Rhestr termau
Term |
Diffiniad |
% Cadarnhaol |
Y gyfran a ddewisodd "gytuno" neu "gytuno'n gryf", ar gyfartaledd ar draws yr holl gwestiynau o fewn y thema |
Arolwg blaenorol |
Mae cymariaethau â'r arolwg blaenorol yn ymwneud â chanlyniadau Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2019 |
CS2020 |
Meincnod CS2020 yw canolrif y ganran gadarnhaol ar draws yr holl sefydliadau a gymerodd ran yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2020 |
Perfformwyr uchel y GS |
Ar gyfer pob thema dyma sgôr y chwartel uchaf ar draws pob sefydliad sydd wedi cymryd rhan yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2020 |
Talgrynnu
Cyflwynir y canlyniadau fel rhifau cyfan er mwyn hwyluso'r darllen, gan dalgrynnu yng ngham olaf y cyfrifo er mwyn sicrhau’r cywirdeb gorau posibl. Felly mewn rhai achosion, ni fydd y gwahaniaethau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn cyfateb i ffigurau wedi’u talgrynnu y sgoriau sy'n cael eu cymharu.
Er enghraifft, os yw eich sgôr Mynegai Ymgysylltiad heb ei dalgrynnu yn 75.43647583%, sgôr cyffredinol eich sefydliad yw 74.63572484% a’r gwahaniaeth rhwng y ddau yw +0.800751%, yn yr adroddiad hwn byddai'r sgoriau hyn yn ymddangos fel 75%, 75% a +1.
Y mynegai ymgysylltu â chyflogeion
Mae'r arolwg yn cynnwys pum cwestiwn sy'n creu'r mynegai ymgysylltu. Mae’r sgôr mynegai yn cynrychioli lefel gyfartalog yr ymgysylltu yn yr uned honno ac yn amrywio o 0 i 100. Mae sgôr mynegai o 0 yn cynrychioli'r holl ymatebwyr yn yr uned honno’n dweud eu bod yn anghytuno'n gryf â phob un o'r pum cwestiwn ymgysylltu ac mae sgôr o 100 yn cynrychioli'r holl ymatebwyr yn dweud eu bod yn cytuno'n gryf â phob un o'r pum cwestiwn ymgysylltu.
Cyfrinachedd
Cynhaliwyd yr arolwg fel rhan o Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2020, a reolir gan Swyddfa'r Cabinet ar ran yr holl sefydliadau sy’n cymryd rhan. Comisiynir sefydliad allanol gan Swyddfa'r Cabinet i gynnal yr Arolwg.
Er mwyn diogelu anhysbysedd unigolion, ni adroddir ar grwpiau o lai na 10 ymatebydd, ond mae eu hymatebion yn cyfrannu at y sgoriau cyffredinol ar gyfer yr uned a'r sefydliad y maent yn perthyn iddynt a chanlyniadau cyffredinol y Gwasanaeth Sifil.