Ymchwilio i ddemograffeg, boddhad a chymhellion ymwelwyr mewn safleoedd lle mae gan Cadw staff yn ystod hydref 2024.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Bu Arolwg Ymwelwyr Tymor Ysgwydd Cadw 2024 yn casglu data demograffig, yn mesur boddhad cwsmeriaid, ac yn ymchwilio i’r hyn a oedd yn denu pobl i safleoedd Cadw yn ystod tymor yr Hydref 2024. Cynhaliwyd arolygon wyneb yn wyneb yn 8 o safleoedd prysuraf Cadw.
Prif ganfyddiadau
Roedd 24% o ymwelwyr yr hydref yn dod o Gymru, a 61% o weddill y DU. Nid yw'r proffil daearyddol bras hwn yn wahanol iawn i’r hyn a welir yn yr haf.
Mae'r hydref yn denu cyfran uwch (19%) o bobl 25 i 34 oed o'i gymharu â'r haf.
Mae'r hydref hefyd yn denu cyfran uwch (12%) o DE o gymharu â’r haf (7%).
Nid oedd y rhesymau dros ymweld yn wahanol iawn i'r rhai a gafwyd yn yr haf.
'Diddordeb mewn cestyll / safleoedd hanesyddol' oedd y prif gymhelliant yn dal i fod – a dyna nodwyd fel prif reswm 58% o ymwelwyr.
Fe wnaeth tua hanner (51%) ymwelwyr yr hydref ddisgrifio eu profiad fel un 'gwell na'r disgwyl'.
Roedd bron pob un (90%) o ymwelwyr yn 'cytuno'n gryf' bod eu 'profiad cyffredinol wedi bod yn dda'.
Roedd y rhan fwyaf (77%) yn 'cytuno'n gryf' bod y safle yn cynnig 'gwerth da am arian'.
Adroddiadau

Arolwg Ymwelwyr Cadw Tymor Ywgwydd: 2024 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Cyswllt
Ceri Thomas
Rhif ffôn: 0300 062 5147
E-bost: Ymchwil.Cadw@gov.wales
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.