Mae'r adroddiad blynyddol yn rhoi dadansoddiad cynhwysfawr ar batrymau a thueddiadau o gyfaint a gwariant ar gyfer 2018.

Mae hefyd yn cynnwys data ychwanegol am weithgareddau a wneir, math o gyrchfan, mathau o gludiant a ddefnyddir, arian a wariwyd yn ystod ymweliadau a phroffil ymwelwyr. 

Darperir y canlyniadau ar lefel Prydain Fawr i gyd ac yn unigol ar gyfer ymweliadau i gyrchfannau yng Nghymru, yr Alban a Lloegr.  Lle bo modd, darperir canlyniadau hefyd ar lefel ranbarthol.

Prif bwyntiau

  • Bu gostyngiad yn nifer yr ymweliadau twristaidd undydd yng Nghymru yn ystod 2018, gyda 95 miliwn o deithiau wedi eu cymryd (gostyngiad o 4%).
  • Disgynnodd cyfanswm y gwariant o 7% yn 2018 gyda gwariant o £4,009 miliwn.

Adroddiadau

Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, 2018
, Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

PDF
Saesneg yn unig
4 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Cais am fformat gwahanol. Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digital@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Ffôn: 0300 025 5050

Cyfryngau

Ffôn: 0300 025 8099