Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r cyfnod pan roedd Lefel Rhybudd 4 mewn grym. O 27 Mawrth, daeth Cymru y wlad gyntaf yn y DU i godi cyfyngiadau teithio o fewn ei ffiniau wrth i’r cyfyngiadau aros yn lleol ddod i ben. Caniatawyd i lety twristiaid hunangynhwysol, megis sefydliadau hunanarlwyo a rhai gwestai, ailagor.  Roedd codi’r cyfyngiadau teithio ar 12 Ebrill yn golygu yr oedd hawl gan ymwelwyr o wledydd eraill y DU i deithio i Gymru ac aros dros nos, ond mewn llety hunangynhwysol yn unig heb gyfleusterau a rennir. Llaciwyd y cyfyngiadau ymhellach o 17 Mai, oedd yn golygu yr oedd hawl gan bob busnes llety i ailagor. 

Prif bwyntiau

  • Gyda’r cyfyngiadau yn y sector llety â gwasanaeth yn parhau mewn grym ledled y DU, gellir priodoli deiliadaeth ystafelloedd â gwasanaeth yn ystod mis Ebrill i ymwelwyr o fewn Cymru yn bennaf, gyda chyfradd deiliadaeth ystafelloedd o 35%. Wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio ymhellach ar draws y sector ar 17 Mai, cynyddodd lefelau deiliadaeth ystafelloedd ym mis Mai a Mehefin i 56% a 74% yn y drefn honno yn y gwestai a ymatebodd.
  • Yn y sector hunanarlwyo, dychwelodd lefelau deiliadaeth unedau ym mis Ebrill (54%) yn ogystal ag ym mis Mai (66%) i lefelau tebyg i’r rhai a welwyd yn 2019 (58% a 65% yn y drefn honno). Perfformiodd mis Mehefin dipyn yn well wrth i’r lefelau deiliadaeth unedau gyrraedd eu cyfradd uchaf o 85% - 21 pwynt canran yn uwch nag yn yr un mis yn 2019.
  • Roedd deiliadaeth yn y sector carafanau statig a chartrefi gwyliau rhywfaint yn uwch ym mis Mai a Mehefin o’u cymharu â’r un misoedd yn 2019. Cyrhaeddodd deiliadaeth lleiniau ei chyfradd uchaf ym mis Mehefin o 96% ac yr oedd cystal â’r lefelau deiliadaeth lleiniau sydd i’w gweld fel arfer yn ystod misoedd brig yr haf ym mis Gorffennaf ac Awst. 
  • Roedd deiliadaeth lleiniau ar draws y sector carafanau teithiol a pharciau gwersylla yn 25%, gan ddisgyn i 17% ym mis Mai. Fodd bynnag, cafwyd gwelliant mewn lefelau deiliadaeth lleiniau ym mis Mehefin gan gyrraedd cyfradd o 36%, er eu bod yn dal yn is nag ym mis Mehefin 2019.
  • Gan yr oedd nifer o hosteli ar gau o hyd ym mis Ebrill, dim ond 3% o’r gwelyau oedd wedi’u cymryd yn ystod mis Ebrill, er mai nifer fach yn unig o hosteli oedd wedi adrodd am ddata yn y mis hwn, felly dylid trin y data hwn gyda gofal. Ail-agorwyd nifer o hosteli ym mis Mai a Mehefin, ac yn sgil hynny cafwyd lefelau deiliadaeth gwelyau o 30% yn y ddau fis, sydd yn dal i fod tipyn yn is na’r lefelau a welwyd yn 2019 (59% a 65% yn y drefn honno).

Newid mewn pwysoli

Yn ystod sawl mis yn 2020 a thri mis cyntaf 2021, nid oedd nifer sylweddol o westai, tai llety/Gwely a Brecwast ar agor oherwydd cyfyngiadau COVID-19 a oedd yn cyfyngu ar weithrediadau llety â gwasanaeth. Golygodd hyn mai dim ond nifer fach o westai a thai llety/gwely a brecwast a ddarparodd data, a effeithiodd ar y pwysoli. Mae pwysoli data deiliadaeth wedi'i gynllunio i addasu ar gyfer gwahanol lefelau ymateb ar draws rhanbarthau a bandiau maint ond pan fydd maint y sampl yn fach gellir gorliwio effaith y pwysiad ar gyfer rhai rhanbarthau neu fandiau maint. Yn ystod misoedd cyfnod clo COVID-19 pan oedd maint samplau mewn rhai rhanbarthau mewn ffigurau sengl, byddai hyn wedi arwain at sefydliadau unigol yn dominyddu'r canlyniadau. Felly, mae'r data yn 2020 a 2021 yn cael ei gyflwyno heb ei bwysoli a dim ond yn adlewyrchu lefelau deiliadaeth gwestai a thai llety/gwely a brecwast a oedd ar agor yn y mis perthnasol. Oherwydd hyn, dylid nodi na ellir dehongli bod data deiliadaeth gwestai a thai llety/gwely a brecwast a ddangosir yn yr adroddiad hwn ar gyfer 2020 a 2021 yn cynrychioli'r farchnad llety â gwasanaeth yn ei chyfanrwydd, ac o ystyried y gwahaniaethau methodolegol, nid oes modd ei gymharu â data 2019 a ddangosir yn adrannau gwestai a thai llety/gwely a brecwast yr adroddiad hwn.

Gwestai

Image
Gyda rhai cyfyngiadau’n parhau mewn grym ledled y DU, ymwelwyr o fewn Cymru oedd yn bennaf gyfrifol am ddeiliadaeth ystafelloedd ym mis Ebrill. Ar ôl llacio’r cyfyngiadau ymhellach ym mis Mai, roedd deiliadaeth ystafelloedd ym mis Mai a Mehefin tipyn yn uwch nag yn 2020.

Gyda’r cyfyngiadau yn y sector llety â gwasanaeth yn parhau mewn grym ar draws gweddill y DU, a theithio i mewn ac allan o Gymru wedi’i gyfyngu i deithiau hanfodol yn unig tan 12 Ebrill, gellir priodoli deiliadaeth ystafelloedd yn ystod mis Ebrill i ymwelwyr o fewn Cymru yn bennaf gyda chyfradd deiliadaeth ystafelloedd o 35%.  Wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio ymhellach ar draws y sector ar 17 Mai, cynyddodd lefelau deiliadaeth ystafelloedd ym mis Mai a Mehefin i 56% a 74% yn y drefn honno yn y gwestai a ymatebodd.  Roedd deiliadaeth gwelyau yn dilyn patrwm tebyg yn ystod y cyfnod hwn.

Image
Yn 2021, roedd deiliadaeth ystafelloedd yn ail chwarter y flwyddyn ddwywaith yn fwy nag ar gyfer yr un cyfnod yn 2020 oherwydd y cyfnod clo ledled y DU.

Cafodd y cyfyngiadau ar ymwelwyr o’r tu allan i Gymru eu codi ar 12 Ebrill. Cafodd y cyfyngiadau ar lety â gwasanaethau cyffredin eu codi ar 17 Mai, a chafodd hyn ei adlewyrchu yn lefelau deiliadaeth ystafelloedd yn ail chwarter y flwyddyn.  Ar gyfradd o 56%, roedd deiliadaeth ystafelloedd mewn gwesty ddwywaith y gyfradd yn yr un cyfnod yn 2020 pan gafodd sefydliadau llety â gwasanaeth eu cau dros dro, ac eithrio i weithwyr hanfodol, yn sgil pandemig COVID-19.

Image
Wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio ym mis Mai, roedd y refeniw fesul ystafell sydd ar gael (RevPAR) yn sylweddol uwch ym mis Ebrill, Mai a Mehefin o gymharu â’r un cyfnod yn 2020.

Wrth i’r cyfyngiadau yn y sector llety â gwasanaeth gael eu llacio o 17 Mai 2021, y refeniw misol fesul ystafell sydd ar gael ar gyfer mis Ebrill, Mai a Mehefin oedd £18.26, £34.09 a £52.08 yn y drefn honno, sy’n dipyn yn uwch nag yn 2020 pan roedd sefydliadau llety â gwasanaeth ar agor i weithwyr allweddol yn unig yn ystod y cyfnod clo.

Tai llety a gwely a brecwast

Er yr oedd hawl gan lety hunangynhwysol mewn tai llety/gwely a brecwast i ailagor ar 27 Mawrth i ymwelwyr o fewn Cymru, ni chafodd y cyfyngiadau ar deithio i Gymru eu codi tan 12 Ebrill ac ni chafodd y cyfyngiadau ar lety â gwasanaeth eu codi tan 17 Mai.  Cofnododd mis Ebrill lefelau deiliadaeth ystafelloedd o 27% gyda mis Mai yn cynyddu i 50% a mis Mehefin yn parhau gyda’r cynnydd yn y duedd gyda chyfradd deiliadaeth ystafelloedd o 68% yn ystod y mis.  Roedd deiliadaeth gwelyau yn dilyn patrwm tebyg yn ystod y cyfnod hwn.

Image
Wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio, roedd deiliadaeth ystafelloedd ym mis Ebrill a Mai yn perfformio’n dda ac ar ei huchaf ym mis Mehefin ar gyfradd o 68%.
Image
Wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio, roedd deiliadaeth ystafelloedd ym mis Ebrill a Mai yn perfformio’n dda ac ar ei huchaf ym mis Mehefin ar gyfradd o 68%.

Wrth i nifer o dai llety/sefydliadau gwely a brecwast ailagor yn ystod y cyfnod hwn, cyrhaeddodd deiliadaeth ystafelloedd yn ail chwarter y flwyddyn 55%. Fodd bynnag, dylid nodi yr oedd maint y sampl yn weddol fach, a dylid trin y canlyniadau gyda rhywfaint o ofal.

Hunanarlwyo

Image
Perfformiodd mis Mehefin yn dda, cystal â’r lefelau a welir fel arfer yn ystod misoedd brig yr haf.

Yn y sector hunanarlwyo, dychwelodd lefelau deiliadaeth unedau ym mis Ebrill (54%) a mis Mai (64%) i lefelau tebyg i’r rhai a welwyd yn 2019 (58% a 65% yn y drefn honno). Perfformiodd mis Mehefin dipyn yn well wrth i’r lefelau deiliadaeth unedau gyrraedd eu cyfradd uchaf o 85%, 21 pwynt canran yn uwch nag yn yr un mis yn 2019.

Image
Yn ystod ail chwarter y flwyddyn, gwelwyd lefelau deiliadaeth ystafelloedd yn cyrraedd cyfradd o 68% rhwng mis Ebrill a Mehefin, sy’n uwch na’r un cyfnod yn 2019.

Wrth i’r cyfyngiadau teithio rhwng gwledydd y DU godi ym mis Ebrill, cofnododd deiliadaeth unedau chwarterol rhwng mis Ebrill a Mehefin lefelau o 68% yn ystod ail chwarter y flwyddyn, sy’n uwch nag ar gyfer yr un cyfnod yn 2019.  Gyda chyfyngiadau’r cyfnod clo ar waith ledled y DU yn ystod yr un cyfnod yn 2020, nid yw’r data cymharu ar gael ar gyfer y cyfnod hwn.

Cartrefi gwyliau carafanau statig

Image
Yn y sector carafanau statig a chartrefi gwyliau, roedd lefelau deiliadaeth lleiniau yn uwch ym mis Mai a Mehefin nag yn yr un misoedd yn 2019.

Wrth i’r cyfyngiadau gael eu codi yn ystod ail chwarter y flwyddyn, roedd lefelau deiliadaeth lleiniau yn y sector carafanau statig a chartrefi gwyliau yn uwch ym mis Mai a Mehefin nag yn yr un misoedd yn 2019. Cyrhaeddodd deiliadaeth lleiniau ei chyfradd uchaf ym mis Mehefin o 96% ac yr oedd cystal â’r lefelau deiliadaeth lleiniau sydd i’w gweld fel arfer yn ystod misoedd brig yr haf ym mis Gorffennaf ac Awst. 

Parciau gwersylla a charafán deithiol

Image
Ar draws y sector carafanau teithiol a pharciau gwersylla, roedd deiliadaeth lleiniau yn uwch ym mis Ebrill, ond gostyngodd ym mis Mai 2021.  Cafwyd gwelliant mewn lefelau deiliadaeth lleiniau ym mis Mehefin, er eu bod yn dal yn is na’r lefelau a welwyd ym mis Mehefin 2019.

Yn yr un modd â charafanau statig a pharciau gwersylla, roedd deiliadaeth lleiniau ar draws y sector carafanau teithiol a pharciau gwersylla ym mis Ebrill yn gadarn ar 25%, ond disgynnodd i 17% ym mis Mai.  Fodd bynnag, cafwyd gwelliant mewn lefelau deiliadaeth lleiniau ym mis Mehefin gan gyrraedd cyfradd o 36%, er eu bod yn dal yn is nag yn yr un mis yn 2019.

Hosteli

Image
Gyda dim ond 3% o welyau wedi’u cymryd ym mis Ebrill, roedd llawer o hosteli yn dal i fod ynghau yn ystod y mis.  Cafwyd cynnydd o 30% yn neiliadaeth gwelyau ym mis Mai a Mehefin, er ei bod yn dal i fod tipyn yn is na’r un misoedd yn 2019.

Roedd natur y sector wedi'i gwneud hi'n anodd ailagor yn llawn gyda chyfyngiadau COVID-19 ar nifer y gwesteion sy’n aros mewn hosteli. Gyda dim ond 3% o welyau wedi’u cymryd ym mis Ebrill, roedd llawer o hosteli yn dal i fod ynghau yn ystod y mis, er mai nifer fach yn unig o hosteli oedd wedi adrodd am ddata yn y mis hwn, felly dylid trin y data hwn gyda gofal. Ail-agorwyd nifer o hosteli ym mis Mai a Mehefin, ac yn sgil hynny cafwyd lefelau deiliadaeth gwelyau o 30% yn y ddau fis, sydd yn dal i fod tipyn yn is na’r lefelau a welwyd yn 2019 (59% a 65% yn y drefn honno).

Image
Roedd cau hosteli yn ystod pandemig COVID-19 wedi effeithio’n andwyol ar y sector, a gellir gweld hyn yn ffigurau’r ail chwarter.  Roedd deiliadaeth gwelyau wedi mwy na haneru o gymharu â’r un cyfnod rhwng mis Ebrill a Mehefin 2019.

The sector had been severely affected by the closure of hostels during the COVID-19 pandemic and this was reflected in the quarterly figures for April to June. The average of 27% during the second quarter of the year was less than half that of the same quarter in 2019 (60%).

Cyd-destun

Ar ddechrau 2021, roedd y cyfnod clo (Lefel Rhybudd 4) yn dal i fod ar waith ac yn parhau drwy gydol mis Ionawr, Chwefror, tan 27 Mawrth pan ddaeth Cymru y genedl gyntaf yn y DU i godi cyfyngiadau teithio o fewn ei ffiniau wrth i'r cyfyngiadau aros yn lleol ddod i ben. Caniatawyd i lety twristiaid hunangynhwysol, fel eiddo hunanarlwyo a rhai gwestai, ailagor.

Ar 26 Ebrill, cafodd cyfyngiadau eu llacio ymhellach yng Nghymru wrth i amwynderau awyr agored, megis pyllau nofio, ailagor, ynghyd ag atyniadau awyr agored a gweithgareddau awyr agored wedi’u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl a chaniatawyd partïon priodas ar gyfer hyd at 30 o bobl wrth i letygarwch awyr agored ailagor.

O 17 Mai, cafodd y sefydliadau llety oedd yn weddill a llety dan do eu hailagor ynghyd â thafarndai a bwytai a oedd â’r hawl i weini diodydd y tu fewn unwaith eto, a chafodd orielau ac amgueddfeydd eu hailagor hefyd.

Prif linellau amser yn 2020 a 2021

  • Cyfnod Clo Cenedlaethol y DU o 23 Mawrth 2020.
  • 6 Gorffennaf 2020 Cymru yn codi ei chyfyngiadau teithio 'Aros yn Lleol' a chaniatawyd i atyniadau awyr agored ailagor.
  • Daeth y cyfnod clo i ben 11 Gorffennaf 2020 ar gyfer busnesau llety heb gyfleusterau a rennir.
  • Llwyddodd llety i dwristiaid gyda chyfleusterau a rennir fel safleoedd gwersylla i ailagor o 25 Gorffennaf 2020 ond arhosodd unrhyw gyfleusterau a rennir ar y safle ar gau, megis pyllau nofio, cyfleusterau hamdden, cawodydd a rennir a blociau toiledau.
  • Cynllun Estyn Llaw drwy Fwyta Allan (3 i 31 Awst 2020),
  • 23 Hydref i 9 Tachwedd 2020 Cyfnod atal byr 17 diwrnod yng Nghymru.
  • 19 Rhagfyr 2020 Rheolau swigen Nadolig yn newid i ganiatáu i ddau deulu ddod at ei gilydd ar ddydd Nadolig yn unig.
  • 19 Rhagfyr 2020 Cyfyngiadau newydd yn cael eu cyflwyno o hanner nos (lefel rhybudd 4): manwerthu nad yw'n hanfodol, gwasanaethau cyswllt agos, campfeydd a chanolfannau hamdden, lletygarwch a llety i gau ar ddiwedd masnachu. Cyfyngiad aros gartref i ddod i rym am hanner nos.
  • 26 Rhagfyr 2020 Cymru yn mynd i gyfnod clo (lefel rhybudd 4) ar ôl i'r rheolau gael eu llacio'n fyr dros Ddydd Nadolig.
  • Mae cyfyngiadau clo (rhybudd lefel 4) yn parhau ym mis Ionawr a mis Chwefror 2021.
  • 27 Mawrth 2021 Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i godi cyfyngiadau teithio o fewn ei ffiniau wrth i'r cyfyngiadau aros yn lleol ddod i ben. Caniatawyd i lety twristiaid hunangynhwysol, fel bythynnod a rhai gwestai, ailagor.
  • 12 Ebrill caniatawyd i bobl o Gymru deithio i rannau eraill o’r DU, a chaniatawyd i ymwelwyr y DU deithio i Gymru.
  • 26 Ebrill 2021 pyllau nofio awyr agored, atyniadau awyr agored, gweithgareddau awyr agored wedi’u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl a phartïon priodas ar gyfer hyd at 30 o bobl yn cael eu caniatáu wrth i letygarwch awyr agored ailagor.
  • 17 Mai llety i ymwelwyr â gwasanaethau cyffredin, a llety dan do yn ailagor wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio ymhellach, gyda thafarndai a bwytai yn cael gweini diodydd ac ail-agorwyd orielau ac amgueddfeydd hefyd.

Maint sampl

Yr holl feintiau samplau misol yn ôl sector a ddangosir isod yw'r busnesau hynny a oedd ar agor ac a ddarparodd ddata am y mis hwnnw.

Tabl 1: Maint sampl misol yn ôl sector, Ionawr i Fehefin 2021
  Gwestai:
ar agor
Gwestai:
ar gau
Tŷ llety a,
Gwely a brecwast:
ar agor
Tŷ llety a,
Gwely a brecwast:
ar gau
Hunan-
ddarpar:
ar agor
Hunan-
ddarpar:
ar gau
Ionawr 50 131 3 25 69 533
Chwefror 59 124 3 25 34 568
Mawrth 68 115 4 24 230 326
Ebrill 129 43 4 11 275 28
Mai 155 18 14 3 306 6
Mehefin 157 18 15 3 306 4
Tabl 1: Maint sampl misol yn ôl sector, Ionawr i Fehein 2021 (parhau)
  Carafanau statig:
ar agor
Carafanau statig:
ar gau
Carafanau teithiol:
ar agor
Carafanau teithiol:
ar gau
Hosteli:
ar agor
Hosteli:
ar gau
Ionawr 0 19 0 25 0 22
Chwefror 0 19 0 25 0 21
Mawrth 0 19 0 25 2 20
Ebrill 15 2 8 7 5 15
Mai 16 1 12 1 18 1
Mehefin 17 0 13 0 19 0

Manylion cyswllt

Jen Velu
Ffôn: 0300 025 0459
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 64/2021
ISBN digidol 978-1-80195-914-8

Image
GSR logo