Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am farn ac ymddygiad y cyhoedd yn ystod yr argyfwng coronafeirws ar gyfer 10 i 14 Rhagfyr 2021.

Prif ganfyddiadau

Mae canfyddiadau o'r bygythiadau i’r gwlad a achosir gan y coronafeirws wedi cynyddu yn y ton hon. Er hynny, mae’r gyfran sy'n credu bod coronafeirws yn fygythiad uchel iddynt yn bersonol wedi aros ar lefelau’n weddol isel.

Mae cyfran y bobl sy'n gadael eu cartref i wneud teithiau hanfodol yn unig a’r rhai sy’n cadw dau fetr oddi wrth eraill pan fyddant allan wedi cynyddu yn y ton hon. Mae Llywodraeth Cymru a’r GIG yn gyffredinol yn parhau i gael eu gweld yn gwneud gwaith da, gyda dros ddau draean o'r cyhoedd yng Nghymru bellach yn dweud bod y Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith da am reoli lledaeniad y feirws.

Crynodeb o'r dulliau

Canlyniadau dethol yw’r rhain o arolwg rheolaidd sy'n olrhain ymddygiad a barn y cyhoedd ar coronafeirws. Mae'r astudiaeth yn cael ei chynnal ar-lein gan Ipsos MORI gydag oedolion rhwng 16 a 74 oed yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu’r arolwg yn rheolaidd ers mis Mawrth 2020. Mae'n gynrychioliadol ar y cyfan ar lefel poblogaeth, a chaiff y data ei bwysoli i adlewyrchu proffil demograffig y boblogaeth oedolion (o ran rhyw ac oedran) yn ôl amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn. Tra bod rhai cyfyngiadau i baneli ar-lein, maent yn darparu data’n gyflym mewn sefyllfaoedd fel hyn.

Bydd y cyfyngau hygrededd tebygol o gwmpas y dangosyddion oddeutu +/-4% i 5% ar gyfer y sampl wedi ei gynyddu ar gyfer Cymru. O ystyried y cyfyngau hygrededd dylid dehongli'r gwahaniaethau rhwng tonnau gyda pheth gofal.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Arolwg o farn y cyhoedd ar y coronafeirws (COVID-19): 10 i 14 Rhagfyr 2021 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 9 KB

ODS
9 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.