Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r papur hwn yn cyflwyno canfyddiadau cychwynnol arolwg a gynhaliwyd ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2021 ar baratoadau ysgolion ar gyfer cyflwyno Cwricwlwm i Gymru. Bydd adroddiad llawn o ganfyddiadau'r arolwg, ynghyd â chanlyniadau gwaith ymchwil ansoddol dilynol gydag ysgolion, yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn nhymor yr Hydref 2021. Mae'r papur hwn yn cynnwys trosolwg o fethodoleg yr arolwg a’r dadansoddiad a gwblhawyd hyd yma. 

Methodoleg a dadansoddiad

Mae'r canfyddiadau a gyflwynir yn y papur hwn yn seiliedig ar y dulliau ymchwil a'r dadansoddiad canlynol.

  • Dosbarthwyd arolwg i holl ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion a lleoliadau blynyddoedd cynnar nas cynhelir yng Nghymru ym Mehefin 2021 drwy nifer o ddulliau.
  • Cafwyd cyfanswm o 345 o ymatebion gan benaethiaid ac uwch arweinwyr mewn ysgolion cynradd ac uwchradd unigryw, sy’n cyfateb i oddeutu 23 y cant o gyfanswm ysgolion yng Cymru a gynhelir. Mae’r ymatebion hyn yn sail i’r dadansoddiad yn y papur interim hwn.
  • Mae’r sampl yn adlewyrchu’n fras boblogaeth ysgolion yn ôl sector, cyfrwng addysg, daearyddiaeth, maint a chanran y dysgwyr sy’n derbyn prydau ysgol am ddim, ac mae data’r arolwg wedi’i bwysoli i gyfateb i boblogaeth yr arolwg.  
  • Cafwyd 48 o ymatebion eraill gan uwch arweinwyr mewn ysgolion lle’r oedd y pennaeth hefyd wedi ymateb. Cafwyd 222 o ymatebion gan unigolion a nododd eu bod yn arweinwyr canol, athrawon neu weithwyr cymorth dysgu. Er mwyn caniatáu cyhoeddi amserol, nid yw’r ymatebion hyn yn rhan o’r dadansoddiad yn y papur interim hwn, ond byddant yn cael eu dadansoddi’n llawn a’u cyflwyno fel rhan o’r prif adroddiad, a gyhoeddir yn nhymor yr Hydref 2021.
  • Yn y papur hwn, defnyddir y term uwch arweinwyr i gyfeirio at ymatebwyr a nododd mewn cwestiynau proffilio eu bod yn benaethiaid neu uwch reolwyr.

Ceir rhagor o fanylion am y fethodoleg, y samplu a'r broses ddadansoddi yn Atodiad 1. Mae'r holiadur a ddefnyddiwyd yn yr arolwg wedi'i gynnwys yn Atodiad 2.  

Crynodeb o’r canfyddiadau interim allweddol

  • Yn gyffredinol, roedd yr ymatebion gan uwch arweinwyr mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn gadarnhaol.
  • Mae'r canfyddiadau'n dangos lefelau cryf iawn o ymrwymiad i'r diwygiadau cwricwlwm ymhlith uwch arweinwyr.
  • Nododd uwch arweinwyr lefelau uchel o wybodaeth am y newidiadau i’r cwricwlwm.
  • Nododd mwyafrif clir o uwch arweinwyr eu bod mewn sefyllfa dda i gynllunio eu cwricwlwm eu hunain a gwneud newidiadau i’w hymarfer proffesiynol yn barod ar gyfer gweithredu’r cwricwlwm o fis Medi 2022.
  • Fodd bynnag, nododd tua hanner yr uwch arweinwyr nad oeddent yn glir ynghylch sut y bydd trefniadau asesu yn newid yn eu hysgol yn sgil y diwygiadau, a'r hyn sy’n ofynnol i'w hysgol ei wneud i gynllunio eu trefniadau asesu eu hunain.
  • Yn ogystal, roedd mwyafrif yr uwch arweinwyr yn anghytuno bod digon o amser wedi bod ar gael yng nghalendr yr ysgol i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Dywedodd mwyafrif hefyd bod angen cymorth ychwanegol ar eu hysgol i baratoi ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm newydd.
  • Mae'n werth nodi bod o leiaf lleiafrif bach o ysgolion wedi nodi diffyg ymrwymiad, gwybodaeth neu barodrwydd. Cwblheir dadansoddiad pellach i archwilio unrhyw batrymau ymhlith y nifer fach hon o ysgolion fel y gellir canolbwyntio adnoddau a chefnogaeth yn briodol.
  • Er nad oedd unrhyw wahaniaethau nodedig[1] rhwng sectorau yn unrhyw un o'r cwestiynau penodol a ddadansoddwyd ar gyfer yr adroddiad interim hwn, gwelwyd patrwm cyffredinol o fewn y sampl: roedd arweinwyr ysgolion cynradd yr un mor gadarnhaol, neu'n fwy cadarnhaol, yn eu hymatebion i'r holl gwestiynau a ddadansoddwyd o gymharu â'u cymheiriaid mewn ysgolion uwchradd.

[1] Mae Atodiad 1, adran 2, yn diffinio ‘gwahaniaethau nodedig’, gan gynnwys disgrifiad o’r dull a gymerwyd wrth ddadansoddi’r gwahaniaethau hyn.

Gwybodaeth am y newidiadau cwricwlwm

Cytunodd y mwyafrif helaeth (97%) o uwch arweinwyr ysgolion gyda’r datganiad ‘Mae’r rhesymau dros ddiwygio’r cwricwlwm yn glir i mi’.[2]

  • Anghytunodd 2.7% o uwch arweinwyr ysgolion gyda’r datganiad.

Cytunodd y mwyafrif helaeth (95%) o uwch arweinwyr eu bod yn ‘gwybod beth sy’n ofynnol yn fy ysgol i sicrhau bod dyheadau y Cwricwlwm i Gymru yn cael eu cyflawni’.

  • Anghytunodd 3.4% o uwch arweinwyr gyda’r datganiad.

Cytunodd mwyafrif clir (89%) o uwch arweinwyr gyda’r datganiad: ‘Rwy'n glir ynghylch yr hyn a fydd yn aros yr un fath a'r hyn a fydd yn wahanol yn fy ysgol o dan y trefniadau cwricwlwm newydd’.

  • Anghytunodd 6.8% o uwch arweinwyr gyda’r datganiad.

Roedd y canrannau o uwch arweinwyr a gytunodd ac a anghytunodd gyda’r datganiad canlynol yn weddol gyfartal: Rwy'n glir ynghylch yr hyn a fydd yn aros yr un fath a'r hyn a fydd yn wahanol yn fy ysgol o dan y trefniadau asesu newydd’.

  • Anghytunodd 46% o uwch arweinwyr gyda’r datganiad a chytunodd 43%.

[2] Mae’r ffigurau yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar gyfuniad o’r canrannau a atebodd cytuno / anghytuno ar gyfer bob cwestiwn, oni nodir yn wahanol. Hynny yw, mae’r ganran sy’n ‘cytuno’ i ddatganiadau yn gyfuniad o’r ymatebion Cytuno’n gryf / Cytuno / Cytuno i raddau. Mae’r ganran sy’n ‘anghytuno’ yn gyfuniad o’r ymatebion Anghytuno’n gryf / Anghytuno / Anghytuno i raddau. Mae’r ymatebion i gwestiynau mewn fformatau amgen wedi’u nodi.

Deall sut i ymateb i newid cwricwlwm

Cytunodd y mwyafrif helaeth (91%) o uwch arweinwyr eu bod yn ‘deall yr hyn sy'n ofynnol i fy ysgol wneud er mwyn dylunio ein cwricwlwm ein hunain i gyd-fynd â Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru’.

  • Anghytunodd 7.0% o uwch arweinwyr gyda’r datganiad.

Roedd y canrannau o uwch arweinwyr a gytunodd ac a anghytunodd gyda’r datganiad canlynol yn weddol gyfartal: ‘Rwy'n deall yr hyn sy'n ofynnol i fy ysgol wneud er mwyn cynllunio ein trefniadau asesu ein hunain i gyd-fynd â Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru’.

  • Cytunodd 45% o uwch arweinwyr gyda’r datganiad ac anghytunodd 41%.

Cytunodd y mwyafrif helaeth (92%) o uwch arweinwyr eu bod yn ‘deall yr hyn sydd angen i mi wneud er mwyn paratoi ar gyfer a gweithredu newidiadau cwricwlwm yn fy ysgol’.

  • Anghytunodd 6.0% o uwch arweinwyr gyda’r datganiad.

Ymrwymiad i newid cwricwlwm

Cytunodd y mwyafrif helaeth (98%) o uwch arweinwyr eu bod ‘wedi ymrwymo i ddyheadau'r Cwricwlwm i Gymru’.

  • Anghytunodd 0.9% gyda’r datganiad.  

Cytunodd y mwyafrif helaeth (98%) o uwch arweinwyr eu bod ‘wedi ymrwymo i wneud newidiadau i fy ymarfer proffesiynol er mwyn helpu dysgwyr i wireddu pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru’.

  • Ni anghytunodd unrhyw uwch arweinwyr gyda’r datganiad.  

Cytunodd y mwyafrif helaeth (99.6%) o uwch arweinwyr gyda’r datganiad: ‘Rwyf wedi ymrwymo i ddysgu mwy am y Cwricwlwm i Gymru’.

  • Ni anghytunodd unrhyw uwch arweinwyr gyda’r datganiad.

Paratoadau i greu’r amodau angenrheidiol er mwyn gwireddu’r cwricwlwm

Nododd mwyafrif clir (81%) o uwch arweinwyr bod eu hysgol ‘wedi datblygu gweledigaeth ar gyfer [eu] cwricwlwm newydd’.

  • Atebodd 18% i ddweud nad oeddent wedi gwneud, a 1.6% gan ddweud nad oeddent yn gwybod.

Anghytunodd ychydig dros hanner (54%) yr uwch arweinwyr gyda’r datganiad: ‘Hyd yma, mae digon o amser wedi bod ar gael o fewn calendr yr ysgol i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd’.

  • Cytunodd ychydig dros un allan o bump (21%) o uwch arweinwyr gyda’r datganiad;
  • Nododd gweddill yr ymatebwyr (25%) nad oeddent yn ‘cytuno nac yn anghytuno’.  

Nododd mwyafrif helaeth yr uwch arweinwyr (98%) bod eu hysgol ‘wedi treialu dulliau yn y dosbarth sydd yn gysylltiedig â'r cwricwlwm newydd’, gyda 59% yn datgan eu bod wedi gwneud hynny ‘llawer’ a 38% yn dweud eu bod wedi gwneud ‘ychydig’.

  • Nododd 2.3% nad oeddent wedi treialu dulliau.    

Nododd y mwyafrif helaeth o uwch arweinwyr (95%) bod ‘athrawon yn ein hysgol wedi cymryd rhan mewn ymholi proffesiynol i gefnogi paratoadau ar gyfer y cwricwlwm newydd’, gyda thua hanner (51%) yn datgan eu bod wedi gwneud ‘ychydig’ a 45% yn ateb trwy ddweud bod hynny wedi digwydd ‘llawer’.

  • Nododd 4.8% nad oedd athrawon yn eu hysgol wedi cymryd rhan mewn ymholiadau proffesiynol yn gysylltiedig â’r cwricwlwm newydd.

Y gallu i ymarfer mewn ffyrdd sy’n gwireddu’r cwricwlwm

Cytunodd y mwyafrif helaeth (95%) o uwch arweinwyr gyda’r datganiad ‘Mae gan fy ysgol staff sydd â'r sgiliau angenrheidiol i ddylunio'r cwricwlwm newydd’.

  • Anghytunodd 2.4% gyda’r datganiad.

Cytunodd mwyafrif clir (84%) o uwch arweinwyr gyda’r datganiad ‘Mae gan staff fy ysgol gapasiti digonol i ddylunio'r cwricwlwm newydd’.

  • Anghytunodd 13% gyda’r datganiad.  

Cytunodd y mwyafrif helaeth (97%) o uwch arweinwyr gyda’r datganiad: ‘Mae gan staff fy ysgol y sgiliau angenrheidiol i gynllunio a gweithredu gwersi yn unol â'r Cwricwlwm i Gymru newydd’.

  • Anghytunodd 2.3% gyda’r datganiad.

Cwestiynau trosfwaol ar weithrediad y Cwricwlwm i Gymru

Cytunodd mwyafrif clir (81%) o uwch arweinwyr gyda’r datganiad: ‘Mae fy ysgol mewn sefyllfa dda i ddylunio ein cwricwlwm ein hunain yn barod i'w gyflwyno fel y bwriedir gwneud o fis Medi 2022’.

  • Anghytunodd 13% per gyda’r datganiad.

Cytunodd mwyafrif clir (86%) o uwch arweinwyr gyda’r datganiad: ‘Mae fy ysgol mewn sefyllfa dda i wneud newidiadau i'n harfer proffesiynol yn barod ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm newydd fel y bwriedir gwneud o fis Medi 2022’.

  • Anghytunodd 9.0% per gyda’r datganiad.  

Cytunodd dwy ran o dair o uwch arweinwyr (67%) gyda’r datganiad: ‘Mae angen cefnogaeth neu adnoddau ychwanegol ar fy ysgol er mwyn bod yn barod ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm newydd fel y bwriedir gwneud o fis Medi 2022’.

  • Anghytunodd16% gyda’r datganiad.

Atodiad 1: manylion pellach ar y fethodoleg a samplu

Methodoleg a sampl

Cynlluniwyd holiadur gan dîm ymchwil Arad, gan weithio gyda’n partneriaid a chyda mewnbwn gan swyddogion Llywodraeth Cymru a phartneriaid haen ganol. Treialwyd yr arolwg yn gynnar ym mis Mehefin gyda sampl o ysgolion cynradd ac uwchradd ac fe’i addaswyd yn dilyn y broses hon. Roedd yr arolwg wedi'i strwythuro o amgylch fframwaith cysyniadol a oedd yn nodi pum agwedd ar barodrwydd i ddiwygio'r cwricwlwm. Roedd hwn yn addasiad o fodel a ddatblygwyd gan aelod o'r tîm ymchwil, yr Athro Claire Sinnema. Roedd yr arolwg yn cynnwys cwestiynau ar y canlynol: 

  • gwybodaeth am y newidiadau cwricwlwm
  • deall sut i ymateb i newid cwricwlwm
  • ymrwymiad i newid cwricwlwm
  • paratoadau ar gyfer dylunio, mabwysiadu a gwireddu’r cwricwlwm
  • y gallu i ymarfer mewn ffyrdd sy’n gwireddu’r cwricwlwm

Mae testun yr arolwg i'w weld yn Atodiad 2

E-bostiwyd dolen at arolwg electronig at benaethiaid ym mhob ysgol yng Nghymru (dull cyfrifiad). Yn ogystal, hyrwyddwyd ar arolwg drwy sianeli cyfathrebu a chyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a gyda chefnogaeth timau cyfathrebu awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol. Anelwyd yr arolwg at benaethiaid, uwch arweinwyr ac ymarferwyr mewn ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) a lleoliadau blynyddoedd cynnar nas cynhelir. Anogwyd penaethiaid a dderbyniodd yr arolwg drwy e-bost i rannu'r ddolen i'r holiadur gyda chydweithwyr. Roedd yr arolwg ar agor rhwng Mehefin 16eg a Gorffennaf 17eg.

Cafodd y sampl o ymatebion ei monitro'n barhaus, ac anfonwyd negeseuon atgoffa wedi'u targedu at ysgolion i sicrhau cynrychiolaeth dda fesul sector, cyfrwng, daearyddiaeth, maint a chanran y dysgwyr sy'n derbyn prydau ysgol am ddim. Cafwyd cyfradd ymateb dda, yn enwedig o ystyried y pwysau oedd yn wynebu ysgolion ar ddiwedd blwyddyn academaidd a gafodd ei heffeithio'n ddifrifol gan y pandemig.

  • Derbyniwyd cyfanswm o 345 o ymatebion gan benaethiaid ac uwch arweinwyr mewn ysgolion unigryw, sy'n cyfateb i tua 23% o poblogaeth yr ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae'r sampl yn adlewyrchu'n fras boblogaeth gyffredinol yr ysgol yn ôl sector, cyfrwng, daearyddiaeth, maint a chanran y dysgwyr sy'n cael prydau ysgol am ddim. Mae'r ymatebion hyn yn sail i'r dadansoddiad yn y papur hwn.[3]
  • Cafwyd 48 o ymatebion gan uwch arweinwyr mewn ysgolion lle roedd pennaeth yr ysgol hefyd wedi ymateb. Derbyniwyd 222 o ymatebion ychwanegol gan unigolion a nododd eu bod yn arweinwyr canol, athrawon neu weithwyr cymorth dysgu yn yr ysgolion a gynrychiolwyd yn y sampl o ymatebion gan benaethiaid ac uwch arweinwyr. Er mwyn caniatáu cyhoeddi amserol, nid yw'r ymatebion hyn yn rhan o'r dadansoddiad yn y papur interim hwn ond byddant yn cael eu dadansoddi'n llawn a'u cyflwyno yn y prif adroddiad.

[3] Ni atebodd pob ymatebydd yr holl gwestiynau.  Mae nifer yr ymatebion i bob cwestiwn (n) yn amrywio o 345 i 315.

Dadansoddi a chyflwyno data

Fel rhan o'r dadansoddiad, mae canlyniadau'r arolwg wedi'u pwysoli yn ôl sector er mwyn sicrhau bod proffil y sampl yn adlewyrchu poblogaeth yr arolwg yn well.[4]

Mae'r papur interim hwn yn canolbwyntio ar ymatebion gan benaethiaid ac uwch arweinwyr. Fel y nodwyd uchod, mabwysiadwyd dull cyfrifiad i ddosbarthu'r arolwg, gyda dull samplu cwota yn cael ei ddefnyddio ar gyfer targedu mathau penodol o leoliadau a cheisio sicrhau bod y sampl mor gynrychioliadol â phosibl o boblogaeth ysgolion ac UCDau. Mae'r dull a’r niferoedd a ddewisodd peidio ag ymateb yn golygu na ellir ystyried y sampl o ymatebwyr fel sampl tebygolrwydd, ac felly ni ellir ei gyffredinoli i'r boblogaeth gyfan. Dylid defnyddio profion o arwyddocâd ystadegol ar gyfer  samplau tebygolrwydd yn unig. Fel opsiwn amgen, er mwyn cael sail ar gyfer adnabod gwahaniaethau nodedig rhwng ymatebion uwch arweinwyr mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, ac i helpu i nodi patrymau sy'n datblygu  yn y sampl, rydym wedi trin gwahaniaethau o fwy nag 16 pwynt canran rhwng sectorau fel 'gwahaniaethau nodedig'.[5]

Er nad oedd unrhyw wahaniaethau nodedig rhwng sectorau yn unrhyw un o'r cwestiynau penodol a ddadansoddwyd ar gyfer yr adroddiad interim hwn, roedd patrwm cyffredinol yn y sampl: roedd arweinwyr ysgolion cynradd yr un mor gadarnhaol neu'n fwy cadarnhaol yn eu hymatebion i'r holl gwestiynau a ddadansoddwyd o gymharu â'u cymheiriaid mewn ysgolion uwchradd.

[4] Ar gyfer penaethiaid ac uwch arweinwyr (cynhwyswyd un ymateb i bob ysgol yn y dadansoddiad hwn), pwyswyd y data i adlewyrchu poblogaeth ysgolion o ran canran yr ysgolion ym mhob un o'r sectorau canlynol: ysgolion cynradd a meithrin, ysgolion pob oed, ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig ac UCDau. Ar gyfer arweinwyr canol, athrawon a Gweithwyr Cymorth Dysgu, roedd data wedi'i bwysoli i adlewyrchu canran yr ymarferwyr cofrestredig ym mhob un o'r sectorau hyn ar draws poblogaeth athrawon yng Nghymru.

[5] Pe bai'r sampl o ymatebwyr yn sampl ar hap go iawn, yna byddai'r meintiau sampl a gyflawnwyd yn ein galluogi i adrodd ar ganlyniadau'r arolwg gyda lefel hyder o 95% yn seiliedig ar gyfwng hyder o 5% ar gyfer uwch arweinwyr. Yn ystadegol, byddai hyn yn ein galluogi i ddatgan gyda hyder o 95% bod ein hymatebion sampl o fewn 5% o'r ‘gwir’ ganran ar gyfer poblogaeth yr uwch arweinwyr. Amrywia'r cyfyngau hyder ychydig ar gyfer is-samplau o uwch arweinwyr cynradd (6%) ac uwchradd (10%). Am y rheswm hwn, dim ond gwahaniaethau o dros 16 pwynt canran rhwng ymatebwyr cynradd ac uwchradd a fyddai wedi cael eu hystyried yn nodedig, ond ni chyrhaeddwyd y trothwy hwn yn unrhyw un o'r cwestiynau a ddadansoddwyd ar gyfer y papur hwn.

Pwyntiau i’w nodi a sylwadau ar derminoleg

Mae'r dadansoddiad yn y papur hwn wedi'i gyfyngu i ddetholiad o gwestiynau caeedig allweddol sydd wedi'u cynnwys yn yr holiadur. Roedd yr arolwg (gweler Atodiad 2) yn cynnwys cwestiynau mewn gwahanol fformatau. Roedd y rhan fwyaf o'r cwestiynau'n cynnwys datganiadau a dewis o ymatebion yn seiliedig ar y raddfa Likert ganlynol:

  • Cytuno'n gryf
  • Cytuno
  • Cytuno i raddau
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno i raddau
  • Anghytuno
  • Anghytuno'n gryf
  • Ddim yn gwybod/ dim digon o wybodaeth

Yn y papur cryno hwn, mae'r tri ymateb 'cytuno' (cytuno’n gryf / cytuno / cytuno i raddau) a'r tri ymateb 'anghytuno' cyfatebol wedi'u cyfuno i greu canran cytuno / anghytuno gyffredinol. Mae'r ffigurau yn yr adroddiad hwn yn adlewyrchu'r canrannau cyfunol / anghytuno ar gyfer pob cwestiwn. Bydd tablau data yn cael eu cyflwyno yn yr adroddiad llawn, a fydd yn dangos y gwahanol yn gyflawn. Defnyddiwyd fformatau cwestiynau eraill hefyd yn yr arolwg, ac fe’u nodir mewn troednodiadau yn y papur hwn. Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at y cwestiynau perthnasol yn yr Atodiad. Bydd dadansoddiad o sylwadau ysgrifenedig ategol a ddarparwyd gan ymarferwyr mewn ymateb i gwestiynau testun agored yr arolwg yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad llawn.   

Yn ystod yr amser yr oedd yr arolwg yn agored, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, Jeremy Miles AS, newidiadau i'r amserlen ar gyfer gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru. Cadarnhaodd y byddai’r Cwricwlwm i Gymru yn parhau i gael ei weithredu mewn ysgolion cynradd, ysgolion meithrin a gynhelir a lleoliadau meithrin nas cynhelir o fis Medi 2022. Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd y bydd ysgolion uwchradd “sy'n barod i gyflwyno diwygiadau'r cwricwlwm i flwyddyn 7 yn gallu bwrw ymlaen. Fodd bynnag, ni fydd gweithredu'r cwricwlwm newydd yn ffurfiol yn orfodol tan 2023, gan ei gyflwyno yn y flwyddyn honno i flynyddoedd 7 ac 8 gyda'i gilydd”. [6]

Yn y papur hwn defnyddir y term uwch arweinwyr i gyfeirio at ymatebwyr a nododd eu hunain wrth broffilio cwestiynau fel penaethiaid neu uwch arweinwyr.

Mae ysgolion cynradd yn cyfeirio at ysgolion cynradd a meithrin, ond nid yw'n cynnwys lleoliadau blynyddoedd cynnar nas cynhelir.

Mae'r adroddiad interim hwn yn canolbwyntio'n bennaf ar yr ymatebion gan ysgolion cynradd ac uwchradd prif ffrwd. Cafwyd ymatebion gan gategorïau eraill o ysgolion: ysgolion arbennig, UCDau ac ysgolion 3 i 16/3 i 18. Bydd setiau data cyflawn gan gynnwys data gan ymatebwyr yn yr ysgolion hyn yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad llawn.

[6] Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg, Datganiad 6 Gorffennaf 2021

Manylion cyswllt

Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Ymchwil Ysgolion
E-bost: ymchwilysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Rhif ymchwil cymdeithasol: 61/2021
ISBN digidol: 978-1-80195-945-2

Image
GSR logo