Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n cynnwys canllawiau i'ch helpu i gwblhau eich ymateb ac yn esbonio Arolwg Masnach Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ynglŷn â'r arolwg

1. Beth yw Arolwg Masnach Cymru?

Mae Arolwg Masnach Cymru’n arolwg sy’n cael ei gynnal gan IFF Research ar ran Llywodraeth Cymru ac mae yn ei bumed flwyddyn erbyn hyn ac yn casglu data 2022. Ei nod yw gwella’r ddealltwriaeth o’r llifoedd masnach i mewn ac allan o fusnesau sydd wedi eu lleoli yng Nghymru, yn cynnwys nwyddau a gwasanaethau sy’n symud o fewn y DU yn ogystal ag yn rhyngwladol. Trwy gymryd rhan, rydych yn helpu Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddeall masnach yng Nghymru yn well a bydd hyn, yn ei dro, yn gwella ei gymorth busnes ac ymyriadau eraill sy’n ymwneud â masnach.

2. Pam mae fy nata i’n bwysig? 

Bydd canlyniadau Arolwg Masnach Cymru’n cael eu dadansoddi er mwyn galluogi i Lywodraeth Cymru ddod i ddeall yn well beth yw maint y fasnach sy’n dod i mewn ac yn mynd allan o Gymru. Er bod ffynonellau eraill o ddata masnach, mae canlyniadau'r rhain yn cael eu cyfanredu i gategorïau eang, ac mae llawer o ddata’n cael ei ddosrannu ar sail y nifer o weithwyr cyflogedig y sefydliadau sydd yng Nghymru, felly nid yw’n sicr ei bod yn adlewyrchiad cywir o weithgareddau’r busnesau. Mae eich cyfranogaeth chi’n allweddol: bydd pob busnes sy’n cymryd rhan yn helpu i adeiladu darlun mwy cywir o fasnach yng Nghymru, a bydd hyn yn ei dro yn helpu i hysbysu’r penderfyniadau sy’n effeithio ar agweddau allweddol o’ch busnes, diwydiant ac economi Cymru.

Defnyddir y wybodaeth a gesglir i helpu i ddatblygu model o’r economi busnes yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu i hysbysu safleoedd polisi a phenderfynu sut y mae gwasanaethau busnesau a chymorth arall yn cael eu darparu. Mae’r arolygon blaenorol wedi casglu data masnach penodol i Gymru ar gyfer 2017 – 2021; bydd y data a ddarparwch yn 2022, sef pumed flwyddyn yr arolwg, yn helpu i wella amcangyfrifon y blynyddoedd blaenorol ac yn rhoi gwybod i ni sut mae’r darlun wedi newid. Bydd hyn yn caniatáu i ni, er enghraifft, wneud gwell asesiad o effaith dymor hir COVID-19 a’r Ymadawiad â’r UE. Bydd y wybodaeth a ddarparwch yn bwysicach nag erioed.

Cwblhau eich arolwg

3. Ydw i’n cael rhoi amcangyfrifon?

Ydych. Byddai ffigur union gywir yn well, ond os na allwch ddarparu hyn o’ch system gyfrifo, gallwch gyflwyno amcangyfrif gwybodus.

4. Data o ba flwyddyn ddylwn i ei ddarparu?

Bydd yr arolwg yn gofyn am ddata 2022. Byddai’n well gennym gael data gennych ar gyfer y flwyddyn galendr (1 Ionawr i 31 Rhagfyr 2022). Os yw’n anodd i chi ganfod yr wybodaeth hon, rhowch ddata ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23 os gwelwch yn dda

5. Rwy’n cael problemau technegol gyda’r arolwg, gyda phwy ddylwn i gysylltu?

Os byddwch yn cael unrhyw broblemau technegol wrth fynd i mewn i’r arolwg neu ei gwblhau, cysylltwch â Thîm Cymorth Arolwg Masnach Cymru yn IFF Research ar:

Rhif ffôn: 0300 0259 000
E-bost: amc@iffresearch.com

Mae’r cysylltiadau hyn ar gael o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 9yb i 5yp.

6. Beth sy’n digwydd os nad oes gen i ddata i’w adrodd?

Hyd yn oed os nad oedd eich busnes wedi gwneud unrhyw werthiannau neu bryniannau rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2022, cliciwch ar ddolen yr arolwg beth bynnag a nodwch y wybodaeth hon os gwelwch yn dda. Mae nodi sero dilys ar gyfer gwerthiannau a/neu bryniannau yr un mor ddilys ag unrhyw ffigur arall am ein bod yn mesur tueddiadau busnes.

7. Nid wyf wedi fy lleoli yng Nghymru yn bennaf, a allaf i gwblhau'r arolwg?

Gallwch. Cyn belled â bod gennych weithrediadau sydd wedi’u seilio yng Nghymru, rydym am glywed gennych. Mae eich busnes yn dal yn gymwys ar gyfer yr arolwg os yw eich pencadlys y tu allan i Gymru.

8. Mae fy musnes yn nwylo’r gweinyddwyr/derbynnydd, a fydda i’n dal i allu cwblhau’r holiadur?

Byddwch. Mae busnesau sydd yn nwylo’r gweinyddwyr/derbynnydd yn dal i allu masnachu. Os nad ydych yn gallu cyflenwi’r wybodaeth byddai’n ddefnyddiol pe gallech roi gwybod i ni beth yw enw a chyfeiriad y Gweinyddwr/Derbynnydd.

Detholiad ar gyfer yr Arolwg Masnach i Gymru

9. Sut cafodd fy musnes i ei ddewis?

Cafodd eich busnes chi ei ddewis o gyfeiriadur busnes y DU (y Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau – IDBR) sy’n deillio o ffynonellau gweinyddol gan gynnwys cofrestriadau Treth ar Werth (TAW) a Thalu wrth Ennill (TWE) wedi’u diweddaru gan ddata a gasglwyd o arolygon busnes y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Mae’r detholiad yn dibynnu ar nifer o wahanol ffactorau, yn cynnwys nifer y bobl yr ydych yn eu cyflogi, sawl busnes arall sy’n gweithredu yn eich diwydiant chi a maint y busnesau hynny

Gwybodaeth gyffredinol am yr arolwg

10. Pam ydw i wedi derbyn llythyr atgoffa a minnau wedi cwblhau’r arolwg yn barod?

Mae’n debygol eich bod wedi cwblhau’r arolwg ar ôl i’r llythyr atgoffa adael ein hadran bostio. Os ydych wedi cwblhau’r arolwg ar-lein, hoffem ymddiheuro i chi a gofynnwn i chi anwybyddu’r wybodaeth yn y llythyr atgoffa a gawsoch.

11. Beth yw strwythur Arolwg Masnach Cymru 2022?

Mae arolwg 2022 yn dilyn llwybr gweddol debyg i arolwg 2021 ac mae’n gofyn i fusnesau dim ond am eu gweithgareddau masnach ar gyfer un flwyddyn galendr (o 1 Ionawr hyd 31 Rhagfyr 2022). Gwelwch y Canllaw Cam wrth Gam, sydd ynghlwm i’r llythyr gwahodd, i gael rhagor o fanylion.

12. Faint o amser mae’n ei gymryd i gwblhau’r holiadur?

I’r mwyafrif o ymatebwyr, dylai’r arolwg gymryd llai na 25 munud i’w gwblhau. Ond, bydd yr amser y mae’n ei gymryd i gwblhau’r arolwg yn amrywio yn dibynnu ar:

  • y nifer o gynhyrchion a werthwch yn y DU
  • y rhanbarthau y bu eich gweithrediadau yng Nghymru’n allforio iddynt ac yn mewnforio ohonynt yn 2022
  • pa mor hawdd yw hi i chi gael gafael ar wybodaeth am werthiannau a phryniannau’r busnes yn ystod yr arolwg. Byddwch yn ei gwblhau’n gyflymach os oes gennych yr holl wybodaeth wrth law

Fel y llynedd, bydd arolwg eleni’n gofyn i fusnesau am eu gweithgareddau masnach ar gyfer un flwyddyn galendr yn unig (o 1 Ionawr hyd 31 Rhagfyr 2022).

Ymholiadau’n ymwneud â data

13. Sut mae’r data’n cael ei ddefnyddio?

Bydd y wybodaeth a ddarparwch yn cael ei defnyddio gan ddadansoddwyr Llywodraeth Cymru at ddibenion ystadegol ac ymchwil yn unig. Gallai unrhyw ddata a roddir yn yr arolwg erbyn y dyddiad cau gael ei ddefnyddio ar gyfer dadansoddiad hyd yn oed os na allwch ateb bob cwestiwn yn yr arolwg. Os hoffech dynnu eich data cyn y dyddiad cau, cysylltwch ag IFF ar amc@iffresearch.com. Bydd data o’r arolwg yn cael ei ddadansoddi i gynhyrchu amcangyfrifon o fasnach yng Nghymru, yn cynnwys masnach busnesau Cymru, o fewn y DU a gyda gweddill y byd.

Ni fydd unrhyw wybodaeth sy'n galluogi i fusnesau unigol gael eu hadnabod yn cael ei ddarparu i'r cyhoedd.  Caiff yr amcangyfrifon eu cyhoeddi ar Arolwg Masnach Cymru.

Efallai y bydd data dienw o’r arolwg yn cael ei ddarparu drwy Wasanaeth Data’r DU fel cyfres ddata gyfyngedig. Mae data dienw’r arolwg hwn yn cael ei ddal yn ddiogel ac ni fydd yn cael ei ddefnyddio i unrhyw bwrpas heblaw at ddibenion ymchwilio anfasnachol (er enghraifft gan ymchwilwyr wedi’u hachredu megis academyddion) unwaith mae’r Pwyllgor Mynediad at Ddata perthnasol wedi cymeradwyo eu defnydd o’r data. Mae modd cysylltu data wedi’i storio yn y ffordd hon gyda chyfresi data perthnasol eraill yn y dyfodol fel bod modd gostwng y nifer o gwestiynau a ofynnir yn yr arolwg. Nid ydym yn rhannu neu’n defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion masnachol neu farchnata.

Gallai ymchwilwyr achrededig, megis academyddion, a chyrff sector cyhoeddus eraill yng Nghymru, ofyn am fynediad at y data hefyd. Creffir ar y ceisiadau hyn gan Brif Ystadegydd Llywodraeth Cymru ac – os cânt eu cymeradwyo – cânt eu llywodraethu gan Gytundebau Mynediad at Ddata a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cytundebau ffurfiol hyn yn nodi gofynion tynn ar gyfer prosesu data personol a’i gadw’n ddiogel.

Pan fydd Llywodraeth Cymru’n gwneud gwaith ymchwil dilynol sy’n gysylltiedig ag unrhyw ymatebion a roddir yn Arolwg Masnach Cymru, gallai’r gwaith hwn gael ei wneud gan drydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y gwneir unrhyw waith o’r fath. Mae amodau a thelerau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion tynn ar gyfer prosesu data personol a’i gadw’n ddiogel.

14. Pwy yw IFF Research a sut allaf i gadarnhau bod hwn yn arolwg dilys gan Lywodraeth Cymru?

Mae IFF Research yn gwmni ymchwil i’r farchnad annibynnol sydd wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i weithredu Arolwg Masnach Cymru ar eu rhan. I gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg, ewch i Arolwg Masnach Cymru.

Mae IFF Research yn gweithredu o dan ganllawiau tynn Cod Ymarfer y Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad. Gallwch ddarllen rhagor ar y wefan IFF Research.

Os hoffech gadarnhau bod gan IFF Research yr awdurdod i gynnal yr arolwg hwn, cysylltwch â Dadansoddwyr Masnach Llywodraeth Cymru ar:

Neu gallwch gysylltu â thîm cymorth Arolwg Masnach Cymru yn IFF Research ar:

Mae’r cysylltiadau hyn ar gael o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 9yb i 5yp.

15. A gaf i roi adborth i Lywodraeth Cymru am gynllun eu holiaduron?

Cewch. Rydym yn gwerthfawrogi’r amser a neilltuwch i gwblhau ein holiaduron. Os oes unrhyw beth yr ydych yn ei gael yn anodd neu’n ddryslyd, hoffem wybod er mwyn ein helpu i wella yn y dyfodol. Mae adran ar ddiwedd yr holiadur ar-lein lle gallwch roi eich sylwadau i ni, neu anfonwch e-bost at dîm Dadansoddwyr Masnach Llywodraeth Cymru ar ystadegau.masnach@llyw.cymru gyda’ch sylwadau.

16. Sut gafodd IFF Research fy manylion personol?

Darparodd Llywodraeth Cymru eich manylion personol i IFF Research drwy blatfform trosglwyddo diogel. Bydd eich data’n cael ei drin yn gwbl gyfrinachol yn unol â darpariaethau adran 39 Deddf Ystadegau a Gwasanaethau Cofrestru 2007 a’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Mae’n drosedd i Lywodraeth Cymru neu drydydd parti ddatgelu unrhyw fanylion yn ymwneud â busnes neu unigolyn. 

17. A fydd fy nata’n cael ei gadw’n gyfrinachol?

Bydd. Bydd eich data’n cael ei drin fel data masnachol gyfrinachol yn unol â darpariaethau adran 39 Deddf Ystadegau a Gwasanaethau Cofrestru 2007 a’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Mae’n drosedd i Lywodraeth Cymru ddatgelu unrhyw fanylion yn ymwneud â busnes neu unigolyn. Ni fydd modd adnabod eich data busnes mewn unrhyw ystadegau a gyhoeddir.