Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth: 2023
Adroddiad sy’n cyflwyno amcangyfrifon gweithwyr a chyflogaeth yn ôl daearyddiaeth a diwydiant manwl ar gyfer 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae amcangyfrifon cyflogaeth Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth (BRES) fel arfer yn cael eu cyhoeddi ar lefel y Deyrnas Unedig (DU). Mae amcangyfrifon cyflogaeth dros dro BRES 2023 yn cwmpasu Prydain Fawr yn unig gan nad yw amcangyfrifon ar gyfer 2023 ar gael eto ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn bwriadu diweddaru datganiad ystadegol 2023 gydag amcangyfrifon y DU erbyn dechrau 2025. Ar gyfer 2022, mae'r amcangyfrifon diwygiedig cyhoeddedig yn cynrychioli'r DU ac nid ydynt yn cael eu heffeithio o hyd.
Y prif bwyntiau
- Yn 2023, roedd 1.300 miliwn o swyddi gweithwyr yng Nghymru, sydd 1.8% yn uwch na’r ffigur o 1.277 miliwn yn 2022.
- O ran Prydain Fawr gyfan, gwelwyd cynnydd o 1.4% yn nifer y swyddi gweithwyr rhwng 2022 a 2023.
- Cafwyd cynnydd yn 10 o’r 11 gwlad Prydain Fawr neu ranbarthau Lloegr rhwng 2022 a 2023. Yng Nghymru cafwyd y pedwerydd cynnydd mwyaf (1.8%).
- Roedd y newid yng Nghymru rhwng 2022 a 2023 wedi’i rannu ar draws nifer o sectorau diwydiannol, gyda’r cynnydd mwyaf yn y sector Iechyd (i fyny 25,400) ac yna’r sector Gweinyddu Busnes a Gwasanaethau Cymorth (i fyny 8,400). Roedd y cwymp mwyaf yn y sector Trafnidiaeth a Storio (gan gynnwys Post) (i lawr 11,900).
- Yn 2023, y sector Iechyd oedd y diwydiant mwyaf yng Nghymru, gan gyfrif am 17.1% o’r holl swyddi gweithwyr, yna 10.7% yn y sector Gweithgynhyrchu, 8.8% yn y sector Manwerthu a 8.8% yn y sector Addysg.
- Yn 2023, roedd 330,000 o swyddi gweithwyr yn y sector cyhoeddus ac 969,800 o swyddi gweithwyr yn y sector preifat yng Nghymru. Felly roedd 25.4% yn y sector cyhoeddus a 74.6% yn y sector preifat (y ffigurau ar gyfer Prydain Fawr oedd 18.4% yn y sector cyhoeddus a 81.6% yn y sector preifat).
- Dylid nodi bod yr amcangyfrifon hyn o swyddi gweithwyr yn y sector cyhoeddus yn wahanol i'r amcangyfrifon swyddogol ar gyfer cyflogaeth yn y sector cyhoeddus (SYG). Dylai’r amcangyfrifon swyddogol gael eu hystyried fel yr amcangyfrifon sector cyhoeddus terfynol ar gyfer gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Joe Davies
E-bost: ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099