Neidio i'r prif gynnwy

Cynhaliwyd ymgyrch gyfathrebu gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i roi gwybodaeth i'r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth o'r ffaith bod modd i chi leihau eich risg o gael dementia.

 Er mwyn monitro effeithiolrwydd yr ymgyrch a llywio ei datblygiad, mae angen gwybodaeth am ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o ddementia.

Canfyddiadau allweddol

  • Yn nhon 1, roedd bron chwech o bob 10 (57%) yn credu y gallai unigolyn gymryd camau i leihau ei risg o gael dementia. Roedd hyn wedi gostwng i ychydig dros hanner (51%) yn nhon 2. 
  • Roedd yr ymatebion mwyaf cyffredin yn cynnwys cadw eich cof a'ch ymennydd yn sionc (T1, 53%; T2, 47%), dilyn deiet iach (T1, 23%; T2, 24%) a gwneud ymarfer corff (T1, 20%; T2, 22%).
  • Gofynnwyd i'r ymatebwyr 'A ydych yn ymwybodol o unrhyw ymgyrchoedd iechyd y cyhoedd sy'n gysylltiedig â dementia?' Yn nhon 1, dywedodd 34% eu bod yn ymwybodol o ymgyrchoedd iechyd y cyhoedd sy'n gysylltiedig â dementia. Yn nhon 2, roedd hyn wedi gostwng i 29%.
  • Yn nhon 1, dywedodd 15% eu bod wedi gweld neu glywed am yr ymgyrch 'Dementia: gwna fe i leihau dy risg'. Mae hyn cymharu ag 16% yn nhon 2.

Adroddiadau

Arolwg o ymwybyddiaeth o ddementia: ton 1 a 2 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 992 KB

PDF
992 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Rebecca Cox

Rhif ffôn: 0300 025 9378

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.