Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r arolygon deiliadaeth yn darparu gwybodaeth am dueddiadau yn y galw am lety twristiaeth yng Nghymru ar gyfer 2023.

Pa ddata sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad hwn?

Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys data o dair ffynhonnell:

  1. Cafodd Arolwg Deiliadaeth Llety Twristiaeth Cymru (WAOS) ei gynnal gan SRI, cwmni ymchwil wedi'i leoli yng Nghymru.
  2. CoStar Ltd, cwmni system rheoli llety sy'n darparu data ar westai â gwasanaeth.
  3. Lighthouse, cwmni sy'n gwe-grafu er mwyn darparu data am letyau gosod tymor byr.

Sector â gwasanaeth

  • Yn ystod penllanw'r tymor twristiaeth ym mis Awst, fe wnaeth y sector â gwasanaeth gyrraedd 80% o ran defnydd ystafelloedd.
  • Lle mae'n bosib dwyn cymhariaeth (y pum mis diwethaf), roedd deiliadaeth yr ystafelloedd yn 2023 yn debyg i 2022, ac eithrio mis Rhagfyr.

STR global: data gwestai

  • Edrych fesul chwarter ar draws pob maint eiddo, mae deiliadaeth ystafelloedd ar ei lefel uchaf yn Ch3 (Gorffennaf i Medi) ar 83% sy'n cyd-fynd gyda data 2021 a 2022.
  • Mae dadansoddiad o'r Gyfradd Ddyddiol ar Gyfartaledd yn dangos gwasgariad tymhorol tebyg i ddeiliadaeth, yn fwyaf nodedig bod y prisiau yn codi ar eu huchaf ym mis Awst (£89) ond yn annhebyg i ddata deiliadaeth, parhaodd y prisiau yn uwch yn Ch4 (£75) o'i gymharu gyda Ch1 (£71), mae Ch2 ar £84 yn dangos cynnydd cyson mewn prisiau tuag at yr haf.

Y sector hunanddarpar

  • Lle gellir gwneud cymhariaeth (Awst i Rhagfyr), roedd deiliadaeth yn 2023 yn sylweddol uwch nag yn 2022, gan gyrraedd uchafbwynt o 90% ym mis Awst. 
  • Roedd deiliadaeth de-orllewin Cymru yn 2023, ymhell ar y blaen i ranbarthau eraill (72%) - fel yn achos y data oedd ar gael ar gyfer 2022.
  • Cyflawnodd busnesau sy'n rhan o asiantaeth neu grŵp ar y cyd 74% o ddeiliadaeth uned - sy'n sylweddol uwch na busnesau annibynnol (50%).

Lighthouse: data gosod tymor byr

  • Mae dadansoddiad fesul chwarter yn dangos patrwm anarferol o ddeiliadaeth yn codi i mewn i gyfnod yr haf (Ch3) gan cyrraedd uchafbwynt o 67%. Mae Ch1 (50%) a Ch4 (53%) yn perfformio rhywbeth yn debyg gyda chynnydd cyson i mewn i Ch2 (58%).

Y sector carafanau a gwersylla

  • Cyflawnodd deiliadaeth safle lefelau da ym mis Mai (75%) a Mehefin (77%).
  • Ond yna ni welwyd unrhyw gynnydd sylweddol mewn deiliadaeth yn ystod misoedd allweddol Gorffennaf (73%) ac Awst (78%).
  • Roedd mis Awst 2022 yn llawer prysurach mewn cymhariaeth.

Y sector hosteli

  • Cyrhaeddodd deiliadaeth gwely uchafbwynt o 71% ym mis Awst 2023 - tebyg i fis Awst 2022.
  • Gwelwyd amrywiad misol cryf yn y sector yn 2023, gyda deiliadaeth mis Medi (57%) yn llawer uwch na Medi 2022 (43%), ond yna gostyngodd deiliadaeth yn sylweddol i 24% ym mis Hydref (43% yn 2022).

Adroddiadau

Arolygon deiliadaeth llety Cymru: 2023 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Phil Nelson

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.