Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi bod Arup wedi'u penodi i ddatblygu manyleb lawn y dyluniad ar gyfer yr Athrofa Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch newydd yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy.
Hanfod gwaith yr Athrofa fydd annog cydweithio rhwng Cwmnïau Angori a Chwmnïau o Bwys Rhanbarthol, busnesau bach a chanolig a phartneriaid Addysg Bellach/Uwch er mwyn datblygu systemau, prosesau a galluoedd gweithgynhyrchu newydd ac arloesol fydd yn gwella ansawdd a chynhyrchiant busnesau mewn amrywiaeth o sectorau.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Mae cyhoeddiad heddiw'n dilyn fy ymrwymiad ym mis Tachwedd 2016 pan gyhoeddais fy nghynlluniau uchelgeisiol ar gyfer datblygu athrofa ymchwil gweithgynhyrchu uwch yng Nglannau Dyfrdwy ac addewid o £20m, hynny ar ôl cyngor gan Fwrdd Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy.
"Rwy'n disgwyl ymlaen at weld y fanyleb derfynol y bydd Arup a'u partneriaid, gyda swyddogion o Lywodraeth Cymru yn ei pharatoi."
Dywedodd Paul Webber, arweinydd Arup Cymru:
"Rydyn ni'n falch o gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y prosiect hwn. Mae gennym brofiad o ddatblygu cyfleusterau ymchwil o safon fyd-eang a byddwn yn manteisio ar arbenigeddau ym mhob rhan o gwmni Arup.
"Bydd yr athrofa'n hwb i Gymru, gan helpu i ddatblygu sgiliau a galluoedd a thwf yn y sector gweithgynhyrchu uwch."
Mae Arup yn darparu gwasanaethau amlddisgyblaethol gan gynnwys rheoli prosiectau, dylunio a pheirianneg, cynllunio ac arbenigedd. Bydd yr athrofa newydd yn gosod sylfaen ddiwydiannol gystadleuol gref a fydd yn sbardun ar gyfer twf a swyddi ar draws y gadwyn gyflenwi yng Nglannau Dyfrdwy, y Gogledd a'r Canolbarth, y Northern Powerhouse a thu hwnt.