Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru: Gorffennaf i Fedi 2021
Mae’r arolygon deiliadaeth yn darparu gwybodaeth am dueddiadau yn y galw am lety twristiaeth yng Nghymru ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r diweddariad hwn yn crynhoi canlyniadau llinell uchaf Arolwg Deiliadaeth Cymru. Adroddir ar ganlyniadau'r arolwg hwn ar gyfer y cyfnod rhwng Gorffennaf a Medi 2021 o gymharu â 2019 a 2020, yn ogystal â'r cyfartaleddau chwarterol ar gyfer y cyfnodau hyn. Yr eithriad i hyn yw'r sectorau gwestai a thai llety/gwely a brecwast lle na ellir cymharu â data 2019 oherwydd newid methodolegol yn 2020 a 2021. Mae'r ffigurau'n rhai dros dro a gallant fod yn amodol ar adolygiad terfynol.
Prif bwyntiau
- Cododd deiliadaeth ystafelloedd gwestai ym mis Gorffennaf i 81%, gwahaniaeth amlwg i'r flwyddyn flaenorol pan oedd deiliadaeth ystafelloedd ar 26% gan fod y mwyafrif o westai ar gau am ran o'r mis oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Yn ystod Awst a Medi gwelwyd lefelau deiliadaeth ystafelloedd uchel, gan gyrraedd uchafbwynt ym mis Awst ar 86%, y deiliadaeth uchaf yn ystod y flwyddyn hyd yma. Dilynodd cyfraddau deiliadaeth gwlâu patrwm tebyg yn ystod y cyfnod hwn.
- Ar ddechrau misoedd brig yr haf, ym mis Gorffennaf cofnodwyd lefelau deiliadaeth ystafelloedd tai llety/gwely a brecwast o 68% gydag Awst yn cynyddu i 76%, yr uchaf ar draws y flwyddyn hyd yn hyn, a mis Medi yn gweld 71% o ystafelloedd yn cael eu defnyddio yn ystod y mis. Dilynodd cyfraddau deiliadaeth gwlâu patrwm tebyg yn ystod y cyfnod hwn.
- Roedd lefelau deiliadaeth unedau hunanarlwyo yn 83% ym mis Gorffennaf, i lawr ychydig o 85% ym mis Mehefin, ond cynnydd o 7 a 13 pwynt canran ar Orffennaf 2019 a 2020 yn y drefn honno. Gwnaeth Awst yn dda gyda lefelau'n cyrraedd ar 91% ar ei uchaf, ar yr un lefel â'r flwyddyn flaenorol (90%). Gwnaeth Medi barhau i weld lefelau deiliadaeth unedau cadarnhaol gyda deiliadaeth yn sylweddol uwch na 2019 (68%). Gwnaeth deiliadaeth yn y sector carafanau statig a chartrefi gwyliau weld lefelau deiliadaeth lleiniau yn uwch ym mis Gorffennaf ac Awst o'i gymharu â'r un misoedd yn 2020. Gwnaeth Medi barhau i ddangos deiliadaeth lleiniau uchel yn gyson ar draws y tair blynedd rhwng 2019 a 2021. Gwelodd y sector carafanau statig eleni gyfraddau uwch na 90% ym mhob tri mis y chwarter hwn.
- Yn yr un modd â pharciau carafanau a gwyliau statig, roedd deiliadaeth lleiniau ar draws y parciau carafanau teithiol a gwersylla ym mis Gorffennaf yn gryf ar 65%, a pharhaodd y gwelliant gyda mis brig yr haf Awst ar 69% o ddeiliadaeth lleiniau. Fodd bynnag, er bod deiliadaeth lleiniau ym mis Medi wedi gweld dirywiad i 48%, roedd hyn yn dal yn uwch na'r lefelau yn yr un mis yn 2019 a 2020.
- Ym mis Gorffennaf gwnaeth lefelau deiliadaeth gwelyau hostel godi i 39% o gymharu â dim ond 17% yn 2020, dal 30 pwynt canran yn is na'r hyn a welwyd ym mis Gorffennaf 2019 (69%). Gwelwyd patrwm tebyg ym mis Awst a mis Medi gyda lefelau deiliadaeth yn 58% a 39% yn y drefn honno, yn dal yn sylweddol is na'r un misoedd yn 2019 (75% a 54%).
Newid mewn pwysoli
Yn ystod sawl mis yn 2020 a thri mis cyntaf 2021, nid oedd nifer sylweddol o westai, tai llety/gwely a brecwast ar agor oherwydd cyfyngiadau COVID-19 a oedd yn cyfyngu ar weithrediadau llety â gwasanaeth. Golygodd hyn mai dim ond nifer fach o westai a thai llety/gwely a brecwast a ddarparodd data, a effeithiodd ar y pwysoli. Mae pwysoli data deiliadaeth wedi'i gynllunio i addasu ar gyfer gwahanol lefelau ymateb ar draws rhanbarthau a bandiau maint ond pan fydd maint y sampl yn fach gellir gorliwio effaith y pwysiad ar gyfer rhai rhanbarthau neu fandiau maint. Yn ystod misoedd cyfnod clo COVID-19 pan oedd maint samplau mewn rhai rhanbarthau mewn ffigurau sengl, byddai hyn wedi arwain at sefydliadau unigol yn dominyddu'r canlyniadau. Felly, mae'r data yn 2020 a 2021 yn cael ei gyflwyno heb ei bwysoli a dim ond yn adlewyrchu lefelau deiliadaeth gwestai a thai llety/gwely a brecwast a oedd ar agor yn y mis perthnasol. Oherwydd hyn, dylid nodi na ellir dehongli bod data deiliadaeth gwestai a thai llety/gwely a brecwast a ddangosir yn yr adroddiad hwn ar gyfer 2020 a 2021 yn cynrychioli'r farchnad llety â gwasanaeth yn ei chyfanrwydd, ac o ystyried y gwahaniaethau methodolegol, nid oes modd ei gymharu â data 2019 a ddangosir yn adrannau gwestai a thai llety/gwely a brecwast yr adroddiad hwn.
Gwestai
Gwnaeth deiliadaeth ystafelloedd gwestai godi yn ystod mis Gorffennaf i 81%, gwahaniaeth amlwg i'r flwyddyn flaenorol pan oedd deiliadaeth ystafelloedd ar 26% gan fod y mwyafrif o westai ar gau am ran o'r mis oherwydd cyfyngiadau COVID-19, ac yn uwch na’r deiliadaeth ystafelloedd ar gyfer Gorffennaf 2019 (79%). Yn ystod Awst a Medi gwelwyd lefelau deiliadaeth ystafelloedd uchel, gan gyrraedd uchafbwynt ym mis Awst ar 86%, y deiliadaeth uchaf yn ystod y flwyddyn hyd yma. Dilynodd cyfraddau deiliadaeth gwlâu patrwm tebyg yn ystod y cyfnod hwn.
Gwnaeth gwestai gofnodi'r lefelau deiliadaeth ystafelloedd uchaf ar draws misoedd yr haf rhwng Gorffennaf a Medi ym mhob un o dri chwarter y flwyddyn 82%. Roedd hyn 30 pwynt canran yn uwch na'r un cyfnod yn 2020 pan oedd cyfyngiadau gweithredu COVID-19 yn dal i effeithio ar fusnesau.
Y refeniw cyfartalog fesul ystafell sydd ar gael ar gyfer Gorffennaf, Awst a Medi oedd £63.35, £77.77 a £66.50 yn y drefn honno. Roedd gan Awst y refeniw uchaf fesul ystafell o'r flwyddyn sydd ar gael hyd yma, bron ddwywaith yr un mis yn 2020 (£40.55).
Tai llety a gwely a brecwast
Ar ddechrau misoedd brig yr haf, ym mis Gorffennaf, cofnodwyd lefelau deiliadaeth ystafelloedd tai llety/gwely a brecwast o 68%, yn cynyddu ym mis Awst i 76%, yr uchaf ar draws y flwyddyn hyd yn hyn, a mis Medi yn gweld 71% o ystafelloedd yn cael eu defnyddio yn ystod y mis. Dilynodd cyfraddau deiliadaeth gwlâu patrwm tebyg yn ystod y cyfnod hwn.
Ar draws y sector tai llety/gwely a brecwast, gwnaeth deiliadaeth ystafelloedd yn nhrydydd chwarter y flwyddyn gyrraedd 71%, 16 pwynt canran yn uwch na’r chwarter blaenorol. Fodd bynnag, dylid nodi bod maint y sampl yn weddol fach, a dylid bod yn ofalus wrth drin y canlyniadau.
Hunanarlwyo
Yn y sector hunanarlwyo, ym mis Gorffennaf gwelwyd lefelau deiliadaeth unedau o 83%, ychydig yn is ar fis Mehefin ond cynnydd o 7 a 13 pwynt canran ar Orffennaf 2019 a 2020 yn y drefn honno. Gwnaeth Awst yn dda gyda lefelau'n cyrraedd ar 91% ar ei uchaf, ar yr un lefel â'r flwyddyn flaenorol (90%). Gwnaeth Medi barhau i weld lefelau deiliadaeth unedau cadarnhaol gyda deiliadaeth ar 85% sy’n sylweddol uwch na 2019 (68%).
Roedd deiliadaeth unedau chwarterol rhwng Gorffennaf a Medi yn 86%, yn uwch nag yn nhrydydd chwarter y flwyddyn yn 2019 a 2020.
Cartrefi gwyliau carafanau statig
Gwnaeth deiliadaeth yn y sector carafanau statig a chartrefi gwyliau weld lefelau deiliadaeth lleiniau yn uwch ym mis Gorffennaf ac Awst o'i gymharu â'r un misoedd yn 2020, ac yn debyg i'r rhai a welwyd yn 2019. Gwnaeth Medi barhau i ddangos deiliadaeth lleiniau uchel yn gyson ar draws y tair blynedd rhwng 2019 a 2021. Gwnaeth y sector carafanau statig weld gyfraddau uwch na 90% ym mhob un o dri mis Gorffennaf, Awst a Medi.
Parciau carafanau teithiol a gwersylla
Yn yr un modd â pharciau carafanau a gwyliau statig, roedd deiliadaeth lleiniau ar draws y parciau carafanau teithiol a gwersylla ym mis Gorffennaf yn gryf ar 65%, a pharhaodd y gwelliant gyda mis brig yr haf Awst ar 69% o ddeiliadaeth lleiniau. Fodd bynnag, er bod deiliadaeth lleiniau ym mis Medi wedi gweld dirywiad o ran lefelau deiliadaeth i 48%, roedd hyn yn dal yn uwch na'r lefelau yn yr un mis yn 2019 a 2020.
Hosteli
Gyda chyfyngiadau gweithredu hosteli oherwydd COVID-19, a oedd yn effeithio ar nifer y gwesteion a ganiateir, yn codi ar 17 Mai, gwnaeth lefelau deiliadaeth gwelyau Gorffennaf gynyddu i 39% o'i gymharu â dim ond 17% yn 2020, fodd bynnag, roedd hyn yn dal i fod 30 pwynt canran yn is na'r hyn a welwyd ym mis Gorffennaf 2019 (69%). Gwelwyd patrwm tebyg ym mis Awst a mis Medi gyda lefelau deiliadaeth yn 58% a 39% yn y drefn honno, yn dal yn sylweddol is na'r un misoedd yn 2019 (75% a 54%) ond yn uwch na lefelau 2020.
Effeithiwyd ar y sector yn ddifrifol gan gau hosteli yn ystod dau chwarter cyntaf y flwyddyn oherwydd pandemig COVID-19 a chyfyngiadau ynghylch llety a ddefnyddir gan fwy nag un person. Yn nhrydydd chwarter y flwyddyn, Gorffennaf i Fedi, gwelwyd cynnydd sylweddol o ran deiliadaeth gwelyau hosteli (45%) ond nid o hyd i'r lefelau a welwyd yn yr un chwarter yn 2019.
Cyd-destun
Ar ddechrau 2021, roedd y cyfnod clo (Lefel Rhybudd 4) yn dal i fod ar waith ac yn parhau drwy gydol mis Ionawr, Chwefror, tan 27 Mawrth pan ddaeth Cymru y genedl gyntaf yn y DU i godi cyfyngiadau teithio o fewn ei ffiniau wrth i'r cyfyngiadau aros yn lleol ddod i ben. Caniatawyd i lety twristiaid hunangynhwysol, fel eiddo hunanarlwyo a rhai gwestai, ailagor.
Ar 26 Ebrill, cafodd cyfyngiadau eu llacio ymhellach yng Nghymru wrth i amwynderau awyr agored, megis pyllau nofio, ailagor, ynghyd ag atyniadau awyr agored a gweithgareddau awyr agored wedi’u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl a chaniatawyd partïon priodas ar gyfer hyd at 30 o bobl wrth i letygarwch awyr agored ailagor.
O 17 Mai, cafodd y sefydliadau llety oedd yn weddill a llety dan do eu hailagor ynghyd â thafarndai a bwytai a oedd â’r hawl i weini diodydd y tu fewn unwaith eto, a chafodd orielau ac amgueddfeydd eu hailagor hefyd.
Prif linellau amser yn 2020 a 2021
- Cyfnod Clo Cenedlaethol y DU o 23 Mawrth 2020.
- 6 Gorffennaf Cymru yn codi ei chyfyngiadau teithio “Aros yn Lleol” a chaniatawyd i atyniadau awyr agored ailagor.
- Daeth y cyfnod clo i ben 11 Gorffennaf ar gyfer busnesau llety heb gyfleusterau a rennir.
- Llwyddodd llety i dwristiaid gyda chyfleusterau a rennir megis safleoedd gwersylla i ailagor o 25 Gorffennaf ond arhosodd unrhyw gyfleusterau a rennir ar y safle ar gau, megis pyllau nofio, cyfleusterau hamdden, cawodydd a rennir a blociau toiledau.
- Cynllun Estyn Llaw drwy Fwyta Allan (3 i 31 Awst).
- 23 Hydref i 9 Tachwedd Cyfnod atal byr 17 diwrnod yng Nghymru.
- Daeth cyfyngiadau newydd i rym o ganol nos 19 Rhagfyr (lefel rhybudd 4): manwerthu nad yw’n hanfodol, gwasanaethau cyswllt agos, campfeydd a chanolfannau hamdden, lletygarwch a llety yn cael eu cau. Cyfyngiadau aros gartref. Cafodd y rheolau eu llacio dros dro ar gyfer Dydd Nadolig.
- Cyfyngiadau cyfnod clo (rhybudd lefel 4) yn parhau ym mis Ionawr a mis Chwefror 2021.
- 27 Mawrth 2021 Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i godi cyfyngiadau teithio o fewn ei ffiniau wrth i'r cyfyngiadau aros yn lleol ddod i ben. Caniatawyd i lety twristiaid hunangynhwysol, fel bythynnod a llety mewn gwestai heb wasanaethau cyffredin, ailagor.
- 12 Ebrill caniatawyd i bobl o Gymru deithio i rannau eraill o’r DU, a chaniatawyd i ymwelwyr y DU deithio i Gymru.
- 26 Ebrill 2021 pyllau nofio awyr agored, atyniadau awyr agored, gweithgareddau awyr agored wedi’u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl a phartïon priodas ar gyfer hyd at 30 o bobl yn cael eu caniatáu wrth i letygarwch awyr agored ailagor.
- 17 Mai llety i ymwelwyr â gwasanaethau cyffredin, a llety dan do yn ailagor wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio ymhellach, gyda thafarndai a bwytai yn cael gweini diodydd ac ail-agorwyd orielau ac amgueddfeydd hefyd.
- 7 Awst gyda rhai eithriadau, megis gorfodi gwisgo masg mewn lleoliadau penodol, codwyd y mwyafrif o gyfyngiadau cysylltiedig â COVID-19 yr oedd yn weddill yng Nghymru.
Maint sampl
Yr holl feintiau samplau misol yn ôl sector a ddangosir isod yw'r busnesau hynny a oedd ar agor ac a ddarparodd ddata am y mis hwnnw.
Gwestai: ar agor |
Gwestai: ar gau |
Tŷ llety a, Gwely a brecwast: ar agor |
Tŷ llety a, Gwely a brecwast: ar gau |
Hunan- ddarpar: ar agor |
Hunan- ddarpar: ar gau |
|
---|---|---|---|---|---|---|
Ionawr | 50 | 131 | 3 | 25 | 69 | 533 |
Chwefror | 59 | 124 | 3 | 25 | 34 | 568 |
Mawrth | 68 | 115 | 4 | 24 | 230 | 326 |
Ebrill | 129 | 43 | 4 | 11 | 275 | 28 |
Mai | 155 | 18 | 14 | 3 | 306 | 6 |
Mehefin | 157 | 18 | 15 | 3 | 306 | 4 |
Gorffennaf | 158 | 1 | 15 | 2 | 303 | 0 |
Awst | 164 | 2 | 14 | 2 | 308 | 0 |
Medi | 167 | 1 | 15 | 2 | 307 | 2 |
Carafanau statig: ar agor |
Carafanau statig: ar gau |
Carafanau teithiol: ar agor |
Carafanau teithiol: ar gau |
Hosteli: ar agor |
Hosteli: ar gau |
|
---|---|---|---|---|---|---|
Ionawr | 0 | 19 | 0 | 25 | 0 | 22 |
Chwefror | 0 | 19 | 0 | 25 | 0 | 21 |
Mawrth | 0 | 19 | 0 | 25 | 2 | 20 |
Ebrill | 15 | 2 | 8 | 7 | 5 | 15 |
Mai | 16 | 1 | 12 | 1 | 18 | 1 |
Mehefin | 17 | 0 | 13 | 0 | 19 | 0 |
Gorffennaf | 18 | 0 | 13 | 0 | 18 | 0 |
Awst | 18 | 0 | 12 | 1 | 18 | 0 |
Medi | 19 | 0 | 11 | 1 | 19 | 0 |
Manylion cyswllt
Jen Velu
Rhif ffôn: 0300 025 0459
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 7/2022
ISBN digidol 978-1-80391-428-2