Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi nodweddion demograffig cynghorwyr etholedig ac ymgeiswyr sydd heb eu hethol, gan ganolbwyntio'n benodol ar amrywiaeth ar gyfer 2022.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg Ymgeiswyr Llywodraeth Leol
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru, gyda chymorth Data Cymru, arolwg o ymgeiswyr etholiad llywodraeth leol ar gyfer etholiadau Mai 2022.
Roedd yr arolwg yn cynnwys Cynghorwyr ac ymgeiswyr Sir a Thref a Chymuned fel ei gilydd a gofyn set benodedig o gwestiynau a oedd yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) gwestiynau am ryw a hunaniaeth rhywedd; cyfeiriadedd rhywiol; iaith; ethnigrwydd; oedran; anabledd; crefydd neu gred; iechyd; addysg a chymwysterau; cyflogaeth; a gwaith fel Cynghorydd. Y bwriad yw ailadrodd yr arolwg yn ystod pob etholiad arferol er mwyn olrhain newidiadau yn nodweddion Cynghorwyr ac ymgeiswyr dros amser.
Prif ganfyddiadau
- Roedd mwy nag un o bob tri (39%) o'r 1,077 ymgeisydd a ymatebodd i'r arolwg wedi sefyll am etholiad fel Cynghorydd Sir yn y gorffennol; roedd 26% wedi eu hethol o'r blaen.
- Roedd bron hanner yr ymgeiswyr a ymatebodd i'r arolwg wedi sefyll am etholiad i gyngor Cymuned yn y gorffennol (46%); roedd 42% wedi eu hethol o'r blaen.
- O'r 1,077 o ymgeiswyr a ymatebodd I'r arolwg roedd 40% yn fenyw a 60% yn wryw.
- Roedd tua hanner o'r 1,077 o ymgeiswyr a ymatebodd i'r arolwg (50%) yn 60 oed neu drosodd, roedd tua dau allan o bump (38%) rhwn 40 a 59 blwydd oed, treian (10%) rhwng 25 a 39 blwydd oed a'r 2% a oedd yn weddil rhwng 18 a 24 blwydd oed.
- Ar y cyfan adroddodd 96% or 1,077 o ymgeiswyr a ymatebodd I'r arolwg eu bod o grŵp ethnig Gwyn.
- Roedd 88% o'r ymgeiswyr a ymatebodd i'r arolwg yn ystyried eu hun yn heterorywiol neu strêt, 6% fel lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol ac 1% fel unrhyw gyfeiriadedd rhywiol arall.
Adroddiadau
Arolwg Ymgeiswyr Llywodraeth Leol: 2022 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Nerys Owens
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.