Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer arolwg ynghylch ymwybyddiaeth a chymorth y Dreth Gyngor.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Nod yr arolwg hwn yw deall lefelau ymwybyddiaeth unigolion o bwrpas y Dreth Gyngor a sut y gellir cael gafael ar gymorth, fel sail i ddeall gwerth gwahanol ddulliau o gyfathrebu gwybodaeth amdani.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer y gwaith ymchwil hwn. Bydd y tîm ymchwil ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus a Llywodraeth Leol yn dileu data personol cyn ysgrifennu’r adroddiad, ac ni fydd yn rhoi data y gellir eu defnyddio i’ch adnabod i eraill yn Llywodraeth Cymru, oni bai eich bod yn gofyn inni wneud hynny.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Er hynny, mae eich sylwadau a'ch profiadau'n bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Pa ddata personol a gedwir gennym ac o ble y daw'r wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellir ei defnyddio i adnabod y person hwnnw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at elfen adnabod ynddi.

Ni fydd unrhyw ddata personol sy'n gysylltiedig â chi yn cael eu defnyddio wrth ichi gael mynediad at yr arolwg hwn. Rydych wedi cael mynediad at yr arolwg hwn naill ai drwy ddolen sydd wedi'i chynnwys mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn ymwneud â'r Dreth Gyngor, dolen mewn taflen ynghylch y Dreth Gyngor, neu drwy ddolen ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ni fydd angen casglu unrhyw ddata personol oddi wrthych ar gyfer yr ymchwil hon.

Os byddwch yn dewis rhoi data personol ychwanegol fel rhan o'r arolwg, byddwn yn ceisio sicrhau nad yw'n bosibl eich adnabod o'r ymatebion a roddwch, na chysylltu eich enw â'r ymatebion hynny.

Beth yw’r sail gyfreithiol dros ddefnyddio eich data?

Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw cyflawni ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth, a thystiolaeth y gellir gweithredu arni, ynglŷn â’i gallu i gyflawni ei blaenoriaethau. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, yn cael ei defnyddio i wella ein dealltwriaeth o effeithiolrwydd gwahanol ddulliau o gyfathrebu gwybodaeth am y Dreth Gyngor yn y dyfodol.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Nid oes angen casglu unrhyw ddata personol fel rhan o'r ymchwil hon. Bydd unrhyw ddata personol a roddir i Lywodraeth Cymru fel rhan o ymateb testun agored yn cael eu cadw ar weinyddion diogel, a byddant yn cael eu dileu fel rhan o'r dadansoddiad. Ni fydd ymchwilwyr yn rhoi unrhyw wybodaeth bersonol wrth adrodd ar y canfyddiadau i’r tîm polisi.

Wrth gynnal arolygon, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio rhaglen meddalwedd arolwg o’r enw Smart Survey. Rydym wedi sicrhau bod Smart Survey yn cydymffurfio â GDPR y DU, ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd.

Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw achosion o dorri rheolau diogelwch data. Os amheuir bod achos o dorri rheolau diogelwch data wedi codi, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod ichi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fo’n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Bydd y tîm ymchwil yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i lunio adroddiad a gaiff ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unigolion a gymerodd ran.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Nid oes angen casglu unrhyw ddata personol fel rhan o'r ymchwil hon. Bydd unrhyw ddata personol a ddarperir fel rhan o destun agored yn cael eu dileu fel rhan o'r dadansoddi data.

Hawliau'r unigolyn

O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (UK GDPR), mae gennych  hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi fel rhan o'r ymchwil hon. Yn benodol, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • cael copi o'ch data eich hun
  • gofyn inni gywiro unrhyw beth sy’n anghywir yn y data hynny
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol)
  • gofyn inni ddileu eich data (o dan amgylchiadau penodol)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk.

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data a roddir at ddibenion yr astudiaeth hon, neu os ydych am arfer eich hawliau drwy ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol y DU ar gyfer Ddiogelu Data, cysylltwch â'r person isod:

Enw: Tom Cartwright

Cyfeiriad e-bost: Tom.Cartwright@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru