Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am farn ac ymddygiad y cyhoedd yn ystod yr argyfwng coronafeirws ar gyfer 30 Gorffennaf i 2 Awst 2021.

Prif ganfyddiadau

Mae canfyddiadau o'r bygythiadau a achosir gan y coronafeirws yn lleihau yn graddol. Wrth i'r broses o gyflwyno brechu parhau ac wrth i'r cyfyngiadau ddechrau cael eu lleddfu yng Nghymru, mae’r gyfran sy'n credu bod coronafeirws yn fygythiad uchel iddynt yn bersonol a'u gwlad yn parhau ar lefelau is, gyda’r bygythiad i'w gwlad ar ei lefel isaf wedi'i chofnodi.

Mae cyfran y bobl sy'n gadael eu cartref i wneud teithiau hanfodol yn unig wedi aros yn sefydlog. Mae mwyafrif o bobl yng Nghymru yn parhau i geisio cadw dau fetr oddi wrth eraill pan fyddant allan, er bod hyn wedi dechrau lleihau. Mae Llywodraeth Cymru a’r GIG yn gyffredinol yn parhau i gael eu gweld yn gwneud gwaith da, gyda ychydig yn is na tri chwarter o'r cyhoedd yng Nghymru bellach yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith da am reoli lledaeniad y feirws.

Mae'r cyhoedd yng Nghymru yn parhau i feddwl y bydd y pandemig coronafeirws yn cael effaith ariannol bersonol arnynt. Mae tua chwarter o bobl yn pryderu na fyddant yn gallu talu eu biliau ymhen mis.

Crynodeb o'r dulliau

Canlyniadau dethol yw’r rhain o arolwg rheolaidd sy'n olrhain ymddygiad a barn y cyhoedd ar coronafeirws. Mae'r astudiaeth yn cael ei chynnal ar-lein gan Ipsos MORI gydag oedolion rhwng 16 a 74 oed yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu’r arolwg yn rheolaidd ers mis Mawrth 2020. Mae'n gynrychioliadol ar y cyfan ar lefel poblogaeth, a chaiff y data ei bwysoli i adlewyrchu proffil demograffig y boblogaeth oedolion (o ran rhyw ac oedran) yn ôl amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn. Tra bod rhai cyfyngiadau i baneli ar-lein, maent yn darparu data’n gyflym mewn sefyllfaoedd fel hyn.

Bydd y cyfyngau hygrededd tebygol o gwmpas y dangosyddion oddeutu +/-4% i 5% ar gyfer y sampl wedi ei gynyddu ar gyfer Cymru. O ystyried y cyfyngau hygrededd dylid dehongli'r gwahaniaethau rhwng tonnau gyda pheth gofal.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Arolwg o farn y cyhoedd ar y coronafeirws (COVID-19): 30 Gorffennaf i 2 Awst 2021 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 9 KB

ODS
9 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.