Arolwg Pobl Awdurdod Cyllid Cymru: 2024
Canfyddiadau Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) 2024. Yn mesur ymgysylltiad â chyflogeion er mwyn helpu i wella perfformiad, darpariad gwasanaethau a llesiant staff sefydliadau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Cynhaliwyd yr Arolwg Pobl rhwng 10 Medi 2024 ac 8 Hydref 2024
- Cwblhaodd 78 o staff ACC yr arolwg
- Cafwyd cyfradd ymateb o 86%
- Roedd mynegai ymgysylltiad gweithwyr ACC yn 76%
Mae ymgysylltu â gweithwyr yn ddull sydd wedi'i gynllunio er mwyn sicrhau bod gweithwyr wedi ymrwymo i nodau a gwerthoedd eu sefydliad, a'u bod yn cael eu cymell i gyfrannu at lwyddiant sefydliadol.
Prif ganlyniadau
Thema | % Cadarnhaol | O’i gymharu â’r arolwg blaenorol | O’i gymharu â Meincnod y Gwasanaeth Sifil |
---|---|---|---|
Mynegai ymgysylltu | 76% | 0 | +12 |
Fy ngwaith | 86% | +1 | +9 |
Amcanion a diben sefydliadol | 88% | -1 | +5 |
Fy rheolwr | 86% | +3 | +8 |
Fy nhîm | 93% | -2 | +9 |
Dysgu a datblygu | 63% | 0 | +7 |
Cynhwysiant a thriniaeth deg | 90% | +2 | +9 |
Adnoddau a llwyth gwaith | 87% | -1 | +11 |
Cyflog a buddion | 82% | +7 | +48 |
Arweinyddiaeth a rheoli newid | 72% | -8 | +20 |
Sut mae'r mynegai ymgysylltiad yn gweithio
Mae'r arolwg yn cynnwys 5 cwestiwn sy'n rhan o’r mynegai ymgysylltiad.
Mae'r sgôr mynegai yn cynrychioli lefel cyfartalog yr ymgysylltiad ac yn amrywio o 0 i 100. Mae sgôr mynegai o 0 yn cynrychioli pob ymatebydd yn dweud eu bod yn anghytuno'n gryf â'r 5 cwestiwn ymgysylltiad. Mae sgôr o 100 yn cynrychioli pob ymatebydd yn dweud eu bod yn cytuno'n gryf â'r 5 cwestiwn ymgysylltiad.
Sut mae'r canlyniadau wedi'u talgrynnu
- Cyflwynir y canlyniadau fel rhifau cyfan er mwyn hwylustod darllen.
- Mae’r talgrynnu’n digwydd ar gam olaf y cyfrifiad er mwyn cywirdeb. Felly mewn rhai achosion, ni fydd y gwahaniaethau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn cyfateb i ffigurau wedi’u talgrynnu y sgoriau sy'n cael eu cymharu.
Er enghraifft, os yw sgôr y Mynegai Ymgysylltiad heb ei dalgrynnu yn 75.4% a sgôr cyffredinol yn sefydliad yn 74.6%, yn yr adroddiad hwn byddai'r ddau sgôr yma’n ymddangos fel 75%.
Rhestr o’r prif dermau
Term | Diffiniad |
---|---|
% Cadarnhaol | Y gyfran a ddewisodd naill ai "cytuno" neu "cytuno'n gryf", ar gyfartaledd ar draws yr holl gwestiynau o fewn y thema |
Arolwg blaenorol | Mae cymariaethau â'r arolwg blaenorol yn ymwneud â chanlyniadau Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2023 |
Meincnod y Gwasanaeth Sifil | Canolrif y ganran gadarnhaol ar draws yr holl sefydliadau a gymerodd ran yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2024 |
Cyfrinachedd
Cynhaliwyd yr arolwg fel rhan o Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2024, a reolir gan Swyddfa'r Cabinet ar ran yr holl sefydliadau sy’n cymryd ran. Comisiynir sefydliad allanol gan Swyddfa'r Cabinet i gynnal yr Arolwg.
Er mwyn diogelu anhysbysrwydd unigolion, ni adroddir ar grwpiau o lai na 10 o ymatebwyr. Er hynny mae eu hymatebion yn cyfrannu at y sgoriau cyffredinol ar gyfer yr uned a'r sefydliad y maen nhw’n perthyn iddo a chanlyniadau cyffredinol y Gwasanaeth Sifil.
Darllenwch The Civil Service People Survey: Privacy Notice ar GOV.UK