Neidio i'r prif gynnwy

Yn ôl arolwg mawr newydd a gyhoeddwyd heddiw mae plant sydd mewn gofal yng Nghymru yn sefydlog yn eu lleoliadau ac yn hapus gyda'u bywydau yn gyffredinol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd ein harolwg peilot “Fy Mywyd i, Fy Ngofal i” am brofiadau plant sy’n derbyn gofal ei gynnal gan yr elusen Coram Voice a Phrifysgol Bryste mewn chwe ardal awdurdod lleol yng Nghymru yn gynharach eleni. 

Cafodd yr arolwg ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru a’i gefnogi gan Gomisiynydd Plant Cymru. Cwblhaodd 686 o blant a phobl ifanc yr arolwg – tua  28% o’r holl blant rhwng 4 a 18 mlwydd oed sy’n derbyn gofal yng Nghymru.

Cafodd yr arolwg ei gynnal fel rhan o’r Rhaglen Bright Spots i helpu awdurdodau lleol, fel rhieni corfforaethol, i ddeall yn well beth sydd fwyaf pwysig i’r plant y maen nhw’n gofalu amdanynt. Mae hefyd o gymorth i ddod i wybod mwy am deimladau’r plant am y gofal y maent yn ei dderbyn. 

Daeth yr arolwg i’r casgliad bod: 

  • 96% o blant (4-10 oed) yn ymddiried yn eu gofalwyr a dim ond 4% oedd yn teimlo fel arall, roedd 71% o bobl ifanc (11-18 oed) yn ymddiried yn eu gofalwyr ‘rhywfaint o’r amser neu bob amser’ a dim ond 7% ddywedodd nad oeddynt yn ymddiried ynddynt o gwbl
  • y mwyafrif helaeth o blant a phobl ifanc yn teimlo’n ddiogel yn eu lleoliadau. Mewn gwirionedd, roedd cyfran uwch o blant sy’n derbyn gofal yn teimlo’n ddiogel ‘bob amser’ o gymharu â phlant yn y boblogaeth gyffredinol  
  • 94% o blant a phobl ifanc (8-18 oed) yn teimlo bod eu gofalwyr yn mynegi diddordeb yn eu haddysg.

Yn hwyrach heddiw, bydd y Gweinidog yn mynd i ddigwyddiad cenedlaethol yn Llandrindod i ddathlu gwaith sy’n cael ei wneud ym mhob cwr o Gymru i wella’r canlyniadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.  

Wrth groesawu canlyniadau’r arolwg, dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Blant:

“Mae gwella canlyniadau a chyfleoedd bywyd i blant sy’n cael profiad o dderbyn gofal yn flaenoriaeth imi fel y Gweinidog dros Blant ac i Lywodraeth Cymru yn gyffredinol. 

“Mae’n gwbl hanfodol gwrando ar blant a phobl ifanc a’u cydnabod, ac ymateb i’w barn a’u profiadau. Felly, rydw i am ddiolch i’r holl blant a phobl ifanc sydd wedi rhoi eu hamser i gymryd rhan yn yr arolwg hwn. 

“Mae yna feysydd lle rydyn ni’n cyflawni’n dda ond gallem wneud yn well mewn rhai eraill. Rhaid inni ddysgu nawr o’r hyn mae plant a phobl ifanc yn ei ddweud sydd bwysicaf iddyn nhw – yn eu perthynas â’u gofalwyr, eu teuluoedd a’u ffrindiau, y ffordd maen nhw’n cael eu cefnogi a’r cyfleoedd maen nhw’n eu cael i flodeuo. 

“Rydw i am i awdurdodau lleol ddefnyddio’r wybodaeth yn ddoeth er mwyn dylanwadu ar y ffordd mae gwasanaethau’n cael eu datblygu a’u darparu i ddiwallu anghenion a disgwyliadau plant a phobl ifanc.”

“Dyma fy neges i blant sy’n derbyn gofal yng Nghymru – byddwn ni’n gwrando arnoch chi, a byddwn ni’n gweithredu i sicrhau bod sylw yn cael ei roi i’ch pryderon chi.”


Dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:  

“Mae siarad â phlant a phobl ifanc wyneb yn  wyneb yn hynod bwysig. Ond mae arolwg yn gwneud rhywbeth gwahanol. Mae arolwg yn rhoi cyfle iddyn nhw roi eu barn yn onest am eu profiadau, a hynny’n ddienw. Mae’n gyfle i’r rheini sy’n gyfrifol am eu gofal dynnu sylw at feysydd y gallai fod angen iddyn nhw weithio arnyn nhw i wella profiadau.

“Roedd y cwestiynau yn yr arolwg hwn yn canolbwyntio ar hawliau a llesiant plant, a dyma’r tro cyntaf i arolwg o’r fath gael ei gynnal yng Nghymru. Roeddwn i’n eiriolwr dros gynnal yr arolwg hwn yng Nghymru er mwyn sicrhau bod enghreifftiau disglair o ymarfer yn cael sylw, a’n bod yn ymfalchïo ynddyn nhw. Mae’n gyfle hefyd i glywed am bryderon plant sydd wedi cael profiad o dderbyn gofal yma yng Nghymru, ac yn bwysicach oll, i ymateb i’r pryderon hynny.  

“Rydw i’n edrych ymlaen at weld y newidiadau a’r camau pendant a fydd yn deillio o’r gwaith pwysig hwn. Bydd hyn yn adlewyrchu beth y gall pob awdurdod lleol fel rhiant corfforaethol ddatblygu ar gyfer y plant sy’n derbyn gofal y maen nhw’n gyfrifol amdanyn nhw.”


Dywedodd Brigid Robinson, Rheolwr Gyfarwyddwr Coram Voice: 

“Rydyn ni’n falch o weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru fel bod barn a phrofiadau mwy o blant sydd mewn gofal yn gallu cael eu clywed, ac mae ei hymrwymiad i weithredu ar y canfyddiadau hyn yn hynod galonogol. 

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd mwy o awdurdodau lleol yn cymryd rhan yn y rhaglen. Bydd hyn yn ein galluogi i lunio darlun ehangach o sut mae plant a phobl ifanc yn teimlo am eu gofal, mynd i’r afael ag unrhyw amrywiaethau yn y gefnogaeth sy’n cael ei rhoi, ac yn bwysicach oll, gweithredu ar yr hyn maen nhw’n ei ddweud wrthym ni.”


Dywedodd yr Athro Julie Selwyn CBE, Cyfarwyddwr Canolfan ar gyfer Astudiaethau Mabwysiadu a Gofal Maeth Prifysgol Bryste, sy’n un o awduron yr adroddiad:

“Rydw i wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw farn dros 600 o blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal yng Nghymru am y ffordd maen nhw’n teimlo am eu bywydau.  

“Roedd y rhan fwyaf o blant yn teimlo bod eu bywydau yn gwella. Roedden nhw’n teimlo’n ddiogel yn eu lleoliadau ac yn ymddiried yn eu gofalwyr. Ond roedd gan tua un o bob chwe pherson ifanc (11-18 oed) bryderon ynghylch lefelau llesiant isel. Roedd lefelau llesiant ymhlith merched ddwywaith mor debygol o fod yn isel ag yr oedden nhw mewn bechgyn, ac roedd hyn yn wir hefyd yn achos y rheini a oedd wedi cael profiad o newid lleoliad yn aml. Roedd gan blant â chanddyn nhw oedolyn maen nhw’n ymddiried ynddo yn eu bywyd un ffrind da o leiaf. Roedd y plant hyn hefyd yn deall pam roedden nhw’n derbyn gofal ac yn hoffi’r ffordd maen nhw’n edrych, ac roedd eu lefelau llesiant yn fwy tebygol o fod yn dda.

“Rydyn ni’n falch bod yr awdurdodau lleol a gymerodd ran yn yr astudiaeth wedi dechrau gwneud newidiadau’n barod mewn ymateb i’r canfyddiadau.”