Gwybodaeth am farn ac ymddygiad y cyhoedd yn ystod yr argyfwng coronafeirws ar gyfer 21 i 24 Mai 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg o farn y cyhoedd ar y coronafeirws (COVID-19)
Prif ganfyddiadau
Mae canfyddiadau o'r bygythiadau a achosir gan coronafeirws wedi gostwng yn ddiweddar. Wrth i'r broses o gyflwyno brechu parhau ac wrth i'r cyfyngiadau ddechrau cael eu lleddfu yng Nghymru, mae’r gyfran sy'n credu bod coronafeirws yn fygythiad uchel iddynt yn bersonol a'u gwlad at eu lefelau isaf a gofnodwyd eto.
Mae cyfran y bobl sy'n gadael eu cartref i wneud teithiau hanfodol yn unig wedi gostwng eto, tra bod mwyafrif helaeth yng Nghymru yn parhau i geisio cadw dau fetr oddi wrth eraill pan fyddant allan. Mae Llywodraeth Cymru a’r GIG yn gyffredinol yn parhau i gael eu gweld yn gwneud gwaith da, gyda dros ddau draean o'r cyhoedd yng Nghymru bellach yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith da am reoli lledaeniad y feirws.
Mae'r cyhoedd yng Nghymru yn parhau i feddwl y bydd y pandemig coronafeirws yn cael effaith ariannol bersonol arnynt. Mae tua un pumed o bobl yn pryderu na fyddant yn gallu talu eu biliau un mis o nawr.
Crynodeb o'r dulliau
Canlyniadau dethol yw’r rhain o arolwg wythnosol sy'n olrhain ymddygiad a barn y cyhoedd ar coronafeirws. Mae'r astudiaeth yn defnyddio platfform ar-lein Global Advisor IPSOS Mori i gasglu gwybodaeth gan oedolion rhwng 16 a 74 oed. Mae Llywodraeth Cymru wedi talu am gynnydd ym maint y sampl ar gyfer Cymru ers 19 Mawrth hyd at 21 Mawrth 2020, a maint y sampl yn sgîl hyn yw oddeutu 500-600. Mae'n gynrychioliadol ar y cyfan ar lefel poblogaeth, a chaiff y data ei bwysoli i adlewyrchu proffil demograffig y boblogaeth oedolion (o ran rhyw ac oedran) yn ôl amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn. Tra bod rhai cyfyngiadau i baneli ar-lein, maent yn darparu data’n gyflym mewn sefyllfaoedd fel hyn.
Bydd y cyfyngau hygrededd tebygol o gwmpas y dangosyddion oddeutu +/-4% i 5% ar gyfer y sampl wedi ei gynyddu ar gyfer Cymru. O ystyried y cyfyngau hygrededd dylid dehongli'r gwahaniaethau rhwng wythnosau gyda pheth gofal.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Arolwg o farn y cyhoedd ar y coronafeirws (COVID-19): 21 i 24 Mai 2021 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 9 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.