Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn cynnig cipolwg o argraffiadau gweithwyr ynghylch y farchnad lafur yng Nghymru ar sail cyfweliadau manwl, wyneb yn wyneb, awr o hyd.

Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2017 yw'r seithfed mewn cyfres o arolygon swyddi ym Mhrydain, fel y'u cofnodwyd gan y gweithwyr sy'n gwneud y swyddi. Mae'r gyfres wedi parhau dros 30 mlynedd (cynhaliwyd yr arolwg cyntaf yn 1986).  Mae'r adroddiad hwn yn darparu dadansoddiad o ganlyniadau arolygon 2006, 2012 a 2017 sy'n benodol i Gymru, gan eu cymharu â ffigurau ar gyfer Lloegr a De-ddwyrain Lloegr a Gweddill Prydain (nid yw'r ardaloedd hyn a Chymru yn gorgyffwrdd â'i gilydd). 

Canlyniadau allweddol

  • Mae rhai agweddau ar swyddi yng Nghymru yn well na swyddi mewn mannau eraill, gan gynnwys cydberthnasau â rheolwyr, cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau dros y sefydliad ac mae lefelau uchel o ddisgresiwn yn cael ei roi i weithwyr o ran gwneud tasgau. 
  • Fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn amlwg fod economi Cymru'n gymharol wan. Mae argraffiadau ynghylch cost colli swydd yn uwch yng Nghymru nag mewn lleoedd eraill. 
  • Hefyd, mae'n ymddangos mai gweithwyr Cymru oedd â'r lefelau uchaf o straen ym Mhrydain yn 2017, newid amlwg o ran safle gweithwyr Cymru o'i gymharu â blynyddoedd cynt.  Mae lefelau brwdfrydedd a bodlonrwydd ymhlith gweithwyr yng  Nghymru hefyd wedi lleihau. 
  • Fodd bynnag, mae canlyniadau'r adroddiad mewn perthynas â thegwch sefydliadol, cymwynasgarwch  rheolwyr, a chyfleoedd i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau dros y sefydliad yn ategu tystiolaeth flaenorol sy'n awgrymu bod yr hinsawdd yn well yng Nghymru o ran cydberthnasau gweithwyr a chyflogwyr. 

Adroddiadau

Gweithio yng Nghymru, 2006 i 2017 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gweithio yng Nghymru, 2006 i 2017: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 625 KB

PDF
625 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Gweithio yng Nghymru, 2006 i 2017: tablau , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 739 KB

ODS
739 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

James Carey

Rhif ffôn: 0300 025 3811

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.