Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y Prif Weinidog

Mae mynd i’r afael â’r argyfwng coronafeirws wedi golygu newidiadau mawr i fywydau pob un ohonom ar draws Cymru. Rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd er mwyn achub bywydau a diogelu ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Mae’n amlwg bod gweithredoedd pob un ohonom wedi cyfrannu at y gostyngiad yn y lefelau haint yng Nghymru, ond mae’r feirws yn parhau i fod yn fygythiad difrifol iawn i bob un ohonom ac ni allwn laesu dwylo o gwbl.

Oherwydd hyn, wrth inni ystyried codi rhai o’r cyfyngiadau, mae’n rhaid inni wneud hynny yn ofalus iawn, gan ystyried y data a’r dadansoddiadau gwyddonol gorau.

Mae pob un ohonom wedi chwarae ein rhan drwy gadw at y cyfyngiadau. Wrth edrych tua’r dyfodol, hoffwn fod yn agored gyda phobl Cymru wrth i mi a’m cydweithwyr yn y Cabinet ystyried sut y gellir llacio’r cyfyngiadau. Hoffwn gynnal sgwrs gyda phobl Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf, i esbonio sut y byddwn yn gwneud penderfyniadau a phwyso a mesur y risgiau a’r manteision o godi’r cyfyngiadau ar symud.

Rwy’n ymwybodol o’r effaith ar deuluoedd, swyddi, iechyd a llesiant pob un ohonom, ond ni allwn chwaith beryglu effaith yr holl aberth rydym eisoes wedi’i wneud. Ni fyddwn ni’n gwneud unrhyw beth heb fod mor siŵr ag y gallwn na fydd perygl y daw ail don sylweddol o’r haint, ac yna gorfod ailgyflwyno rhai cyfyngiadau.

Rwy’n sylweddoli y bydd llawer o bobl yn bryderus am ddychwelyd i ryw fath o fywyd arferol – felly mae’r fframwaith hwn hefyd yn amlinellu’r dystiolaeth, yr egwyddorion a’r mesurau iechyd y cyhoedd a fydd yn gwneud yn siŵr y gall pawb fod yn hyderus yn y dull o lacio’r cyfyngiadau.

Mae’r fframwaith hwn felly yn seiliedig ar dri philer:

  1. Yn gyntaf, mae’n amlinellu’r mesurau a’r dystiolaeth y byddwn yn eu defnyddio i farnu’r lefelau haint presennol a chyfraddau trosglwyddo coronafeirws yng Nghymru.
  2. Yn ail, mae’n amlinellu cyfres o egwyddorion y byddwn yn eu defnyddio i ymchwilio i’r dulliau arfaethedig o lacio’r cyfyngiadau presennol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth wyddonol ac effeithiau cymdeithasol ac economaidd ehangach.
  3. Yn drydydd, byddwn yn gwella ein system ar gyfer cadw golwg ar iechyd y cyhoedd ac ymateb i’r sefyllfa, i’n galluogi i fedru olrhain y feirws yn ofalus wrth i’r cyfyngiadau godi, ac yn edrych ar sut y bydd y system hon yn diogelu iechyd pobl. Mae Cymru wedi cynnal system Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol gyda phresenoldeb lleol cryf ym mhob rhan o Gymru, a byddwn yn adeiladu ar y cryfderau hyn.

Bydd y cynllun adferiad iechyd y cyhoedd hwn yn defnyddio tystiolaeth ryngwladol ac yn adeiladu ar ein rhwydweithiau cryf presennol. Gyda’i gilydd, y pileri hyn yw’r sail ar gyfer arwain Cymru allan o’r argyfwng hwn mewn ffordd a fydd yn cadw pawb yn ddiogel ac yn adfywio ein heconomi cyn gynted â phosibl.

Cyflwynwyd y cyfyngiadau ar symud yn yr un ffordd ac ar yr un pryd ledled y Deyrnas Unedig, a’n dewis ni fel llywodraeth fyddai bod pob un o’r pedair gwlad yn mynd ati i godi’r cyfyngiadau yn yr un ffordd. Serch hynny, rydym wedi dweud yn gyson y byddwn yn gwneud y penderfyniadau cywir er lles pobl Cymru.

Ein nod yma yw bod yn agored ynglŷn â’r penderfyniadau hynny a defnyddio’r amser sydd gennym i ystyried ac adolygu’r cyfyngiadau, gan gynnwys pobl yn y gwaith hwnnw a gofyn eu barn. Mae’r ddogfen hon yn egluro sut y byddwn yn gwneud hynny, yn ogystal â chyfrannu at y gwaith sy’n mynd rhagddo ledled y DU i fapio’r ffordd ymlaen.

Mark Drakeford AC
Y Prif Weinidog

Piler 1: Mesurau a thystiolaeth

Yr ystyriaeth bwysicaf o safbwynt iechyd y cyhoedd yw na ddylai llacio’r cyfyngiadau presennol achosi rhagor o niwed o ran effeithiau uniongyrchol y feirws. Mae angen inni fedru dangos bod yr achosion presennol o’r haint o dan reolaeth, a sicrhau ein bod ni’n deall sut y mae’r clefyd yn teithio drwy ein cymunedau yng Nghymru.

Dros y tair wythnos nesaf, byddwn yn canolbwyntio ar ddeall a mesur y lefelau haint yng Nghymru. I gyflawni hyn rydym yn cynyddu ein capasiti a’n gallu i brofi i ddiwallu ein hanghenion ym mhob cwr o Gymru.

Rydym wedi cynyddu ein capasiti iechyd a gofal yn sylweddol a byddwn yn gwneud defnydd da ohono, gan benderfynu sut y gallwn ofalu orau am unigolion a allai fod wedi’u heintio â COVID-19 heb roi eraill mewn perygl. Rydym yn gwybod y gall fod angen i unigolion sy’n dioddef yn ddifrifol fod yn yr ysbyty am sawl wythnos, boed hynny mewn ward ynysu, neu ysbyty ar wahân megis Calon y Ddraig neu ysbyty maes arall yng Nghymru.

Mae angen ystyried pob rhan o fywyd bob dydd, i weld beth allai’r perygl heintio fod pe baem yn mynd yn ôl i’r drefn arferol heb i unrhyw beth newid. Bydd angen i gynllun adferiad Cymru ymdrin â sut y gallwn ddychwelyd i’r gwaith ac i fyd addysg ac ailddechrau cwrdd â’n teuluoedd a’n ffrindiau heb beryglu bywydau nac iechyd.

Mae angen inni fod yn sicr y gallwn olrhain a thrin achosion o’r haint yn y dyfodol, nawr yn yr haf yn ogystal â phan ddaw’r pwysau gwirioneddol ym misoedd y gaeaf. Mae angen inni wybod y gallwn reoli achosion yn y dyfodol, fel na fydd raid inni ailgyflwyno cyfyngiadau y byddwn yn penderfynu eu codi.

Mae’r dystiolaeth y bydd angen inni lacio’r mesurau presennol yn gymhleth, ond mae’n dod yn gliriach. Drwy brofi’r boblogaeth yn llawer ehangach, byddwn yn gwybod bod y gyfradd heintio yn gostwng. Dyma rai o’r ffactorau i’w hystyried wrth godi cyfyngiadau:

  • Tystiolaeth o ostyngiad parhaus mewn metrigau allweddol megis derbyniadau i’r ysbyty oherwydd COVID-19 am o leiaf 14 diwrnod.
  • Tystiolaeth y gallwn ymdopi â’r cynnydd disgwyliedig mewn anghenion gofal iechyd am o leiaf 14 diwrnod os yw’r gyfradd heintio yn mynd dros 1 a’r feirws yn lledaenu’n eang unwaith eto. Dyma faint o amser y bydd ei angen rhwng gosod cyfyngiadau ac atal y cynnydd eto.
  • Sicrwydd bod gennym ddigon o gyfarpar diogelu personol ar gyfer yr holl weithwyr ar y rheng flaen sydd ei angen er mwyn cyflawni ein cynllun adferiad.
  • Tystiolaeth ryngwladol gadarn ynglŷn ag effaith amrywiol gamau i godi cyfyngiadau ar ledaeniad y feirws, gan ymgysylltu â gwledydd ar draws y byd i ddysgu oddi wrth eu mesurau hwy, a chadw mewn cysylltiad agos â’r gweinyddiaethau datganoledig eraill a Maer Llundain.

Piler 2: Egwyddorion i werthuso newidiadau i’r cyfyngiadau

Dros y diwrnodau a’r wythnosau nesaf, byddwn yn parhau i adolygu’r cyfyngiadau presennol, ac yn ystyried opsiynau i’w llacio yn ddiogel. Byddwn yn gwerthuso’r opsiynau hyn yn erbyn yr egwyddorion canlynol, er mwyn profi faint o risg sydd iddynt a’r manteision posibl.

I ba raddau y byddai llacio cyfyngiad yn cael effaith negyddol ar reoli’r feirws?

  • A yw’r cam yn gyson â thybiaethau sy’n llywio’r mesurau cyffredinol i reoli’r haint?
  • A yw’r cam yn ceisio sicrhau mantais benodol i iechyd y cyhoedd?
  • A yw’r cam yn cyd-fynd â’r gwerthusiadau sydd wedi’u gwneud o gamau tebyg mewn ardaloedd eraill?

A yw’r risg o heintio pellach sydd ynghlwm â’r mesur yn isel?

  • A oes modd pennu graddfa’r mesur yn ddigonol?
  • A yw graddfa’r cam yn gymesur â maint y risg o heintio pellach?
  • A oes modd rhannu gwybodaeth ynglŷn â graddfa’r cam yn glir er mwyn osgoi dryswch ynglŷn â’i union faint a’i derfynau?

Sut y gellir ei fonitro a’i orfodi?

  • Pa mor weladwy yw’r cam arfaethedig?
  • A yw’r cam eisoes yn destun prosesau rheoleiddio, arolygu neu gadw golwg?
  • A oes modd diffinio achosion o dorri’r rheol yn ddigon clir ar gyfer gorfodi pobl i gydymffurfio?

A oes modd ei wrthdroi’n gyflym os oes canlyniadau anfwriadol?

  • A oes trefniadau digonol i fonitro effaith y cam?
  • A yw’r cam wedi’i ddiffinio’n ddigonol i allu rhannu gwybodaeth yn gyflym â’r rhai sy’n ymwneud â’r cam?
  • A yw canlyniadau posibl gwrthdroi’r cam wedi bod yn destun proses dadansoddi risg?

A oes mantais economaidd gadarnhaol gymharol fawr ynghlwm â’r cam?

  • A oes modd cyfrifo’r fantais economaidd yn glir?
  • A yw’r cam sydd ag iddo fantais economaidd yn gyson ag ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i sicrhau Cymru fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrdd?
  • A yw’r fantais economaidd yn gyfyngedig a/neu’n gul ei chwmpas?

A yw’r cam yn cael effaith fawr ar lesiant cymdeithasol neu seicolegol?

  • A yw’r cam yn effeithio ar grŵp penodol sy’n agored i niwed neu sydd dan anfantais?
  • A yw’r cam yn un y gellir ei amgyffred a chyflwyno gwybodaeth amdano fel rhywbeth sy’n effeithio ar lesiant?
  • A allai’r cam rannu/uno cymdeithas?

A yw’r cam yn cael effaith gadarnhaol iawn ar gydraddoldeb?

  • A yw’r cam yn gyson â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a deddfwriaeth arall?
  • A oes unrhyw ogwydd i’r cam a fyddai’n cael effaith niweidiol ar grwpiau agored i niwed neu grwpiau sydd ar y cyrion?
  • A yw’r cam yn darparu unrhyw gyfleoedd ar gyfer ehangu cyfranogiad a meithrin cymdeithas sy’n fwy cynhwysol?

Yr egwyddorion hyn fydd sail ein dull o lacio’r cyfyngiadau presennol, ac maent wedi’u seilio ar egwyddorion sy’n nodweddiadol Gymreig.

Yr adferiad ehangach o’r llawer o wahanol ffyrdd y mae’r argyfwng presennol wedi effeithio ar Gymru yw’r her fwyaf inni ei hwynebu fel llywodraeth ddatganoledig.

Bydd y gwaith hanfodol hwn yn cael effaith ar bob agwedd ar fywyd pobl Cymru. Bydd yn hynod bwysig ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, yr economi a chymdeithas. Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd fydd yn goruchwylio’r gwaith yn Llywodraeth Cymru o ymateb i’r argyfwng, a bydd yn tynnu oddi ar brofiadau a gafwyd y tu allan i’r Llywodraeth ei hun er mwyn sicrhau bod ein paratoadau ar gyfer adferiad yn y dyfodol yn greadigol ac yn gynhwysfawr.

Mae ein bywydau bob dydd a’r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu wedi newid llawer, a hynny mewn cyfnod byr iawn, yn sgil yr argyfwng hwn. Gwnaed newidiadau a fyddai wedi cymryd misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd i’w cyflawni mewn cyfnod o wythnosau yn unig. Mae’n hanfodol ein bod yn manteisio ar y newidiadau a all cael effaith gadarnhaol am gyfnod hir eto, er enghraifft, gwneud mwy o ddefnydd o dechnoleg wrth gynnal ymgyngoriadau meddygol, ac ailystyried lle y gellid defnyddio technoleg er mwyn teithio llai ar gyfer y gwaith, gan gyfrannu at ein targedau hirdymor ar gyfer yr hinsawdd.

Piler 3: Ymateb iechyd y cyhoedd

Gall niwed i bobl Cymru yn gysylltiedig â COVID-19 ddigwydd mewn pedair ffordd allweddol:

  1. yn gyntaf, drwy niwed uniongyrchol i unigolion o haint SARS-CoV2 a chymhlethdodau gan gynnwys yn achos y rheini sy’n datblygu salwch difrifol, gyda rhai ohonynt yn marw yn anffodus o ganlyniad
  2. yn ail, y niwed a achosir os yw gwasanaethau gan gynnwys y GIG yn methu ag ymdopi â’r pwysau oherwydd cynnydd sydyn yn y galw gan gleifion sydd â COVID-19 ar ysbytai, cyfleusterau gofal critigol a gwasanaethau allweddol eraill
  3. yn drydydd, y niwed o salwch nad yw’n COVID-19, er enghraifft os nad yw unigolion yn ceisio sylw meddygol am eu salwch yn ddigon cynnar a bod eu cyflwr yn gwaethygu o ganlyniad, neu yn fwy cyffredinol o’r newidiadau angenrheidiol i gyflenwi gwasanaethau’r GIG a wnaed yn ystod y pandemig yng Nghymru i roi terfyn dros dro ar weithgareddau nad ydynt yn hanfodol
  4. yn bedwerydd, y niwed economaidd-gymdeithasol a chymdeithasol, er enghraifft yr effaith economaidd ar rai grwpiau economaidd-gymdeithasol os na allant weithio, yr effaith ar fusnesau sy’n gorfod cau neu sy’n wynebu cwymp yn y galw gan gwsmeriaid, effaith seicolegol y polisi o gadw pellter cymdeithasol ar y cyhoedd ynghyd â llawer o effeithiau eraill.

Bydd angen ymateb iechyd y cyhoedd cynhwysfawr, a ddatblygir ar raddfa eang, i gefnogi’r mesurau ar gyfer llacio’r cyfyngiadau.

Bydd yr ymateb yn cael ei rannu’n bedwar maes:

  • camau gwell i gadw golwg ar y sefyllfa
  • nodi achosion yn effeithiol ac olrhain cysylltiadau
  • dysgu o brofiad rhyngwladol
  • ymgysylltu â’r cyhoedd

Maes 1: Gwella mesurau cadw golwg COVID-19

Prif nod y mesurau cadw golwg ar y clefyd fydd parhau i leihau nifer y lefelau haint, a’r ail nod fydd casglu gwybodaeth am grwpiau sydd mewn perygl a chanlyniadau er mwyn llywio’r polisi ar gyfer brechu (pan fydd brechlyn i’w gael). Bydd ein system ar gyfer cadw golwg ar COVID-19 yn monitro lefelau trosglwyddo yn y gymuned, ymhlith grwpiau agored i niwed ac yn lleoliadau’r GIG.

Pan fydd brechlyn ar gael bydd y mesurau cadw golwg yn canolbwyntio ar fonitro effaith y brechlyn, nifer yr unigolion a fydd yn cael eu brechu, methiannau gyda’r brechlyn a digwyddiadau niweidiol, newidiadau o ran epidemioleg ac amrywiad o ran y math o’r feirws, a rheoli achosion o’r feirws. I gyflawni’r maes hwn, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arwain ar y gwaith o ddylunio system ar gyfer cadw golwg ar COVID-19 ac yn ei rhoi ar waith.

Maes 2: Nodi achosion a rheoli cysylltiadau

Bydd camau gweithredu i olrhain cysylltiadau ar raddfa fawr, a gynhelir yn ddigidol, a’u cydlynu a’u gweithredu’n lleol ledled Cymru yn cefnogi’r gwaith o gadw golwg ar y sefyllfa. Iechyd Cyhoeddus Cymru fydd yn ymgymryd â’r gwaith o gydlynu’r cyfnod adfer, a bydd yn cael ei weithredu’n lleol o dan arweiniad Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd lleol.

Mae Cymru wedi gwella ei Gwasanaeth Diogelu Iechyd Cenedlaethol yn ddiweddar.

Er mwyn cydlynu ar y raddfa fydd yn angenrheidiol ar gyfer ein strategaeth ar gyfer adferiad bydd angen cynyddu nifer gweithwyr iechyd y cyhoedd yn sylweddol, a bydd yn ofynnol i’r gweithlu hwnnw fod yn un llawer ehangach. Bydd y gweithlu ehangach hwn yn tynnu oddi ar staff presennol sy’n gweithio yn y meysydd diogelu iechyd ac iechyd yr amgylchedd, iechyd cymunedol, yn ogystal â staff o’r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol. I gyflawni’r maes hwn, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datblygu fframwaith gweithredu safonol ar gyfer Timau Rheoli Cymunedol.

Maes 3: Dysgu o brofiad rhyngwladol

Mae angen ymwybyddiaeth ragorol o’r sefyllfa a dadansoddi effeithiau strategaethau rhyngwladol ar gyfer llacio cyfyngiadau ar y boblogaeth. Dylai’r dadansoddiad hwn gynnwys yr effaith ar nifer yr achosion, marwolaethau, y defnydd o ofal iechyd, a pha mor dderbyniol ydy’r mesurau i’r cyhoedd. Mae amrywiol ddulliau eisoes yn cael eu defnyddio mewn gwahanol wledydd, gan gynnwys torri’n raddol ar y cyfyngiadau yn Awstria, dull mwy rhanbarthol yn UDA a’r Almaen o fynd i’r afael â’r mesurau a defnydd ehangach o dechnoleg, fel olrhain cysylltiadau ar ffonau symudol, yn Korea a Singapôr.

Bydd Cymru yn sefydlu system ar gyfer monitro’r ymdrechion yn rhyngwladol i adfer y sefyllfa, i ddysgu mwy amdanynt ac adrodd arnynt. Bydd hyn yn caniatáu inni ddatblygu dull trefnus o werthuso’r camau i’w cymryd ar gyfer llacio’r cyfyngiadau er mwyn mabwysiadu agwedd yn canolbwyntio ar y risg i iechyd y cyhoedd, a fydd yn seiliedig ar ddangosyddion cymdeithasol ac economaidd ehangach.

Maes pedwar: Cadw mewn cysylltiad â chymunedau

Drwy’r cyfnod adfer, gan gydnabod yr amrediad o ymyriadau a chamau cymhleth a fydd yn cael eu rhoi ar waith, bydd angen dulliau cyfathrebu cadarn a bydd yn ofynnol cynnal sgwrs gyda’r cyhoedd ar lefel genedlaethol a lleol. Fel gyda’r mesurau rheoli ymddygiadol a chymdeithasol, bydd yn ofynnol i’r cyhoedd gymryd y cynllun adfer o ddifrif a chydymffurfio er mwyn helpu i liniaru effaith COVID-19 yn y gymuned. Bydd Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid yn parhau i roi blaenoriaeth i weithio gyda’r cyhoedd wrth inni gynllunio gyda’n gilydd ar gyfer symud ymlaen i’r cyfnod adfer.

Rhannu’r dudalen hon