Mae hyn yn y ffynhonnell o ystadegau swyddogol ar ymweliadau dydd gan breswylwyr Prydain i gyrchfannau ledled Prydain.

Mae'r arolwg yn cael ei gynnal ar y cyd gan VisitEngland a VisitScotland. Pwrpas yr arolwg yw mesur cyfanswm, gwerth a phroffil ymeliadau undydd a gymerir gan drigolion Prydain Fawr i gyrchfannau ym Mhrydain Fawr.

Y ffurf ar arolwg 2017 oedd rhyw 35,000 cyfweliad ar-lein ledled Prydain. Roedd cyfweliadau ychwanegol (cyfanswm o dua 5,000) ymhlith trigolion Cymru er mwyn galluogi dadansoddiadau manylach maes o law.

Noddir yr adroddiad blynyddol ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a byrddau Croeso Lloegr a'r Alban. Mae'n darparu dadansoddiad ar draws Prydain Fawr i gyd.

Adroddiadau

Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, 2017
, Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 5 MB

PDF
Saesneg yn unig
5 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Cais am fformat gwahanol. Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digital@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Ffôn: 0300 025 5050

Cyfryngau

Ffôn: 0300 025 8099