Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal arolwg o ddysgwyr yng Nghymru. Mae'r arolwg wedi'i anelu'n benodol at ddysgwyr presennol ar gyrsiau addysg bellach, chweched dosbarth, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned. Ei ddiben yw edrych ar brofiadau a lles dysgwyr mewn addysg ôl-16 yn y blynyddoedd ar ôl pandemig COVID-19. Bydd yr ymchwil hon yn cael ei defnyddio i helpu Llywodraeth Cymru i ddeall effeithiau parhaus Covid-19 ar ddysgwyr, ac i nodi unrhyw anghenion cymorth ychwanegol. 

Bydd ymchwilwyr Llywodraeth Cymru yn casglu gwybodaeth drwy arolwg ar-lein, a bydd y ddolen yn cael ei hyrwyddo gan ddarparwyr dysgu Cymru, rhwydweithiau cysylltiedig a thrwy'r cyfryngau cymdeithasol. Eich dewis chi yn llwyr yw cymryd rhan yn y gwaith ymchwil hwn ai peidio. 

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Bydd yr wybodaeth a gesglir drwy'r arolwg yn cael ei chynnwys mewn adroddiad ymchwil a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd modd adnabod unrhyw unigolion sy'n ymateb i'r arolwg yn adroddiad Llywodraeth Cymru.

Eich dewis chi yn llwyr yw p'un ai i gymryd rhan yn y gwaith ymchwil hwn ai peidio. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau'n bwysig inni er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.

Pa ddata personol a gedwir gennym ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth hon

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellir ei defnyddio i adnabod y person hwnnw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ddull adnabod.

Rydych wedi derbyn gwybodaeth i gael mynediad i'r arolwg drwy eich darparwr dysgu, rhwydweithiau cysylltiedig neu gyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Y rheswm am hyn yw nad yw Llywodraeth Cymru yn cadw manylion cyswllt megis cyfeiriadau e-bost ar gyfer pob dysgwr. 

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost na'ch cyfeiriad IP yn cael eu casglu pan fyddwch yn cwblhau'r arolwg ar-lein ac felly bydd eich ymatebion yn ddienw. 

Nid oes yn rhaid ateb pob cwestiwn. Os byddwch yn dewis rhoi data personol ychwanegol fel rhan o'r arolwg, byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion a roddwch, na chysylltu eich enw â'r rhain. 

Os byddwch yn gofyn cwestiwn neu’n gwneud cwyn, ac yn rhoi data personol er mwyn gallu cael ymateb, bydd yr ymchwilydd yn eu hanfon ymlaen at y swyddog perthnasol yn Llywodraeth Cymru ac yn eu dileu maes o law o gronfa ddata’r ymchwil.

Beth yw’r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. 

Mae cymryd rhan yn rhywbeth cwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru er mwyn casglu gwybodaeth a thystiolaeth am ei gallu i wireddu ei blaenoriaethau. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir fel rhan o'r ymchwil hon i wneud y canlynol, er enghraifft:

  • cael gwell dealltwriaeth o brofiadau dysgwyr mewn chweched dosbarth ysgolion, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned yn y blynyddoedd ar ôl pandemig COVID-19 
  • deall beth sydd angen digwydd i wella profiad dysgu dysgwyr ôl-16 a chefnogi penderfyniadau Llywodraeth Cymru ar ddarparu yn y dyfodol

Pa mor ddiogel yw eich data personol

Bydd data personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw ar weinyddion diogel. Mae ffolder wedi’i chreu ar gyfer y prosiect hwn, a dim ond y tîm ymchwil sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r prosiect hwn sydd â mynediad ati. Bydd y data personol a roddwch yn cael eu storio mewn ffolder gyfyngedig. 

Gweinyddir yr arolwg hwn gan ddefnyddio rhaglen meddalwedd arolygon o'r enw Smart Survey. Rydym wedi sicrhau bod Smart Survey yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd. 

Bydd ymchwilwyr Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i lunio adroddiad o'r prif ganfyddiadau, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad yn cynnwys unrhyw wybodaeth a allai ei gwneud hi’n bosibl adnabod yr unigolion sydd wedi cymryd rhan.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol

Os byddwch yn darparu unrhyw ddata personol mewn ymatebion testun agored, bydd yn cael ei wneud yn ddienw fel rhan o'r broses dadansoddi data.

Hawliau'r unigolyn

O dan GDPR y DU, mae gennych hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi fel rhan o'r ymchwil hon. Yn benodol, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • cael mynediad at gopi o'ch data eich hun
  • gofyn inni gywiro unrhyw wallau yn y data hynny
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar unrhyw brosesu data (o dan amgylchiadau penodol)
  • gofyn i'ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: www.ico.gov.uk

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Enw: Claire Griffiths 
Cyfeiriad e-bost: YmchwilYsgolion@llyw.cymru
Rhif ffôn: 03000 251015 

Dyma fanylion cyswllt Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru: 

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: ‌SwyddogDiogeluData@llyw.cymru