Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad sy’n cyflwyno amcangyfrifon gweithwyr a chyflogaeth yn ôl daearyddiaeth a diwydiant manwl ar gyfer 2019.

Prif bwyntiau

Yn 2019, roedd 1.269 miliwn o swyddi gweithwyr yng Nghymru, gostyngiad canrannol bach ar y ffigur o 1.270 miliwn yn 2018. O ran y DU yn gyfan, gwelwyd 1.2% o gynnydd rhwng 2018 a 2019.

Gwelwyd cynnydd ym 10 o'r 12 rhanbarth Saesneg a gwledydd y DU rhwng 2018 a 2019, gyda’r gostyngiad canrannol lleiaf yng Nghymru (i lawr 0.1%). Yr Alban a gafodd yr unig ostyngiad arall (i lawr 0.2%).

Roedd y newid yng Nghymru rhwng 2018 a 2019 wedi’i rannu ar draws nifer o sectorau diwydiannol, gyda’r cynnydd mwyaf yn y sector Gwasanaethau Llety a Bwyd (i fyny 16,600) ac yna’r sector Cyfanwerth (i fyny 13,700). Roedd y cwymp mwyaf yn y sector Iechyd (i lawr 14,900).

Yn 2019, y sector Iechyd oedd y diwydiant mwyaf yng Nghymru, gan gyfrif am 15.6% o’r holl swyddi gweithwyr, yna 11.2% yn y sector Gweithgynhyrchu, 9.4% yn y sector Manwerthu a 9.3% yn y sector Gwasanaethau Llety a Bwyd.

Yn 2019, roedd 300,500 o swyddi gweithwyr yn y sector cyhoeddus ac 968,100 o swyddi gweithwyr yn y sector preifat yng Nghymru, felly roedd 23.7% yn y sector cyhoeddus a 76.3% yn y sector preifat (y ffigurau ar gyfer y DU oedd 17.3% yn y sector cyhoeddus a 82.7% yn y sector preifat). Dylid nodi bod yr amcangyfrifon hyn o swyddi gweithwyr yn y sector cyhoeddus yn wahanol i'r amcangyfrifon swyddogol ar gyfer cyflogaeth yn y sector cyhoeddus. Dylai’r amcangyfrifon swyddogol gael eu hystyried fel yr amcangyfrifon sector cyhoeddus terfynol ar gyfer gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.

Nodyn

Wrth i'r galw gynyddu ar gyfer ystadegau a data i fesur effaith y pandemig COVID-19, mae rhaid i ni newid ein harferion casglu a rhyddhau data, gan ganolbwyntio ymdrechion ar ddadansoddiadau ac ystadegau blaenoriaeth. Felly, bydd y setiau data StatsWales cysylltiedig yn cael eu diweddaru yn ddiweddarach. Mae data BRES ar gael i'r cyhoedd trwy NOMIS.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.