Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn awyddus i gael eich barn i helpu ein gwaith ymgysylltu ar gyfer y cynllun i olynu’r cynllun gweithredu ar gyfer dementia.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pwrpas yr arolwg

Bwriad yr holiadur hwn yw casglu barn ar y meysydd allweddol y dylem ganolbwyntio arnynt yn ystod y broses ymgysylltu ar y cynllun newydd ar gyfer dementia.

Cafodd cynllun gweithredu Cymru ar gyfer dementia ei gyflwyno ar ei ffurf bresennol yn 2018. Yn 2021, cafodd dogfen gydymaith ei chyhoeddi a oedd yn rhoi pwyslais newydd i’r cynllun ar yr heriau a wynebwyd yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19).

Mae gwerthusiad annibynnol yn cael ei gynnal i:

  • ddeall llwyddiannau’r cynllun hwnnw yn well
  • ystyried sut gellid gwella

Bydd yr atebion i’r holiadur hwn yn cael eu defnyddio i siapio’r sgyrsiau wrth inni ymgysylltu ar y cynllun newydd ar gyfer dementia. Rydym yn awyddus i feithrin dealltwriaeth o’r pynciau allweddol yr hoffai rhanddeiliaid eu trafod. Man cychwyn yw’r holiadur hwn ar gyfer cynnal sgwrs hirach ac nid yw’n fwriad iddo gynnig yr holl atebion ar gynnwys y cynllun terfynol.

Cwblhau'r arolwg

Mae'r arolwg hwn bellach wedi cau.