Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Rydyn ni’n cysylltu â chi gan ddefnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi wedi’i rhoi i Swyddfa’r Cabinet, sy’n cael sylw yn yr hysbysiad preifatrwydd. Pwrpas prosesu eich data personol yw casglu gwybodaeth am y mathau o gymorth rydych chi wedi nodi y byddech chi’n ei groesawu gan y Llywodraeth a’r manylion cyswllt sy’n angenrheidiol er mwyn i ni allu trosglwyddo’r wybodaeth berthnasol neu gysylltu â chi drwy e-bost neu dros y ffôn.

Y data

Byddwn yn prosesu’r data personol canlynol:

  • eich enw cyntaf
  • eich cyfenw
  • cyfeiriad e-bost
  • manylion cyswllt eraill (dewisol)
  • ardal awdurdod lleol
  • teitl swydd mewn perthynas ag etholiadau
  • pan fyddwch chi’n cymryd rhan mewn arolwg, yn rhoi eich barn neu’n cyflwyno unrhyw ddata arall, ni fyddwn yn gofyn i chi am ddata categori arbennig yn yr arolwg

Sail gyfreithiol y prosesu

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol yw bod angen ei brosesu er mwyn cyflawni tasg sydd er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol sydd wedi’i freinio yn y rheolydd data. Yn yr achos hwn, mae hyn yn golygu prosesu a gweithredu ar y wybodaeth rydych chi’n ei rhoi a’r awgrym rydych chi’n ei roi ynghylch y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi i recriwtio staff etholiadol a sicrhau lleoliadau etholiadol cyn etholiadau mis Mai 2021.

Derbynyddion

Gan y bydd eich data personol yn cael ei storio ar ein seilwaith TG, bydd yn cael ei rannu â’n proseswyr data sy’n darparu gwasanaethau e-bost, ac yn rheoli a storio dogfennau.

Pan fydd eich ymateb chi i’n harolygon yn dangos eich bod wedi’ch lleoli yng Nghymru, byddwn yn rhannu eich ymatebion gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, ar ffurf y gallan nhw eu defnyddio. Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i gefnogi Swyddogion Canlyniadau ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru, sydd wedi gofyn am gefnogaeth i recriwtio staff etholiadol a sicrhau lleoliadau etholiadol cyn etholiadau mis Mai 2021. Bydd Llywodraeth Cymru yn trin eich data ar gyfer yr un diben, bydd yn cael ei gadw am yr un cyfnod o amser a bydd yn ei brosesu yn yr un modd a nodwyd yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn. 

Defnyddio eich data

Rydym yn cysylltu â chi drwy'r wybodaeth bersonol a ddarparwyd gennych i Swyddfa'r Cabinet a gwmpesir o dan yr hysbysiad preifatrwydd. Rydym yn defnyddio'r data yn eich ymateb i'r arolwg i brosesu a gweithredu ar y wybodaeth a roddwch a'r arwydd a roddwch o'r cymorth y gallai fod ei angen arnoch i recriwtio staff etholiadol a sicrhau lleoliadau etholiadol cyn etholiadau mis Mai 2021. Defnyddir y data hwn i'n galluogi i rannu manylion cyswllt perthnasol ymgeiswyr sydd wedi cydsynio i'w manylion cyswllt gael eu trosglwyddo i chi, gan eich galluogi i gysylltu â nhw am rolau etholiadol sy'n cefnogi etholiadau'r Comisiynydd Lleol, maerol a Throseddu ym mis Mai 2021.

Cadw data

Byddwn ni’n cadw eich data personol cyhyd ag y byddwch yn dymuno derbyn gohebiaeth gan yr Is-adran Cofrestriadau Modern. Os byddwch chi’n ymateb i arolwg, byddwn yn cadw eich data ar ffurf y bydd modd ei defnyddio am flwyddyn o 22 Chwefror 2021.

Eich hawliau

Mae gennych chi'r hawl i wneud y canlynol:

  • gofyn am wybodaeth ynghylch sut mae eich data personol yn cael ei brosesu, a gofyn am gopi o’r data personol hwnnw
  • gofyn i ni gywiro unrhyw wallau yn eich data personol yn ddi-oed
  • gofyn i ni gwblhau unrhyw ddata personol anghyflawn, gan gynnwys drwy ddatganiad atodol
  • mewn rhai amgylchiadau (er enghraifft, pan fydd amheuaeth ynghylch cywirdeb), gofyn am gyfyngu ar brosesu eich data personol
  • gwrthwynebu prosesu eich data personol

Trosglwyddiadau mewnol

Gan fod eich data personol yn cael ei storio ar ein seilwaith TG, ac yn cael ei rannu â’n proseswyr data, mae’n bosib y caiff ei drosglwyddo a’i storio’n ddiogel tu allan i’r DU. Os felly, bydd yn destun amddiffyniad cyfreithiol cyfatebol drwy benderfyniad digonolrwydd neu drwy ddefnyddio Cymalau Contractau Enghreifftiol.

Cwynion

Os ydych chi’n credu bod eich data personol wedi cael ei gamddefnyddio neu ei gam-drafod, gallwch chi gwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n rheoleiddiwr annibynnol. Gallwch gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn y cyfeiriad isod:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
E-bost: casework@ico.org.uk 

Ni fydd unrhyw gŵyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth yn rhagfarnu ar eich hawl i geisio gwneud yn iawn drwy’r llysoedd.

Manylion cyswllt

Swyddfa’r Cabinet yw rheolydd data eich data personol. Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data unwaith y caiff y data eu trosglwyddo iddi. Manylion cyswllt y rheolyddion data yn Swyddfa’r Cabinet yw:

Cabinet Office
70 Whitehall
Llundain
SW1A 2AS
Ffôn: 0207 276 1234
E-bost: publiccorrespondence@cabinetoffice.gov.uk

Mae’r Swyddog Diogelu Data yn darparu cyngor annibynnol ac yn monitro defnydd Swyddfa’r Cabinet o wybodaeth bersonol.

Y cyfeiriad e-bost i gysylltu â Swyddog Diogelu Data’r rheolydd data yw dpo@cabinetoffice.gov.uk

Manyltion cyswllt Llywodraeth Cymru yw:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ffôn: 0300 0604400
E-bost: customerhelp@gov.wales

Y cyfeiriad e-bost i gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yw DataProtectionOfficer@gov.wales