Mae’r arolygon deiliadaeth yn darparu gwybodaeth am dueddiadau yn y galw am lety twristiaeth yng Nghymru ar gyfer 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Yn 2018, adroddodd gwestai Cymru ddeiliadaeth ystafelloedd cyfartalog o 66%, sy’n gyson â’r tueddiad dros y pum mlynedd diwethaf.
- Nid oedd 2018 mor broffidiol â 2017 o ran perfformiad refeniw ystafelloedd, er yr oedd yr elw’n uwch o’u cymharu â lefelau 2014, 2015 a 2016.
- Cafwyd gostyngiad bach yn lefelau deiliadaeth ystafelloedd yn y sector Gwestai Bach/Gwely a Brecwast i 35%.
- Roedd y ddeiliadaeth gyfartalog fesul uned flynyddol ar gyfer llety hunanarlwyo pob bwthyn a fflat yn 55% gyda lefelau uchel o ddeiliadaeth yn ystod y cyfnodau prysuraf. Oedd deiliadaeth fesul uned gyfartalog ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mai a mis Hydref yn 70%.
- Cyrhaeddodd y gyfradd ddeiliadaeth gyfartalog ar gyfer y cyfnod (mis Mai i fis Hydref 2018) 88%.
- 53% oedd y ddeiliadaeth gwelyau hosteli a buncdai gyfartalog ar gyfer 2018.
Nodiadau adolygu
Yn sgil gwall prosesu mae’r data ynghylch gwestai sydd â rhwng 51 a 100 o ystafelloedd ar gyfer 2018 wedi’u diwygio yn y cyhoeddiad hwn. Gweler Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru: 2020 am y ffigurau diwygiedig.
Adroddiadau
Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru, 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 5 MB
PDF
5 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.