Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg tracio teimladau defnyddwyr er mwyn ceisio deall hyder, bwriad a rhwystrau i fynd ar wyliau byr dros nos a gwyliau yn y DU a Chymru ar gyfer tonnau 14 i 16.

Hwyliau cenedlaethol a’r ymdeimlad ymddygiadol

Mae hwyliau cenedlaethol y DU yn parhau i fod yn gymharol gyson â chyfnodau adrodd diweddar, gyda thua 6 o bob 10 yn graddio eu hwyliau personol fel o leiaf 7 allan o 10. Er gwaethaf lefelau uwch o bryder ynghylch y pandemig, mae’r ‘ymddeolwyr’ yn arddangos yr hwyliau fwyaf cadarnhaol.

Mae canfyddiadau bod ‘y gwaethaf eto i ddod’ mewn perthynas â’r pandemig wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod yr wythnosau diwethaf, 41% o’r farn hon ddechrau mis Medi, ond 58% o’r farn hon ar ddechrau mis Hydref. Y rhai o oedran ymddeol sydd fwyaf tebygol o feddwl hyn er bod y cynnydd wedi'i weld ar draws pob cyfnod bywyd.

Bwriadau ar gyfer tripiau sydd ar ddod

Mae 20% o boblogaeth y DU (10.8 miliwn o oedolion) a 15% o breswylwyr o Gymru yn rhagweld cymryd gwyliau byr domestig neu wyliau erbyn diwedd y flwyddyn (gyda 2 drip wedi'u cynllunio ar gyfartaledd). Mae'r bwriad i fynd ar drip wedi gostwng yn sylweddol ymhlith preswylwyr o Gymru, roedd 26% yn bwriadu mynd ar drip ddechrau mis Medi, ond gostyngodd hyn i 15% ar ddechrau mis Hydref.

Mae 27% o oedolion y DU yn bwriadu mynd ar drip dros nos rhwng Hydref a Mawrth, ac mae 8% ohonynt yn bwriadu ymweld â Chymru. Yn nodedig, mae'r gyfran sy'n bwriadu ymweld â Chymru wedi gostwng ers dechrau mis Medi, ynghyd ag ardaloedd eraill sydd â chyfyngiadau cynyddol fel Gogledd Ddwyrain Lloegr.

Tripiau a gymerwyd ers mis Gorffennaf

Ar ddechrau mis Hydref, roedd 30% o oedolion y DU (tua 16.2 miliwn) wedi cymryd gwyliau byr neu wyliau dros nos yn y DU ers i'r cyfyngiadau gael eu codi ddechrau mis Gorffennaf, o'i gymharu â 24% o oedolion Cymru. Mae'r ddau rif yn sylweddol uwch na'r teithiau a fwriadwyd cyn i'r cyfyngiadau gael eu codi.

Tripiau dydd yn ystod hanner tymor yr Hydref

Mae 14% o breswylwyr y DU a 12% o breswylwyr o Gymru yn rhagweld mynd ar drip dydd yn ystod hanner tymor yr Hydref, gan godi i 22% ymhlith teuluoedd yng Nghymru, a gostwng i 6% ar gyfer annibynnwyr hŷn yng Nghymru a 4% ar gyfer yr rhai sydd wedi ymddeol yng Nghymru.

Tripiau busnes

Mae 12% o oedolion y DU mewn cyflogaeth yn bwriadu mynd ar drip busnes dros nos erbyn Mawrth 2021, o’i gymharu â 7% o oedolion sy’n gweithio sy’n byw yng Nghymru. Cyfarfodydd rhwng 1 i 5 o bobl yw'r prif reswm dros breswylwyr y DU yn mynd ar drip busnes, cyfarfodydd mwy y rheswm mwyaf cyffredin nesaf.

Adroddiadau

Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19 (proffil Cymru): 31 Awst i 2 Hydref 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

David Stephens

Rhif ffôn: 0300 025 5236

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.