pob un o’r diwygiadau neu’r mentrau, megis lleihau niferoedd mewn dosbarthiadau neu estyn ein cefnogaeth ariannol ar gyfer y disgyblion tlotaf, yn sefyll ar wahân.
Ond mae pob un, trwy ddatblygiad a chyflawniad, yn cysylltu â’i gilydd.
Mae’r naill yn cryfhau’r llall, ac mae ein hymrwymiad yn ymwneud â chodi safonau a lleihau’r bwlch cyrhaeddiad.
Nid dim ond wrth ddatblygu polisïau mae hyn yn bwysig, ond wrth eu cyfathrebu hefyd.
Rhaid iddyn nhw blethu i’w gilydd heb wrthdaro. A rhaid i’r proffesiwn hefyd allu deall sut mae’r diwygiadau’n plethu i’w gilydd, yn hytrach na chael eu gorlwytho â mentrau.
Credaf fod yr un peth yn wir mewn unrhyw sefydliad wrth gyflawni newid.
Dal ymlaen i ddweud y stori pam rydych chi’n credu yn yr hyn rydych chi’n ei wneud, a phwysleisio’r cysylltiadau rhwng y newidiadau.
Felly, rydyn ni’n lleihau’r niferoedd mewn dosbarthiadau trwy ganolbwyntio ar y dosbarthiadau mwyaf yn gyntaf sydd â’r gyfran uchaf o blant difreintiedig.
Ar yr un pryd, rydyn ni’n diwygio cyllid myfyrwyr er mwyn sicrhau ein bod yn targedu cymorth gyda chostau byw i’r sawl sydd â’r angen mwyaf, ar draws myfyrwyr llawn a rhan-amser ac ôl-raddedig.
Diwygiadau gwahanol ac ar wahân ond polisïau pwysig sy’n gydlynol wrth fynd i’r afael â chyfiawnder. Ni ddylai cyfle a chyrhaeddiad addysgol ddibynnu ar gefndir economaidd neu gymdeithasol dinesydd.
Clirder
Dyma un o’m rhaglenni allweddol, a gyflwynwyd fel rhan o drafodaethau cyllideb pan oeddwn yn yr wrthblaid ond yn awr sydd wedi’i estyn fel un o’n blaenoriaethau mewn llywodraeth. Y Grant Datblygu Disgyblion.
Yr wythnos ddiwethaf hon, rwyf newydd gyhoeddi newid yn yr enw. Grant Amddifadedd Disgyblion oedd yr enw blaenorol.
Mae’r newid bach ond arwyddocaol o gyfnewid y gair Amddifadedd am Ddatblygiad yn cyfleu’n well sut mae’n gweithio ac yn pwysleisio’r cynnydd a’r llwyddiant o rai lleihau’r bwlch cyrhaeddiad hefyd.
Mae sefydlu a mynegi clirder o ran diben yn hanfodol wrth arwain newid. Mae’n helpu i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar fynd at wreiddyn y problemau, a’r hyn mae’r diwygiadau’n ceisio eu cyflawni.
Yn achos y Grant Datblygu Disgyblion, mae’r grant yn galluogi ysgolion i fod yn arloesol wrth godi safonau a chyrhaeddiad ein disgyblion tlotaf.
Gwelsom ein bwlch cyrhaeddiad TGAU yn lleihau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Felly, gan ein bod yn awr wedi cynyddu’r cyllid, rwyf am bwysleisio datblygiad a chynnydd ac mae’r enw wedi esblygu.
Mae’n syml – ond mae nodi problemau yn aml yn syml.
Wrth gwrs, mae dyblygu a chyflawni polisïau yn gymhleth. Ond mae bob amser yn bwysig bod yn glir ynghylch pam, pryd a beth yw penderfyniadau a diwygiadau mawr. Wrth i chi arwain camau diwygio, mae’n rhaid i chi egluro.
Gwn weithiau y gall arweinwyr a gweision sifil, os mentraf ddweud hynny, fwynhau cymhlethdod y broses. Ond gwelaf hyn fel rhan o’m gwaith i gadw ffocws ar y newidiadau sylfaenol, a mynegi’r gwahaniaeth y byddan nhw’n eu gwneud i ddisgyblion, athrawon, myfyrwyr a rhieni.
Ac mae meddwl am y gynulleidfa honno yn hanfodol wrth arwain newid.
Cynghreirio
Rwy’n ymwybodol bod yn rhaid i ni ddatblygu cynghreiriau er mwyn cyflawni diwygiadau sylfaenol. Oes, mae’n rhaid i arweinydd arwain, ond dim ond gyda chynghrair fodlon y gallaf gyflawni.
A gallwch chi ddim dibynnu ar yr hen wynebau bob tro.
Credwch fi, mae bod yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol yn y Llywodraeth yn golygu bod yn rhaid imi weithio’n galed i ennill cefnogaeth a dwyn perswâd!
O ddifri, mae’n fater o wleidyddiaeth a chynllunio.
Wrth imi gychwyn ar y gwaith o ddiwygio cyllid myfyrwyr, er enghraifft, roedd hi’n bwysig ymgysylltu’n llawn ag Undeb y Myfyrwyr. Ac er bod ein safbwyntiau ar y polisi ychydig yn wahanol, rwyf wedi mynd ati i egluro a thrafod y gwahaniaethau hynny.
Yn sgil hynny, rydym wedi gallu canolbwyntio ar yr amcan cyffredin o gefnogi myfyrwyr pan fyddan nhw fwyaf angen y cymorth.
Ond mae’n bwysig tanlinellu na all y cynghreiriau hyn gael eu harwain gan y cynhyrchydd.
Fel y dywedais cynt, rhaid i’m ffocws i fod ar y myfyriwr a’r rhiant. Nid yw hynny’n golygu na ddylai Gweinidog hefyd ganolbwyntio ar athrawon a darlithwyr, hyd yn oed Is-gangellorion, os mentraf ddweud.
Yn wir, athrawon yw’r ysgogwyr newid a gwella mwyaf pwerus yn ein system addysg.
Rwyf wedi ceisio manteisio ar faint ein system addysg lai wrth gyflawni diwygiadau.
Felly, yn yr un ffordd ag yr ydw i’n ymweld ag ysgolion ledled y wlad bob wythnos, yn gynharach y mis hwn fe wnes i annerch cynhadledd o 200 o’n penaethiaid uwchradd – tua 95% o’r holl benaethiaid uwchradd yng Nghymru.
Rwy’n derbyn weithiau bod maint cymharol fach ein gwlad yn gallu bod yn her, ond rwy’n gwybod hefyd y dylai ein galluogi i fod yn fwy ystwyth, arloesol a chydgysylltiedig.
Ac mae’n hanfodol datblygu synnwyr o fod megis un gydag un uchelgais i wneud y pethau craidd hyn yn well.
Dyna pam rwy’n siarad am genhadaeth genedlaethol - mae diwygio a gwella ein system addysg yn mynd i wraidd pwy ydyn ni fel cymdeithas a gwlad.
Cred
Credaf yn ein gallu i gyflawni’r genhadaeth genedlaethol honno.
Mae cred, a bod yn hyderus a dewr, yn bwysig wrth arwain newid.
Ond mae’n llawn mor bwysig bod â digon o gred a hyder yn y newid mawr fel y gallwch chi dderbyn cyngor a thystiolaeth.
Rwy’n argyhoeddedig y bydd diwygio ein cwricwlwm, ynghyd â mesurau i newid dulliau asesu, hyfforddiant athrawon a dysgu proffesiynol ar gyfer athrawon, yn arwain at safonau uwch.
Ond gwn hefyd nad oes yna’r un athro, na phennaeth, yn gweithredu ar ei ben ei hun, a does gan ddim hyd yn oed Gweinidog Addysg, yr holl atebion na’r gallu i gyflawni’r newidiadau mawr hynny.
Felly er fy mod i’n glir a hyderus am y diwygiadau i’r cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar bedwar amcan, bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyd-lunio gan y proffesiwn, gyda mewnbwn gan arbenigwyr rhyngwladol blaenllaw.
Roeddwn i’n glir mod i am ddiwygio addysg uwch a chyllid myfyrwyr a symud i ffwrdd o system anghynaliadwy ac anfforddiadwy.
Ond mae’r diolch i waith Syr Ian Diamond a’i banel adolygu bod gennym ddull pragmataidd ac egwyddorol o gyflawni diwygiadau effeithiol.
Mae’n defnyddio tystiolaeth ac ymchwil o Ontario, Awstralia, America a mannau eraill, sydd wedi dylanwadu ar ein hymagwedd at leihau maint dosbarthiadau.
Fel yr Ysgrifennydd Addysg, rwy’n radical am yr hyn rwyf am ei gyflawni, ond yn ddigon pragmataidd i wybod y dylai’r dulliau a’r modelau fod yn seiliedig ar ymarfer gorau ac ar dystiolaeth.
Felly mae dwy elfen i gael cred wrth arwain newid.
Cred wrth arwain a rhannu uchelgeisiau ac amcanion clir; ynghyd â chred a hyder i wrando a cheisio barn ar sut i gyflawni’r amcanion hynny y cytunwyd arnynt.
Cymell
Ar ôl ‘cred’, dyma fi’n awr yn dod at fy C olaf. Cymell. Bod yn gymhellwr.
Mae hyn yn golygu bod ag ymrwymiad personol i ddiwygiadau, fydd yn arwain at newid.
Yn y bôn, nid gwaith eraill yw gwrando ac egluro. Yn union fel mae rhai siopau’n rhybuddio, ‘os torrwch chi fe, chi sy’n berchen arno fe’ – o’i drosi i fyd arweinydd, ‘os ydych chi’n ei ddiwygio, rhaid i chi ei hawlio”.
Mae cymell diwygio yn dwyn ynghyd dull cydlynol, clirder ynghylch pwrpas, cynghreirio ac yn ysgogi cred.
Mae hefyd yn golygu ymrwymo i newid hirdymor.
Rwy’n pwyso a mesur diwygiadau megis rhai Pecyn Diamond drwy bwyso a mesur ydw i’n sicrhau newid sy’n gynaliadwy a sefydlog.
Dydw i ddim yn ofni mynegi barn yn groyw, ac yn gadarn, am bolisïau mawr megis cyllid myfyrwyr neu newidiadau i’r cwricwlwm. Ond fe fydda’i ond yn gwneud hynny os ydy’r newidiadau hynny’n golygu na fydd Gweinidog Addysg yn y dyfodol yn gorfod wynebu’r union un broblem.
Fel y dywedodd Bill Clinton “rhaid i chi bob amser, bob amser, bob amser fod â chynllun ar gyfer y dyfodol”.
Trwy gefnogi a chymell newid, rhaid i chi ddangos bod penderfyniad heddiw yn cynnig yr ateb iawn ar gyfer yfory.
Tystiolaeth a dadleuon, eiriolaeth ac egni - dyma’r hyn sydd eu hangen ar arloeswr er mwyn cymell newid hirdymor. Arwain o’r blaen gyda phwrpas clir, ond gan adeiladu eich achos, ac adeiladu ein tîm.
Peidiwch byth ag ofni gwrando, neu ofyn am ein cyngor. Ond gwrandewch ar y cyngor hwnnw o fewn y cyd-destun o dderbyn newid a fydd yn digwydd, ac y bydd rhaid iddo ddigwydd.
Mae gennym genhadaeth genedlaethol yng Nghymru i ddiwygio ein system addysg.
Yn wir, ein cenhadaeth yw trawsnewid ein bywydau, ein cymunedau a’n gwlad. A gallaf ddyfynnu’r cyn Arlywydd Clinton unwaith eto, pan ddywedodd, “Mae mynediad i’n haddysg yn fynediad i’n dyfodol”.
Wrth arwain newid, a bod yn ddigon ystwyth i gynllunio a chyflawni, rydym yn ceisio creu gwell dyfodol. Rydyn ni’n gwneud hynny drwy system addysg a all fod yn destun balchder a hyder cenedlaethol o’r iawn ryw.
Yn ystod y deng mis diwethaf, ac wrth edrych ymlaen, gwn mai’r cydlyniant, y clirder, y cynghreirio, y gred a’r cymell a fydd yn sail i’m gallu i a’n gallu ni i arwain newid.
Mae hi’n ymdrech ar y cyd i ddiwygio addysg, ond mae’n genhadaeth sydd angen bod yn optimistaidd, yn arloesol ac yn uchelgeisiol.
Ac mae’n fraint o’r mwyaf ac yn gyfrifoldeb mawr hefyd i arwain y newid hwnnw, ac i weithio gyda chydweithwyr ar draws ysgolion, colegau a phrifysgolion.
Diolch yn fawr i chi am wrando.