Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon o gyflogaeth yn y sector cyhoeddus, wedi'u cyfuno yn ôl dosbarthiad sector a diwydiant ar gyfer 2017.

Prif bwyntiau

  • Yn 2017, roedd 1.241 miliwn o swyddi gweithwyr yng Nghymru, sydd 1.1% yn isod na’r ffigur o 1.256 miliwn yn 2016, a 13.4% yn uwch na’r ffigur o 1.095 miliwn yn 1999. O ran y DU yn gyfan, gwelwyd 1.2% o gynnydd rhwng 2016 a 2017. Rhwng 1999 a 2017, gwelwyd 14.3% o gynnydd mewn swyddi gweithwyr ym Mhrydain Fawr [nid oes data ar gyfer y DU ar gael cyn 2008].
  • Gwelwyd cynnydd ym 10 o'r 12 rhanbarth Saesneg a gwledydd y DU rhwng 2016 a 2017, gyda’r cynnydd canrannol mwyaf yn Gorllewin Canolbarth Lloegr (i fyny 2.9%). Gwelwyd yr unig gostyngiadau yng Nghymru a’r  De-ddwyrain Lloegr (i lawr 1.1%).
  • Cafwyd cynnydd ym mhob un o’r 11 rhanbarth Prydain Fawr rhwng 1999 a 2017, gyda Llundain a Dwyrain Lloegr yn gweld y cynnydd canrannol mwyaf (24.0% a 23.2%, yn y drefn honno). Cymru oedd â’r chweched cynnydd canrannol fwyaf, tra cafodd Gogledd Dwyrain Lloegr y cynnydd isaf dros y cyfnod yma (i fyny 6.0%).
  • Roedd y newid yng Nghymru rhwng 2016 a 2017 wedi’i rannu ar draws nifer o sectorau diwydiannol, gyda’r cynnydd mwyaf yn y sector Gwybodaeth a chyfathrebu (i fyny 23,000) ac yna’r sector Gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol (i fyny 11,200). Yn y sector Llety a gweithgareddau gwasanaethau bwyd gwelwyd y gostyngiad fwyaf (i lawr 18,500).
  • Yn 2017, y sector iechyd oedd y mwyaf yng Nghymru, gan gyfrif am 16.0% o’r holl swyddi gweithwyr, yna 11.1% yn y sector gweithgynhyrchu, 10.1% yn y sector manwerthu a 9.8% yn y sector addysg.
  • Yn 2017, roedd 296,100 o swyddi gweithwyr yn y sector cyhoeddus ac 945,100 o swyddi gweithwyr yn y sector preifat yng Nghymru, felly roedd 23.9% yn y sector cyhoeddus a 76.1%yn y sector preifat (y ffigurau ar gyfer y DU oedd 17.5% yn y sector cyhoeddus a 82.5% yn y sector preifat). Dylid nodi bod yr amcangyfrifon hyn o swyddi gweithwyr yn y sector cyhoeddus yn wahanol i'r amcangyfrifon swyddogol ar gyfer cyflogaeth yn y sector cyhoeddus. Dylai’r amcangyfrifon swyddogol gael eu hystyried fel yr amcangyfrifon sector cyhoeddus terfynol ar gyfer gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.