Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer arolwg sgiliau Cymraeg aelodau bwrdd y sector cyhoeddus.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal arolwg o aelodau bwrdd presennol cyrff y sector cyhoeddus i gasglu data ar sgiliau iaith Gymraeg. Bydd y data hyn yn cael eu darparu i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd, a byddant yn pennu llinell sylfaen i lywio camau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Pan dderbynnir yr wybodaeth oddi wrth gyrff y sector cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Gorchymyn yn y Cyfrin Cyngor fel rhai sy’n dilyn y Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus, daw Llywodraeth Cymru yn rheolydd data ar ei chyfer.  

Mae’r wybodaeth bersonol a fydd yn cael ei chasglu fel a ganlyn: 

  • sgiliau iaith Gymraeg
  • bwrdd y sector cyhoeddus
  • lleoliad daearyddol
  • bydd cyfeiriadau e-bost yn cael eu cadw dim ond ar gyfer y diben o gysylltu ag aelodau bwrdd

Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei hanonymeiddio a’i chyfuno i lunio adroddiad sy’n dangos sgiliau iaith Gymraeg aelodau bwrdd, wedi’i ddadansoddi ar lefel wedi’i hanonymeiddio o 10 ac uwch fesul lleoliad daearyddol. Bydd yr adroddiad cyffredinol yn cael ei anonymeiddio ac ni fydd yn cynnwys unrhyw wybodaeth bellach am y pedwar maes uchod.

Rydym yn prosesu’r wybodaeth hon o dan erthygl 6(f), buddiant dilys. Ein buddiant dilys yw gwneud hyn ar gyfer dibenion cynnal trafodaeth ac ar gyfer dibenion cynllunio cynllun recriwtio yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod byrddau yn adlewyrchu’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. 

Beth yr ydym yn ei wneud gyda’ch gwybodaeth?

Yn rhinwedd ein rôl fel y rheolydd data, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r wybodaeth a fydd yn cael ei chasglu ar gyfer y dibenion a ganlyn. Mae’r dibenion hyn yn angenrheidiol er mwyn inni gyflawni ein tasgau cyhoeddus ac arfer ein hawdurdod swyddogol:

1.       Dibenion ystadegol ac ymchwil (i’w cynnal mewn modd sy’n sicrhau na ellir adnabod aelodau bwrdd unigol):

  • i hysbysu’r broses Penodiadau Cyhoeddus, a dylanwadu arni a’i gwella
  • i bennu llinell sylfaen ar gyfer llywio camau gweithredu yn y dyfodol

2.       Dibenion cyhoeddi (i’w cynnal mewn modd sy’n sicrhau na ellir adnabod aelodau bwrdd unigol):

  • i lunio adroddiad ar gyfer Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd, na fydd yn cael ei wneud yn gyhoeddus.

 phwy yr ydym yn rhannu eich gwybodaeth?

Fel rhan o’r broses casglu data, byddwn yn rhannu’r data wedi’u hanonymeiddio ar sgiliau iaith Gymraeg a lleoliad daearyddol â’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Ni fydd yr wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi. 

Ein buddiant dilys yw gwneud hyn ar gyfer dibenion cynnal trafodaeth ac ar gyfer dibenion cynllunio cynllun recriwtio yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod byrddau yn adlewyrchu’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. 

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Byddwn yn cadw data wedi’u hanonymeiddio ar yr iaith Gymraeg, ac am leoliad a’r bwrdd cyhyd ag y byddant yn angenrheidiol i gefnogi gwaith cynllunio a sicrhau bod y bwrdd yn adlewyrchu’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy yn cael ei hanonymeiddio cyn gynted ag y bo modd a bydd yr wybodaeth hon yn cael ei thrin yn unol â’r cyfreithiau diogelu data cymwys.

Eich hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth.

Mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’ch data personol:

Hawl mynediad

Mae hawl gennych i ofyn i weld y data personol yr ydym yn eu prosesu amdanoch.

Yr hawl i gywiro

Mae hawl gennych i ofyn inni gywiro gwallau yn eich data.

Yr hawl i wrthwynebu

Mewn rhai amgylchiadau, mae hawl gennych i wrthwynebu i’ch data gael eu prosesu.

Yr hawl i ddileu

Mae hawl gennych i ofyn i’ch data gael eu dileu, o dan rai amodau penodol.

Yr hawl i gyflwyno cwyn

Mae hawl gennych i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

 

Mwy o wybodaeth

I gael gwybod rhagor am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a sut y bydd yn cael ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y GDPR, cysylltwch â:

Penodiadau Cyhoeddus

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Mae manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn: 

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113