Gwybodaeth am farn ac ymddygiad y cyhoedd yn ystod yr argyfwng coronafeirws ar gyfer 15 i 18 Mai 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg o farn y cyhoedd ar y coronafeirws (COVID-19)
Prif ganfyddiadau
Mae’r canfyddiadau o’r bygythiadau gan y coronafeirws yn sefydlog yn dilyn peth gostyngiad yn flaenorol. Mae’n parhau i gael ei weld fel mwy o fygythiad i’r wlad nac i unigolion. Mae ychydig o dan hanner yn credu y bydd rhywun agos iddynt yn cael eu heintio.
Mae mwyafrif yng Nghymru yn parhau i ddilyn y canllawiau cadw pellter cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru a’r GIG yn gyffredinol yn parhau i gael eu gweld yn gwneud gwaith da.
Mae’r cyhoedd yng Nghymru yn parhau i feddwl y bydd y pandemig coronafeirws yn cael effaith economaidd bersonol arnynt. Mae tua un o bob pump yn poeni na fyddant yn gallu talu eu biliau un mis o nawr.
Crynodeb o'r dulliau
Canlyniadau dethol yw’r rhain o arolwg wythnosol sy'n olrhain ymddygiad a barn y cyhoedd ar coronafeirws. Mae'r astudiaeth yn defnyddio platfform ar-lein Global Advisor IPSOS Mori i gasglu gwybodaeth gan oedolion rhwng 16 a 74 oed. Mae Llywodraeth Cymru wedi talu am gynnydd ym maint y sampl ar gyfer Cymru ers 19 Mawrth hyd at 21 Mawrth 2020, a maint y sampl yn sgîl hyn yw oddeutu 600. Mae'n gynrychioliadol ar y cyfan ar lefel poblogaeth, a chaiff y data ei bwysoli i adlewyrchu proffil demograffig y boblogaeth oedolion (o ran rhyw ac oedran) yn ôl amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn. Tra bod rhai cyfyngiadau i baneli ar-lein, maent yn darparu data’n gyflym mewn sefyllfaoedd fel hyn.
Bydd y cyfyngau hygrededd tebygol o gwmpas y dangosyddion oddeutu +/-4% ar gyfer y sampl wedi ei gynyddu ar gyfer Cymru. O ystyried y cyfyngau hygrededd dylid dehongli'r gwahaniaethau rhwng wythnosau gyda pheth gofal.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Arolwg o farn y cyhoedd ar y coronafeirws (COVID-19): 15 i 18 Mai 2020 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 7 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.