Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o’r arolwg

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu IFF Research i gynnal Arolwg Masnach Cymru am y bumed flwyddyn. Nod yr arolwg hwn yw parhau i wella ein dealltwriaeth o’r llifoedd masnach sy’n dod i mewn ac yn mynd allan o weithrediadau busnes yng Nghymru sydd, yn eu tro, yn ein helpu i wella ymyraethau cymorth busnes sy’n ymwneud â masnach.

Yn rhan o’r ymchwil hwn, bydd IFF Research yn casglu gwybodaeth drwy arolwg ar-lein o fusnesau. Gallai unrhyw ddata a roddir yn yr arolwg erbyn y dyddiad cau gael ei ddefnyddio ar gyfer ei ddadansoddi hyd yn oed os na allwch gwblhau pob cwestiwn yn yr arolwg. Os hoffech dynnu eich data cyn y dyddiad cau, cysylltwch ag IFF_ArolwgMasnachCymru@IFFResearch.com.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolwr data ar gyfer yr ymchwil. Bydd Llywodraeth Cymru’n derbyn copi o’r data y mae IFF Research yn ei gasglu.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei gynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru, a bydd data dienw yn cael ei rannu hefyd gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhan o brosiect cysylltiedig sy’n amcangyfrif masnach o fewn y DU. Gallai’r atebion i’r arolwg gael eu cysylltu’n ddienw i’r ffynonellau data eraill ar gyfer prosiectau ymchwil sy’n cael eu gwneud gan ymchwilwyr wedi’u hachredu, fel academyddion. Gall data Arolwg Masnach Cymru fod ar gael drwy wasanaeth Data y DU. Ni fydd unrhyw wybodaeth sy’n caniatáu i fusnesau unigol gael eu hadnabod yn dod yn wybodaeth gyhoeddus a dydyn ni byth yn rhannu neu ddefnyddio eich gwybodaeh at ddibenion masnachol neu farchnata.  

Mae eich cyfranogaeth yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Ond, mae eich sylwadau a’ch profiadau chi’n bwysig am eu bod yn helpu i hysbysu polisïau Llywodraeth Cymru.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn IFF Research yw:

Sarah Howell
E-bost: sarah.howell@iffresearch.com
Rhif ffôn: 020 7250 3035

Pa ddata personol ydym ni’n ei ddal ac o ble gawn ni’r wybodaeth hon?

Mae Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU (GDPR y DU) yn diffinio data personol fel hyn: ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr’.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi eich enw cwmni a manylion cysylltu’r cwmni i IFF Research, ac mae’r manylion hyn yn deillio o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae IFF wedi ysgrifennu atoch, gan ddefnyddio’r manylion hyn, gyda chyfarwyddiadau i esbonio sut i gwblhau’r arolwg ar-lein (sy’n cynnwys cod unigryw ar gyfer eich cwmni).

Ni fydd cwblhau’r arolwg yn cynnwys cofnodi eich cyfeiriad e-bost neu IP ac felly bydd yr arolwg yn ddienw. Ond, hoffem allu cysylltu â chi eto am y rhesymau a ganlyn:

  • Hoffai IFF allu ail gysylltu os oes unrhyw ymholiadau ynghylch eich ymatebion i'r arolwg. Bydd hyn yn sicrhau bod y dadansoddiad mor gadarn ag sy’n bosibl.
  • Efallai y bydd Llywodraeth Cymru eisiau ail gysylltu â chi rywbryd yn ddiweddarach i'ch gwahodd i gymryd rhan mewn ymchwil am fasnach yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â gwybodaeth a roddwyd yn Arolwg Masnach Cymru. Os cytunwch y cawn ailgysylltu â chi at y diben hwnnw, ac rydych wedyn yn cael eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymchwil yn y dyfodol, gallwch wrthod cymryd rhan ar yr adeg honno.

Os hoffech gytuno i un o’r uchod, neu i’r ddau, yna mae’r arolwg yn rhoi’r cyfle i chi nodi eich manylion cysylltu yn ogystal â chadarnhau i ba bwrpas(au) yr ydych yn fodlon i ni ailgysylltu â chi.

Er nad yw’n ddata personol, bydd unrhyw wybodaeth fasnachol a ddarparwch yn cael ei chadw’n gyfrinachol ac yn cael ei defnyddio at ddibenion ystadegol ac ymchwilio yn unig. Ni fydd unrhyw wybodaeth sy’n caniatáu i fusnesau unigol gael eu hadnabod yn cael ei gwneud yn gyhoeddus.

Mae eich cyfranogaeth yn wirfoddol ac os nad ydych eisiau cymryd rhan neu dderbyn negeseuon atgoffa yna anfonwch e-bost i AMC@iffresearch.com a byddwn yn tynnu eich manylion allan.

Os byddwch yn gofyn cwestiwn neu’n gwneud cwyn ac yn darparu data personol wrth ofyn am ateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig neu’n cysylltu ag IFF Research ac yn dileu’r data personol wedi hynny.

Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i wneud swyddogaethau a rôl graidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn beth hollol wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru allu casglu gwybodaeth a thystiolaeth y gall weithredu arni am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Gallai’r wybodaeth a gasglwn yn yr ymchwil hwn, er enghraifft, gael ei defnyddio i:

  • adnabod ac ateb anghenion cymorth busnesau
  • gefnogi cynhyrchedd a gallu cystadleuol busnesau yng Nghymru
  • gryfhau’r ddadl am y pethau sydd bwysicaf i Gymru wrth drafod cytundebau masnach y dyfodol
  • sicrhau gwell dealltwriaeth gyhoeddus o economi Cymru drwy helpu i wella ystadegau economaidd newydd a chreu rhai newydd

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a data ymchwil sy’n cael ei ddarparu i IFF Research yn cael ei storio bob amser ar weinydd diogel sydd wedi ei seilio yn y DU. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy’n gweithio ar y prosiect hwn all gyrchu’r data. Bydd IFF Research yn defnyddio’r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig. Mae gan IFF ardystiad Cyber Essentials ac mae ganddi hefyd achrediad ISO/IEC 27001:2022 (y safon ryngwladol ar gyfer diogelwch gwybodaeth).

Wrth wneud arolygon, mae IFF Research yn defnyddio rhaglen meddalwedd arolwg o’r new Merlin. Rydym wedi sicrhau bod Merlin yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn ateb ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r meddalwedd.

Mae gan IFF Research weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw achosion a ddrwgdybir o dorri diogelwch data. Os drwgdybir bod achosion o’r fath wedi digwydd, rhoddir gwybod i Lywodraeth Cymru a bydden nhw’n rhoi gwybod i chi ac i unrhyw reolydd perthnasol lle mae gofyniad cyfreithiol iddynt wneud hynny.

Mae unrhyw ddata personol a roddir i Lywodraeth Cymru’n cael ei ddal ar weinyddion diogel ac, ar gyfer y prosiect hwn, mae ffolder wedi ei greu sy’n caniatáu mynediad dim ond i’r tîm ymchwil uniongyrchol. Bydd y data personol a ddarparwch yn cael ei storio yn y ffolder mynediad cyfyngedig hwn. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio.

Bydd Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu dadansoddiadau a fydd yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr neu fusnesau unigol.

Pan fydd Llywodraeth Cymru’n gwneud ymchwil dilynol i gefnogi’r dibenion sydd wedi eu hamlinellu uchod, gallai’r gwaith hwn gael ei wneud gan drydydd parti wedi’i achredu (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghoriaeth). Bydd unrhyw waith o’r fath ond yn cael ei wneud o dan gontract. Mae amodau a thelerau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi’r gofynion llym ar gyfer prosesu a diogelu data personol.

Am faint ydym ni’n cadw eich data personol?

Bydd IFF Research yn dal data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd yr holl enwau a manylion cyswllt yn cael eu dileu o gofnodion IFF Research dri mis ar ôl dyddiad diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cysylltu.

Ym mlwyddyn 5 Arolwg Masnach Cymru, bydd IFF Research yn darparu cyfres ddata derfynol i Lywodraeth Cymru ei chymeradwyo a’i llofnodi’n derfynol erbyn Mawrth 2024, yn cynnwys unrhyw fanylion ailgysylltu a ddarparwyd yn ystod yr arolwg. Bydd Llywodraeth Cymru’n tynnu unrhyw wybodaeth ailgysylltu allan o fewn dwy flynedd ar ôl llofnodi’r gyfres ddata. Ni fydd unrhyw wybodaeth sy’n caniatáu i fusnesau unigol gael eu hadnabod yn dod yn wybodaeth gyhoeddus.

Hawliau unigol

O dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU (GDPR y DU), mae gennych yr hawliau a ganlyn mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarparwch yn rhan o’r prosiect hwn fel ymatebwr i Arolwg Masnach Cymru:

  • cyrchu copi o’ch data eich hun
  • gofyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar y prosesu (dan amgylchiadau penodol)
  • gofyn i’ch data gael ei ‘ddileu’ (dan amgylchiadau penodol)
  • gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheolydd annibynnol dros ddiogelu data.

Dyma’r manylion cysylltu ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y ffordd y bydd y data a rowch yn rhan o’r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os ydych eisiau arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU, cysylltwch â:

Cerys Ponting
E-bost: ystadegau.masnach@llyw.cymru

Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru ar:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru