Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Trosolwg

Cynhaliwyd yr Arolwg Pobl rhwng 19 Medi 2023 ac 23 Hydref 2023.

  • Cwblhaodd 78 o staff ACC yr arolwg
  • Cafwyd cyfradd ymateb o 94%
  • Roedd mynegai ymgysylltiad gweithwyr ACC yn 76% 

Mae ymgysylltu â gweithwyr yn ddull sydd wedi'i gynllunio er mwyn sicrhau bod gweithwyr wedi ymrwymo i nodau a gwerthoedd eu sefydliad, a'u bod yn cael eu cymell i gyfrannu at lwyddiant sefydliadol. 

Prif ganlyniadau

Canlyniadau ymgysylltiad gweithwyr a 9 thema graidd Arolwg Pobl ACC 2023
Thema% CadarnhaolO’i gymharu â’r arolwg blaenorolO’i gymharu â Meincnod y Gwasanaeth Sifil
Mynegai ymgysylltu76% +12 
Fy ngwaith84% -5 +6 
Amcanion a diben sefydliadol89% -3 +5 
Fy rheolwr84% -5 +6 
Fy nhîm94% +2 +11 
Dysgu a datblygu63% -3 +7 
Cynhwysiant a thriniaeth deg88% -5 +7 
Adnoddau a llwyth gwaith88% -5 +13 
Cyflog a buddion75% -5 +43 
Arweinyddiaeth a rheoli newid80% +1 +28 

Sut mae'r mynegai ymgysylltiad yn gweithio

Mae'r arolwg yn cynnwys 5 cwestiwn sy'n rhan o’r mynegai ymgysylltiad.

Mae'r sgôr mynegai yn cynrychioli lefel cyfartalog yr ymgysylltiad ac yn amrywio o 0 i 100. Mae sgôr mynegai o 0 yn cynrychioli pob ymatebydd yn dweud eu bod yn anghytuno'n gryf â'r 5 cwestiwn ymgysylltiad. Mae sgôr o 100 yn cynrychioli pob ymatebydd yn dweud eu bod yn cytuno'n gryf â'r 5 cwestiwn ymgysylltiad.

Sut mae'r canlyniadau wedi'u talgrynnu

  • Cyflwynir y canlyniadau fel rhifau cyfan er mwyn hwylustod darllen.
  • Mae’r talgrynnu’n digwydd ar gam olaf y cyfrifiad er mwyn cywirdeb. Felly mewn rhai achosion, ni fydd y gwahaniaethau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn cyfateb i ffigurau wedi’u talgrynnu y sgoriau sy'n cael eu cymharu.

Er enghraifft, os yw sgôr y Mynegai Ymgysylltiad heb ei dalgrynnu yn 75.4% a sgôr cyffredinol yn sefydliad yn 74.6%, yn yr adroddiad hwn byddai'r ddau sgôr yma’n ymddangos fel 75%.

Rhestr o’r prif dermau

 
TermDiffiniad
% CadarnhaolY gyfran a ddewisodd naill ai "cytuno" neu "cytuno'n gryf", ar gyfartaledd ar draws yr holl gwestiynau o fewn y thema
Arolwg blaenorolMae cymariaethau â'r arolwg blaenorol yn ymwneud â chanlyniadau Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2022
Meincnod y Gwasanaeth SifilCanolrif y ganran gadarnhaol ar draws yr holl sefydliadau a gymerodd ran yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2023

Cyfrinachedd

Cynhaliwyd yr arolwg fel rhan o Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2023, a reolir gan Swyddfa'r Cabinet ar ran yr holl sefydliadau sy’n cymryd ran. Comisiynir sefydliad allanol gan Swyddfa'r Cabinet i gynnal yr Arolwg. 

Er mwyn diogelu anhysbysrwydd unigolion, ni adroddir ar grwpiau o lai na 10 o ymatebwyr. Er hynny mae eu hymatebion yn cyfrannu at y sgoriau cyffredinol ar gyfer yr uned a'r sefydliad y maen nhw’n perthyn iddo a chanlyniadau cyffredinol y Gwasanaeth Sifil.

Darllenwch The Civil Service People Survey: Privacy Notice ar GOV.UK