Mae ffigurau ar gyfer ymweliadau undydd yn dangos bod mwy o bobl yn dod ar dripiau undydd i Gymru ac yn gwario mwy ar eu tripiau.
Heddiw, cyhoeddwyd Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr ac yn ôl yr arolwg hwnnw, yn ystod y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Awst 2016 cafwyd 94.2 miliwn o ymweliadau undydd gan dwristiaid i Gymru. Roedd y gwariant a oedd yn gysylltiedig â hynny’n £3,516 miliwn.
Mae hynny’n gynnydd o 24.4% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol, ac mae’r gwariant wedi cynyddu 32.5%.
Bellach, mae’r hyn mae pobl yn ei wario yn ystod pob ymweliad yn uwch ar gyfer Cymru nag ydyw ar gyfer Prydain gyfan. Wrth ymweld â Chymru mae pobl yn gwario £37, o’i gymharu â chyfartaledd o £35 ar gyfer Prydain gyfan.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:
“Mae’r ffigurau hyn yn rhoi cipolwg defnyddiol ar berfformiad y diwydiant twristiaeth. Mae clywed am y cynnydd mawr a gofnodwyd ar gyfer misoedd prysur yr haf yn newyddion ardderchog. Mae’r cynnydd hwn mewn ymweliadau undydd hefyd yn ategu’r adborth a gafwyd o’n Baromedr Twristiaeth. Dywedodd 84% o fusnesau a gymerodd ran yn yr arolwg hwnnw eu bod wedi cael haf naill ai’n brysurach neu’r un mor brysur â 2015 – a honno oedd y flwyddyn orau erioed i Gymru. Bellach, mae’r gwaith yn parhau i ddenu pobl i Gymru yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf.”