Neidio i'r prif gynnwy

Yn unol â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), mae'r hysbysiad hwn yn esbonio beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud â'r wybodaeth y mae ffermwyr yn ei rhoi inni trwy'r arolwg hwn.

Gall swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ofyn inni newid yr wybodaeth yn yr hysbysiad hwn o dro i dro.

Y cefndir

Fel rheolydd y data, mae Llywodraeth Cymru yn cadw ac yn casglu gwybodaeth o dan y pwerau a roddir iddi gan Ddeddf Ystadegau Amaethyddol 1979.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal Arolwg o Amaethyddiaeth a Garddwriaeth bob mis Mehefin. Dewisir sampl o ffermydd bob blwyddyn i gymryd rhan yn yr arolwg ac mae disgwyl i bob fferm a ddewisir lenwi'r ffurflen a'i dychwelyd i Lywodraeth Cymru. Er mwyn medru cynnal yr arolwg, mae angen cadw cofrestr ystadegol o bob eiddo lle gallai gweithgareddau amaethyddol a garddwrol gael eu cynnal. At ddiben y ddogfen hon, defnyddir y gair "fferm" i ddisgrifio eiddo o'r fath er ein bod yn cydnabod nad yw'n ddisgrifiad sy'n addas i bob sefyllfa. Mae'r gofrestr yn cael ei defnyddio hefyd fel sail ar gyfer cynnal ymchwil arall er lles y cyhoedd.

Mae'r gofrestr yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • manylion cyswllt (enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost) y sawl sy'n gyfrifol am ofalu am y fferm
  • manylion lleoliad y fferm (os yw'n wahanol i'r uchod) ac arwynebedd y fferm

Mae'r arolwg yn casglu:

  • gwybodaeth ynghylch sut mae'r tir yn cael ei ddefnyddio, nifer y da byw a nifer y bobl sy'n gweithio ar y fferm
  • dro i dro, gofynnir am wybodaeth ychwanegol fel rhan o'r Arolwg o Strwythurau Fferm (Mae'r arolwg hwn yn gofyn am oed y ffermwyr ac am fwy o wybodaeth am batrymau gwaith y bobl sy'n gweithio ar y fferm. Mae'n gofyn am wybodaeth hefyd am arferion ffermio)

Mae'r wybodaeth a gedwir yn y gofrestr eiddo ac sy'n cael ei chasglu ar ffurflenni'r arolwg yn cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru i gynnal ei thasg gyhoeddus o fonitro a datblygu polisïau amaeth:

  • caiff amrywiaeth o gyhoeddiadau ystadegol eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru sy'n defnyddio data cyfun na fydd modd adnabod ffermydd unigol trwyddynt, gan gynnwys
  • ystadegau a fydd, o'u dadansoddi, yn galluogi Llywodraeth Cymru i gloriannu a chynllunio polisi amaeth, unwaith eto heb ddatgelu ffermydd unigol
  • helpu i gynnal ymchwil er budd y cyhoedd e.e. asesu effeithiau amgylcheddol ffermio. (Gall yr ymchwil honno gael ei chynnal gan neu ar ran Llywodraeth Cymru neu Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA). Cewch ragor o fanylion ym ‘Eich hawliau o dan y GDPR’)

 phwy y mae Llywodraeth Cymru'n rhannu'ch gwybodaeth?

O dan yr amodau a ddisgrifir yn Adran 3(1) Deddf Ystadegau Amaethyddol 1979, ni chaiff Llywodraeth Cymru gyhoeddi na datgelu gwybodaeth a ddelir ganddi am ffermydd unigol heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw y person a roddodd yr wybodaeth.

Wedi dweud hynny, mae Adran 3(2)(a) ac (c) y Ddeddf yn caniatáu rhannu gwybodaeth ag adrannau eraill y Llywodraeth neu â chyrff allanol neu â'r Gweinidog iddo/iddi allu cymeradwyo rhyddhau rhannau o'r wybodaeth os bernir bod hynny o fudd i'r cyhoedd.

Lle bo angen, mae Llywodraeth Cymru'n rhannu data'n ddiogel o'r gofrestr ystadegol neu'r arolwg o amaethyddiaeth a garddwriaeth â chyrff eraill at ddibenion ymchwil. Cynhelir yr ymchwil honno gan neu ar ran Llywodraeth Cymru neu gan neu ar ran DEFRA ar lefel Prydain Fawr neu'r DU. Mae Llywodraeth Cymru yn rhannu'ch gwybodaeth hefyd â chyrff eraill y Llywodraeth e.e. yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion neu ag ymchwilwyr cymeradwy eraill sy'n cynnal ymchwil er budd y cyhoedd.

Gwneir hynny o dan amodau llym iawn. Ni wnaiff Llywodraeth Cymru roi data ond at ddibenion penodol iawn ac am gyfnod cyfyngedig o amser. Ar ôl y cyfnod hwnnw, rhaid i'r corff gadarnhau bod y data wedi'u dinistrio. Rhaid i unrhyw waith dadansoddi gydymffurfio â rheolau Llywodraeth Cymru ar gyfrinachedd rhag i ffermydd unigol allu cael eu hadnabod. Ym mhob achos, bydd Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr hyn a ddatgelir ac os bydd yn cymeradwyo ei ddatgelu, caiff ei reoli gan gytundeb mynediad at ddata fydd:

  • yn sicrhau bod y data'n cael eu trosglwyddo, eu storio ac yn pendraw, eu dinistrio'n ddiogel
  • ond yn cynnwys gwybodaeth bersonol os oes angen clir amdani
  • yn sicrhau mai dim ond at y diben a nodwyd y caiff y data eu defnyddio, ac na fydd modd adnabod unigolyn yn yr adroddiad a gyhoeddir
  • yn sicrhau mai dim ond am gyfnod y prosiect ymchwil y caiff y data eu storio ac y caiff eu dinistrio ar ôl hynny

Ni fyddwn yn rhannu data o'r gofrestr ystadegol y bydd modd adnabod rhywun drwyddynt at unrhyw bwrpas arall heb ganiatâd ysgrifenedig y partïon perthnasol. 

Am faint y cadwn y data?

Mae'r gofrestr ffermydd yn cael ei diweddaru'n gyson ac y mae felly wastad yn fyw. Pan deuir i wybod nad yw fferm yn cynnal gweithgarwch amaethyddol mwyach, caiff cofnodion y fferm honno ei rhoi yn archif y gofrestr. Rydym yn cadw eu manylion rhag ofn y bydd eu hangen i ddatrys problemau â ffermydd byw. Fel arall, ni fyddwn yn eu defnyddio nac yn eu rhannu.

Bydd Llywodraeth Cymru'n cadw ffurflenni'r arolwg am ddwy flynedd ac wedyn yn eu dinistrio. Dilynir y broses a ddisgrifir uchod.

Mae'r data am weithgarwch y fferm (h.y. defnydd tir, nifer da byw a nifer y bobl sy'n gweithio ar y fferm) yn cael eu cadw'n electronig er mwyn i Lywodraeth Cymru allu cynnal dadansoddiad hanesyddol fel a ddisgrifir ym ‘Y cefndir’. Caiff pob dadansoddiad ei gyhoeddi ar lefel gyfunol ac ni fydd modd adnabod ffermydd unigol drwyddo.

Eich hawliau o dan y GDPR

Mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud â'ch data personol (yr hysbysiad hwn)
  • i gael gweld y data personol y mae Llywodraeth Cymru'n eu prosesu amdanoch
  • i fynnu bod Llywodraeth Cymru yn cywiro unrhyw beth anghywir yn y data
  • i wrthwynebu (o dan rai amgylchiadau) defnyddio'ch data personol neu gyfyngu ar eu defnydd
  • i ofyn (o dan rai amgylchiadau) inni 'ddileu' eich data

Pwyntiau cyswllt i gael gwybodaeth a chyflwyno cwynion

Dylai unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad hwn neu am hawliau unigolion gael eu hanfon mewn ysgrifen i Lywodraeth Cymru yn y cyfeiriad isod . Dylai unrhyw gwynion gael eu hanfon i’r cyfeiriad hwn hefyd yn y lle cyntaf, er y gallwch gwyno’n uniongyrchol hefyd i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Ystadegau Amaethyddol
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Llawr 4 De
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: ystadegau.amaeth@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru)
Tŷ Churchill
17 Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Rhif ffôn: 029 2067 8400 neu 0303 123 1113
E-bost: casework@ico.org.uk
Gwefan: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ.
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru