Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am farn ac ymddygiad y cyhoedd yn ystod yr argyfwng coronafeirws ar gyfer 20 i 23 Tachwedd 2020.

Prif ganfyddiadau

Mae canfyddiadau o'r bygythiadau a achosir gan coronafirws wedi bod yn gymharol sefydlog ers cryn amser. Mae’n parhau i gael ei weld fel mwy o fygythiad i’r wlad nac i unigolion.

Mae’r gyfran o bobl sy’n gadael eu cartref i wneud teithiau hanfodol yn unig wedi cynyddu’n ddiweddar ac mae mwyafrif mawr yng Nghymru yn parhau i geisio cadw dau fetr oddi wrth eraill pan fyddant allan. Mae Llywodraeth Cymru a’r GIG yn gyffredinol yn parhau i gael eu gweld yn gwneud gwaith da.

Mae’r cyhoedd yng Nghymru yn parhau i feddwl y bydd y pandemig coronafeirws yn cael effaith economaidd bersonol arnynt. Mae tua chwarter yn poeni na fyddant yn gallu talu eu biliau un mis o nawr.

Crynodeb o'r dulliau

Canlyniadau dethol yw’r rhain o arolwg wythnosol sy'n olrhain ymddygiad a barn y cyhoedd ar coronafeirws. Mae'r astudiaeth yn defnyddio platfform ar-lein Global Advisor IPSOS Mori i gasglu gwybodaeth gan oedolion rhwng 16 a 74 oed. Mae Llywodraeth Cymru wedi talu am gynnydd ym maint y sampl ar gyfer Cymru ers 19 i 21 Mawrth 2020, a maint y sampl yn sgîl hyn yw oddeutu 500 i 600. Mae'n gynrychioliadol ar y cyfan ar lefel poblogaeth, a chaiff y data ei bwysoli i adlewyrchu proffil demograffig y boblogaeth oedolion (o ran rhyw ac oedran) yn ôl amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn. Tra bod rhai cyfyngiadau i baneli ar-lein, maent yn darparu data’n gyflym mewn sefyllfaoedd fel hyn.

Bydd y cyfyngau hygrededd tebygol o gwmpas y dangosyddion oddeutu +/-4% i 5% ar gyfer y sampl wedi ei gynyddu ar gyfer Cymru. O ystyried y cyfyngau hygrededd dylid dehongli'r gwahaniaethau rhwng wythnosau gyda pheth gofal.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Arolwg o farn y cyhoedd ar y coronafeirws (COVID-19): 20 i 23 Tachwedd 2020 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 8 KB

ODS
8 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.