Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am farn ac ymddygiad y cyhoedd yn ystod yr argyfwng coronafeirws ar gyfer 11 i 14 Medi 2020.

Prif ganfyddiadau

Mae’r canfyddiadau o’r bygythiadau gan y coronafeirws yn sefydlog yn dilyn peth gostyngiad yn flaenorol. Mae’n parhau i gael ei weld fel mwy o fygythiad i’r wlad nac i unigolion.

Mae mwyafrif mawr yng Nghymru yn parhau i geisio cadw dau fetr oddi wrth eraill pan fyddant allan, ond mae llai na hanner yn gadael cartref bellach ar gyfer siwrneiau hanfodol yn unig. Mae Llywodraeth Cymru a’r GIG yn gyffredinol yn parhau i gael eu gweld yn gwneud gwaith da.

Mae’r cyhoedd yng Nghymru yn parhau i feddwl y bydd y pandemig coronafeirws yn cael effaith economaidd bersonol arnynt. Mae tua chwarter yn poeni na fyddant yn gallu talu eu biliau un mis o nawr.

Crynodeb o'r dulliau

Canlyniadau dethol yw’r rhain o arolwg wythnosol sy'n olrhain ymddygiad a barn y cyhoedd ar coronafeirws. Mae'r astudiaeth yn defnyddio platfform ar-lein Global Advisor IPSOS Mori i gasglu gwybodaeth gan oedolion rhwng 16 a 74 oed. Mae Llywodraeth Cymru wedi talu am gynnydd ym maint y sampl ar gyfer Cymru ers 19 i 21 Mawrth 2020, a maint y sampl yn sgîl hyn yw oddeutu 500 i 600. Mae'n gynrychioliadol ar y cyfan ar lefel poblogaeth, a chaiff y data ei bwysoli i adlewyrchu proffil demograffig y boblogaeth oedolion (o ran rhyw ac oedran) yn ôl amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn. Tra bod rhai cyfyngiadau i baneli ar-lein, maent yn darparu data’n gyflym mewn sefyllfaoedd fel hyn.

Bydd y cyfyngau hygrededd tebygol o gwmpas y dangosyddion oddeutu +/-4% i 5% ar gyfer y sampl wedi ei gynyddu ar gyfer Cymru. O ystyried y cyfyngau hygrededd dylid dehongli'r gwahaniaethau rhwng wythnosau gyda pheth gofal.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Arolwg o farn y cyhoedd ar y coronafeirws (COVID-19): 11 i 14 Medi 2020 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 8 KB

ODS
8 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.