Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi y bydd rheol interim i aros yn lleol yn cael ei chyflwyno o yfory (dydd Sadwrn 13 Mawrth) ymlaen yn lle’r cyfyngiadau aros gartref. Bydd y rheol hon yn rhan o becyn o fesurau i ddechrau ar broses raddol a phwyllog o lacio’r rheoliadau llym sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd sicrhau bod plant yn dychwelyd i’r ysgol er mwyn cael dysgu wyneb yn wyneb yn parhau i gael blaenoriaeth ond bydd y cyfyngiadau mewn rhannau eraill o’n cymdeithas yn cael eu llacio’n raddol hefyd.

Bydd y rheol newydd i aros yn lleol yn golygu y bydd pobl yn cael gadael eu cartrefi a theithio o fewn eu hardal leol – o fewn pum milltir fel arfer. Bydd cyfleusterau chwaraeon awyr agored lleol yn cael eu hagor hefyd.

Bydd y rheol fras 5 milltir yn cael ei hesbonio mewn canllawiau – efallai y bydd angen i bobl sy'n byw mewn rhai rhannau o Gymru, yn enwedig ardaloedd gwledig, deithio ymhellach na phum milltir er mwyn mynd i siopa a manteisio ar wasanaethau cyhoeddus eraill.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

"Diolch i'r ymdrechion gwych mae pawb wedi'u gwneud, gallwn ni newid ychydig ar y cyfyngiadau presennol, a bydd y newidiadau hynny’n cael eu cyflwyno'n raddol dros yr wythnosau nesaf.

"Yn gyffredinol, mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn parhau i ostwng; mae llai o bwysau ar ein GIG, ac mae’n rhaglen frechu yn parhau i fynd o nerth i nerth.

"Ond ein cyngor clir iawn yw nad yw'r feirws wedi diflannu – yr amrywiolyn hynod heintus o Gaint yw'r straen amlycaf yng Nghymru, a chyn gynted ag y byddwn ni’n dechrau cymysgu eto, bydd y feirws yn dod yn ei ôl hefyd.

"Gyda phob un o’r camau rydyn ni'n eu cymryd er mwyn cael byw bywyd mwy normal unwaith eto, ni sy'n gyfrifol am yr hyn fydd yn digwydd nesaf. Er y byddwn ni’n croesawu mwy o ryddid i symud o gwmpas yn lleol ac i gwrdd â theulu a ffrindiau, allwn ni ddim mentro peidio â bod yn wyliadwrus."

O ddydd Sadwrn 13 Mawrth ymlaen:

  • Ni fydd mwy na phedwar o bobl o ddwy aelwyd yn cael cyfarfod yn yr awyr agored yn eu hardal leol, gan gynnwys mewn gerddi. Nid yw plant o dan 11 oed a gofalwyr yn cyfrif tuag at y terfyn hwnnw. Ni ddylai pobl gymysgu dan do a dylent gadw pellter cymdeithasol.
  • Caiff cyfleusterau chwaraeon awyr agored ailagor, gan gynnwys cyrtiau tenis, cyrsiau golff a lawntiau bowlio. Caiff uchafswm o bedwar o bobl o ddwy aelwyd gymryd rhan mewn gweithgareddau gan ddefnyddio cyfleusterau chwaraeon lleol.
  • Bydd ymweliadau dan do â chartrefi gofal yn cael ailddechrau, ar gyfer un ymwelydd dynodedig yn unig, gyda chaniatâd y cartref gofal.

O ddydd Llun 15 Mawrth ymlaen:

  • Bydd pob disgybl cynradd a disgyblion sy’n astudio ar gyfer cymwysterau yn cael dychwelyd i’r ysgol. Bydd gan ysgolion yr hyblygrwydd i ddod â disgyblion blwyddyn 10 a blwyddyn 12 yn eu hôl, er mwyn eu helpu i symud ymlaen i gam nesaf eu dysgu, a bydd mwy o ddysgwyr yn dychwelyd i golegau. Bydd hyblygrwydd hefyd i ysgolion gynnal sesiynau ailgydio ar gyfer pob disgybl arall. Bydd pob dysgwr yn dychwelyd ar ôl gwyliau’r Pasg.
  • Bydd siopau trin gwallt a siopau barbwr yn cael ailagor ar gyfer apwyntiadau.

O ddydd Llun 22 Mawrth ymlaen:

  • Bydd y camau cyntaf yn cael eu cymryd i ailagor busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol. Bydd cyfyngiadau ar werthu eitemau nad ydynt yn hanfodol yn cael eu codi ar gyfer y siopau hynny sydd ar agor ar hyn o bryd.
  • Bydd canolfannau garddio’n ailagor hefyd.

Bydd £150 miliwn ychwanegol ar gael i gefnogi’r busnesau hynny nad ydynt yn cael agor eto.

Bydd yr arian ychwanegol yn golygu y bydd busnesau yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden, a busnesau manwerthu nad ydynt hanfodol, yn gymwys i gael taliad ychwanegol o hyd at £5,000 os ydynt yn talu ardrethi annomestig.

Yn ystod trydedd wythnos y cyfnod adolygu, byddwn yn pwyso a mesur y dystiolaeth ddiweddaraf cyn cadarnhau newidiadau ar gyfer gwyliau'r Pasg. Os bydd yr amodau iechyd cyhoeddus yn parhau i fod yn ffafriol, o 27 Mawrth ymlaen:

  • Bydd y cyfyngiadau aros yn lleol yn cael eu codi er mwyn caniatáu i bobl deithio yng Nghymru.
  • Bydd llety gwyliau hunangynhwysol yn ailagor ar gyfer un aelwyd.
  • Bydd gweithgareddau wedi'u trefnu yn yr awyr agored ar gyfer plant yn cael ailddechrau.
  • Bydd llyfrgelloedd yn ailagor.

Wrth gynnal yr adolygiad ar 1 Ebrill, bydd y llywodraeth yn ystyried a ellir ailagor yr holl siopau eraill a gwasanaethau cyswllt agos ar 12 Ebrill, yn yr un modd ag yn Lloegr.

Ychwanegodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

"Mae angen help pawb arnon ni wrth inni ddechrau llacio'r cyfyngiadau hyn. Mae angen i bob un ohonon ni ddilyn y rheolau, i gadw pellter cymdeithasol, arfer hylendid dwylo da a gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do.

"Rydyn ni i gyd eisiau gweld Cymru'n ailagor ac am gael byw bywyd mwy normal unwaith eto. Mae hynny o fewn golwg – ond dim ond os gallwn ni gadw'r feirws dan reolaeth. ’Does dim un ohonon ni am inni orfod ailgyflwyno cyfyngiadau llym a dadwneud y cynnydd rydyn ni wedi'i wneud. Dim ond drwy gydweithio y gallwn ni helpu i gadw Cymru'n ddiogel."

Mae’r newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno ar ôl yr adolygiad statudol rheolaidd o'r rheoliadau coronafeirws sy’n cael ei gynnal gan Weinidogion Cymru, gan ddefnyddio’r dystiolaeth wyddonol a meddygol ddiweddaraf oddi wrth Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau (SAGE), Cell Ymgynghorol Technegol (TAC) Llywodraeth Cymru, a chyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru.