Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw’r ystadegau hyn?

Mae Arolwg Masnach Cymru (TSW) yn darparu ystadegau arbrofol am y fasnach sy’n cael ei chynnal gan fusnesau yng Nghymru. Mae’n casglu data sy’n ymwneud â’r fasnach flynyddol mae Cymru’n ei pherfformio gyda rhannau eraill o’r DU, yr UE a gweddill y byd (ROW).

Mae canlyniadau'r arolwg yn ‘Ystadegau Arbrofol’, gan fod y dull a ddefnyddiwyd yn dal i gael ei ddatblygu ac mae rhai problemau gydag ansawdd y data. Asesir pa mor anwadal yw amcangyfrifon, ac archwilir ffyrdd o wella eu hansawdd ymhellach. Serch hynny, mae’r data a’r dadansoddiad yn dal yn werthfawr, ar yr amod bod defnyddwyr yn eu hystyried yng nghyd-destun yr wybodaeth a roddir am ansawdd y data.

Mae ystadegau arbrofol yn cael eu cyhoeddi gyda golwg ar wella eu hansawdd dros amser drwy adborth gan ddefnyddwyr a rhanddeiliaid. Bydd amcangyfrifon TSW yn parhau i fod yn arbrofol tra bydd y gwaith datblygu’n parhau i wella eu darpariaeth a’u hansawdd.

Mae’r cyfyngiadau sydd wedi arwain at bennu’r ystadegau hyn yn arbrofol wedi’u rhestru yn yr adran Cryfderau a chyfyngiadau.

Mae canlyniadau manwl o bob blwyddyn o’r arolwg ar gael yn y datganiadau blynyddol, ynghyd ag adran cymharedd a chydlyniaeth sy’n cymharu’r canlyniadau â’r amcangyfrifon cyfatebol o fasnach Cymru a gynhyrchir gan Gyllid a Thollau EM (CThEM) a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).

Y cyd-destun polisi

Fe wnaeth Polisi Masnach: Materion Cymru (2018) alw am dystiolaeth well i fod yn sail i benderfyniadau polisi masnach, a thynnodd sylw at fylchau yn nata masnach Cymru yn ogystal â materion methodolegol posibl a nodwyd gyda ffynonellau data presennol. Nid oedd data cyfredol ar fasnach o fewn y DU o Gymru, a data cyfyngedig ar gael yn ôl nodweddion busnes (fel maint a sector). Roedd llawer o ddata presennol Cymru am fasnach ryngwladol mewn nwyddau’n amcangyfrifon wedi’u modelu, yn seiliedig ar niferoedd mewn cyflogaeth wedi’u dosrannu gan y DU yn hytrach na chasgliadau o ddata uniongyrchol. Roedd hyn yn golygu efallai nad oedd y data ar gyfer Cymru ar y pryd wedi adlewyrchu marchnadoedd allforio penodol unedau busnes Cymru yn gywir.

CThEM sy’n gweinyddu’r ystadegau masnach presennol ar symudiad nwyddau, wedi’u cyrchu o gofnodion mewnforio ac allforio tollau ar gyfer masnach â gwledydd y tu allan i’r UE ac fel arall o’r system Intrastat ar gyfer yr UE. Nid yw data CThEM yn cynnwys masnachu mewn gwasanaethau. Mae’r SYG yn gweinyddu Arolwg Blynyddol o Fasnach Ryngwladol mewn Gwasanaethau (ITIS) sy’n cynhyrchu ystadegau arbrofol ar lefel Cymru.

O ystyried cyfyngiadau’r data presennol, cafodd TSW ei beilota yn 2019 gyda’r nod o gasglu gwybodaeth gadarn yn uniongyrchol gan fusnesau am lifoedd masnach yn ôl ac ymlaen o Gymru.

Mae’r ystadegau a gynhyrchwyd gan TSW wedi rhoi gwell tystiolaeth i lunwyr polisïau Llywodraeth Cymru er mwyn goleuo Gweinidogion a seilio eu penderfyniadau arnynt. Mae’r ffigurau masnach o fewn y DU wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol o ran deall marchnad fewnol y DU. Mae Cynllun Gweithredu Allforio Llywodraeth Cymru hefyd yn defnyddio Arolwg Masnach Cymru fel rhan o’i sylfaen dystiolaeth. Mae’r arolwg hefyd yn rhoi’r gallu i Lywodraeth Cymru gynnal gwaith ymchwil dilynol gyda’r ymatebwyr sy’n cytuno i ailgysylltu, gan roi rhagor o wybodaeth am y prif gwestiynau polisi y tynnir sylw atynt yn y canlyniadau.

Cryfderau a chyfyngiadau

Cryfderau

  • TSW yw’r unig gasgliad uniongyrchol o ddata masnach sy’n benodol i weithrediadau busnes yng Nghymru. Mae busnesau yn adrodd yn uniongyrchol ar weithgarwch eu lleoliadau yng Nghymru. Mae hyn yn cyferbynnu ag ystadegau rhanbarthol presennol sy’n casglu ymatebion ar lefel y DU, y mae canlyniadau lefel Cymru wedi’u modelu arnynt.
  • TSW yw’r unig arolwg masnach sy’n casglu data masnach o fewn y DU, wedi’i ddadansoddi yn ôl holl wledydd y DU, gan fusnesau yng Nghymru.
  • Canlyniadau TSW yw’r unig ffynhonnell o fasnach yn y DU a gynhelir gan fusnesau yng Nghymru.
  • Mae’r canlyniadau’n cael eu dadansoddi yn ôl maint y busnes.
  • Mae’r canlyniadau’n cael eu dadansoddi yn ôl dosbarthiadau DDS.
  • Cesglir masnach nwyddau a gwasanaethau’n gyson.
  • Mae’r fethodoleg yn caniatáu amcangyfrifon o gyfanswm y fasnach (nwyddau a gwasanaethau) y mae busnesau yng Nghymru yn ei gwneud gyda phob rhan o’r DU, yr Undeb Ewropeaidd (UE) a ROW.

Cyfyngiadau                

  • Fel arolwg gwirfoddol ac ar-lein, mae cyfraddau ymateb isel, sy’n effeithio ar y gallu i gynhyrchu dadansoddiadau mwy manwl.
  • Mae amrywioldeb yn y sampl a gafwyd ar draws y blynyddoedd yn effeithio ar y gallu i wneud cymariaethau cadarn rhwng y blynyddoedd. Mae’r adroddiad canlyniadau’n cyflwyno cymariaethau lefel uchel rhwng blynyddoedd. Mae dadansoddiadau sy’n fanylach wedi dangos mwy o amrywioldeb, trafodir cymariaethau penodol yn adrannau cymharedd a chydlyniaeth yr adroddiadau canlyniadau.
  • Mae darpariaeth anghyflawn o safbwynt busnesau, sectorau a masnach gyfan Cymru yn golygu nad yw’r amcangyfrifon yn cynnwys yr holl weithgarwch masnachu yng Nghymru ac ni ddylid eu defnyddio i gyfrifo balans masnach, na’u cymharu â chyfanswm y GVA/GDP. Er enghraifft, dim ond eitemau sy’n cael eu prynu gan fusnesau sy’n cael eu cynnwys, ac mae eitemau sy’n cael eu prynu’n uniongyrchol gan ddefnyddwyr ar goll. Mae hyn yn golygu nad yw gwariant defnyddwyr Cymru dramor (e.e. mewnforion twristiaeth) a gwariant defnyddwyr mewn rhannau eraill o’r DU wedi cael eu cofnodi, tra bod gwariant twristiaid sy’n prynu gan fusnesau yng Nghymru yn cael ei gofnodi.
  • Darparodd rhai ymatebwyr amcangyfrif o werthoedd yn eu hymatebion, felly bydd gan y gwerthoedd a ddarperir lefelau gwahanol o ddibynadwyedd.
  • Mae adborth yn awgrymu bod rhai busnesau wedi ei chael yn anodd dyrannu gwerthiant i gwsmeriaid mewn rhannau eraill o’r DU.
  • Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddyrannu masnach ar sail eu partner uniongyrchol yn y gadwyn gyflenwi, nid y ffynhonnell wreiddiol na’r gyrchfan derfynol ar gyfer prynu neu werthu. Felly, gall symud nwyddau drwy gadwyni cyflenwi yn y DU guddio tarddiad rhyngwladol neu gyrchfan derfynol yng nghanlyniadau TSW, a allai fod yn arbennig o arwyddocaol i’r sector manwerthu sy’n defnyddio canolbwyntiau dosbarthu yn y DU.
  • Yn y dadansoddiad, mae nifer o achosion lle tynnir sylw at ddata gwerthu neu brynu ‘heb ei ddyrannu’, lle nad oedd yr ymatebydd yn gallu dyrannu i gyrchfan benodol. Efallai fod hyn wedi arwain at danamcangyfrif y ffigurau cyffredinol.

Methodoleg yr arolwg

Arolwg sampl gwirfoddol o fusnesau yw TSW. Mae’r sampl wedi’i dewis o Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau y Swyddfa Ystadegau Gwladol (IDBR).

Mae ffrâm y sampl yn cynnwys busnesau yn y DU sydd ag unedau lleol yng Nghymru. Mae samplu haenedig yn digwydd, ac mae dull cyfrifo ar gyfer busnesau mwy sy’n benodol i’r dull a ddefnyddir bob blwyddyn ar gael yn yr adroddiadau technegol, sy’n cyd-fynd â chyhoeddiadau canlyniadau.

Cynhelir yr arolwg gan ddefnyddio dulliau gwthio i'r we. Anfonir llythyr gwahoddiad dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) i ddechrau at fusnesau sampl, yn eu hannog i fynd ar-lein i lenwi TSW.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chontractwr i ddarparu’r arolwg. Mae hyn yn cynnwys cysylltu â’r sampl, gweinyddu’r gwaith o gasglu a dilysu data ar-lein a dadansoddi ymatebion i gynhyrchu amcangyfrifon ar lefel Cymru.

Mae’r arolwg yn gofyn i ymatebwyr ddarparu data ar sail blwyddyn galendr. Casglodd y don gyntaf 2 flynedd o ddata (2017 a 2018) gyda’r tonnau dilynol yn casglu un flwyddyn galendr o ddata.

Rheswm dros y dull a ddewiswyd

Cynhaliwyd profion gwybyddol gyda 32 o fusnesau cyn blwyddyn 1 TSW. Roedd adborth gan fusnesau yn sail i ddatblygu cwestiynau a’r modd casglu a ddefnyddiwyd.

Dewiswyd dull gwthio i'r we fel y dull mwyaf priodol i gyflawni nodau ac amcanion TSW o ystyried maint yr arolwg. Mae gan yr IDBR gofnodion cyflawn o gyfeiriadau busnes, sy’n sicrhau bod sampl TSW yn gyson ag arolygon busnesau eraill. Fodd bynnag, mae’r IDBR yn cynnwys cyfeiriadau e-bost cyfyngedig, felly mae llythyr hysbysu cychwynnol i fusnesau yn eu gwahodd i ymateb i’r holiadur ar-lein yn angenrheidiol.

Mae rhagor o fanylion am brofi gwybyddol a datblygu blwyddyn un TSW ar gael yn TSW 2018: adroddiad technegol.

Perthnasedd

Beth mae’n ei fesur

Mae TSW yn casglu data ar werth blynyddol gwerthiannau a phryniannau a wneir gan unedau busnes yng Nghymru. Mae’r gwerthiannau a’r pryniannau yn cael eu dadansoddi yn ôl math (nwyddau neu wasanaethau) a lleoliad daearyddol y partner masnach. Mae’r cwestiynau’n ymdrin â masnach o fewn y DU a masnach ryngwladol. Mae’r ymatebion i’r arolwg yn caniatáu i ystadegau gael eu cynhyrchu sy’n ymwneud â gwerth masnach i fusnesau yng Nghymru a nifer y busnesau sy’n cynnal y fasnach hon.

Modd

Gwthio i'r we: Mae holiadur yr arolwg yn cael ei lenwi ar-lein, gyda’r sampl yn cael gwahoddiad i gymryd rhan drwy e-bost cychwynnol, gyda rhagor o lythyrau atgoffa a galwadau ffôn.

Amlder

Hyd yma, mae’r arolwg wedi cael ei gynnal yn flynyddol. Cafodd TSW ei lansio ym mis Tachwedd 2019, gan gasglu data blynyddol ar gyfer 2017 a 2018. Mae’r tonnau dilynol yn casglu un flwyddyn galendr o ddata.

Maint y sampl

Dewiswyd 8000 o fusnesau ar gyfer y sampl. Mae’r arolwg yn wirfoddol ac yn y ddwy flynedd gyntaf cafwyd cyfradd ymateb gyffredinol o 14% a 16% yn y drefn honno.

Ffrâm y sampl

Mae’r sampl wedi’i dewis o IDBR yr SYG sy’n rhestru busnesau o gofnodion TAW neu TWE. Mae ffrâm y sampl wedi’i chyfyngu i unedau adrodd sydd ag unedau lleol yng Nghymru.

Mae busnesau sy’n cyflogi llai na 3 yn cael eu heithrio, ynghyd â’r rhestr o sectorau isod. Mae’r adroddiad technegol sy’n cyd-fynd â’r canlyniadau blynyddol yn rhoi rhagor o fanylion ynghylch y sampl ym mhob blwyddyn.

Adrannau DDS[1] wedi'u heithrio

  • O: Gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn; nawdd cymdeithasol gorfodol
  • Q: Gweithgareddau iechyd pobl a gwaith cymdeithasol
  • T: Gweithgareddau aelwydydd fel cyflogwyr; gweithgareddau cynhyrchu nwyddau a gweithgareddau diwahaniaeth gan aelwydydd at eu defnydd eu hunain
  • U: Gweithgareddau cyrff a sefydliadau alldiriogaethol

Dosbarthiad Diwydiannol Safonol y DU o Weithgareddau Economaidd (DDS)

Yn dilyn y rhestr o adrannau DDS uchod, mae nifer o ddosbarthiadau DDS is wedi’u heithrio hefyd:

  • 06 Echdynnu petrolewm crai a nwy naturiol
  • 84 Gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn; nawdd cymdeithasol gorfodol
  • 86 Gweithgareddau iechyd pobl
  • 87 Gweithgareddau gofal preswyl
  • 88 Gweithgareddau gwaith cymdeithasol heb lety
  • 93 Gweithgareddau chwaraeon a gweithgareddau adloniant a hamdden
  • 94 Gweithgareddau sefydliadau sy’n aelodau
  • 96 Gweithgareddau gwasanaeth personol eraill
  • 97 Gweithgareddau aelwydydd fel cyflogwyr gweithwyr domestig
  • 98 Nwyddau a gwasanaethau heb eu gwahaniaethu sy’n cynhyrchu gweithgareddau o aelwydydd preifat at eu defnydd eu hunain
  • 99 Gweithgareddau cyrff a sefydliadau alldiriogaethol
  • 642 Gweithgareddau cwmnïau daliannol
  • 791 Gweithgareddau asiantaeth deithio a gweithredwr teithiau
  • 851 Addysg cyn-cynradd
  • 852 Addysg gynradd
  • 8299 Gweithgareddau gwasanaeth cefnogi busnes eraill n.e.c.
  • 9101 Gweithgareddau llyfrgell ac archifau
  • 03110 Pysgota morol
  • 47799 Gwerthu nwyddau ail-law eraill mewn siopau (heb gynnwys hen bethau)
  • 49320 Cwmnïau tacsi
  • 56290 Gwasanaethau bwyd eraill
  • 56301 Clybiau trwyddedig
  • 64110 Gweithgareddau banc canolog
  • 79901 Gweithgareddau tywyswyr twristiaeth
  • 79909 Gweithgareddau gwasanaeth cadw eraill n.e.c.

Dyluniad y sampl

Mae samplu haenedig yn digwydd ar lefel yr uned adrodd. Adolygir strwythur y sampl bob blwyddyn, wrth i’r gwaith o ddatblygu’r ystadegau arbrofol hyn barhau. Darperir y strata a nifer y cofnodion a ddewisir bob blwyddyn yn yr adroddiadau technegol.

Un o nodau cyffredinol y sampl yw casglu cyfran mor fawr â phosibl o holl economi Cymru (trosiant busnes). Hyd yma, mae’r sampl wedi dewis 8000 o unedau adrodd, gan ganolbwyntio ar fusnesau mwy. Mae’r sampl bob blwyddyn wedi cynnwys pob busnes sydd â chyflogaeth o 20 neu fwy. Dewisir busnesau gyda chyflogaeth 3 i 19 ar hap ar sail strata pellach, gyda’r sampl sy’n cael ei dyrannu mewn adrannau DDS yn seiliedig ar gyfrannau trosiant. Dyrennir cyfran uwch o’r sampl i sectorau sydd â throsiant uwch.

Dadansoddi

Bandiau maint busnes

Drwy gydol y gwaith o brosesu a dadansoddi data TSW, mae busnesau’n cael eu grwpio’n gategorïau yn seiliedig ar werthoedd gweithwyr y DU (maint y busnes). Defnyddir pedwar band maint yn y dadansoddiad. Fodd bynnag, dim ond tri band maint (Bach sy’n cynnwys microfusnesau, Canolig a Mawr) sydd wedi cael eu defnyddio at ddibenion adrodd.

Defnyddir gwerthoedd gweithwyr y DU er mwyn sicrhau bod meintiau seiliau yn ddigon mawr i’w dadansoddi, er mwyn gallu cymharu data CThEM a’r SYG, ac oherwydd tystiolaeth anecdotaidd o brofion gwybyddol, mae’r rhan fwyaf o fusnesau’n gwneud penderfyniadau masnach ar sail eu gweithrediadau cyffredinol yn y DU.

Bandiau maint busnes yn ôl nifer y gweithwyr
Bandiau maint dadansoddi Nifer y gweithwyr yn y DU (IDBR)
Micro 3 i 9
Bach 10 i 49
Canolig 50 i 249
Mawr 250+

Ffynhonnell:  Cofrestr Fusnesau Rhyngadrannol (IDBR) 

Grwpiau sector

Mae’r IDBR yn darparu cod DDS ar gyfer pob busnes yn TSW. Mae’r rhain wedi cael eu grwpio i sicrhau bod meintiau seiliau’n ddigon mawr i’w dadansoddi. 

Grwpiau ac adrannau safonol chwe sector
Busnes a gwasanaethau eraill

Adran DDS:

  • Gwybodaeth a chyfathrebu
  • Gweithgareddau ariannol ac yswiriant
  • Gweithgareddau eiddo tirol
  • Gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol
  • Gweithgareddau gweinyddol a gwasanaethau cymorth
  • Y celfyddydau, adloniant a hamdden
  • Gweithgareddau gwasanaeth eraill
Adeiladu

Adran DDS:

  • Adeiladu
Gweithgynhyrchu

Adran DDS:

  • Gweithgynhyrchu
Y sector primaidd a chyfleustodau

Adran DDS:

  • Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
  • Mwyngloddio a chwarelyddiaeth
  • Trydan, nwy, stêm a’r cyflenwad aerdymheru
  • Cyflenwad dŵr, carthffosiaeth, rheoli gwastraff a gweithgareddau adfer
Masnach, llety a thrafnidiaeth
  • Masnach adwerthu a chyfanwerthu; atgyweirio cerbydau modur a beiciau modur
  • Cludo a storio
  • Gweithgareddau llety a gwasanaethau bwyd
Gwasanaethau nad ydynt ar gyfer y farchnad
  • Addysg
  • Gweithgareddau iechyd pobl a gwaith cymdeithasol (wedi’u heithrio)
  • Gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn; nawdd cymdeithasol gorfodol (wedi’u heithrio)

Mae gwasanaethau nad ydynt ar gyfer y farchnad yn cael eu cyfuno â busnes a gwasanaethau eraill oherwydd maint seiliau isel, sy’n golygu bod y pum categori canlynol yn cael eu defnyddio drwy gydol y gwaith o brosesu a dadansoddi data TSW.

  1. Busnes a gwasanaethau eraill
  2. Adeiladu
  3. Gweithgynhyrchu
  4. Y sector primaidd a chyfleustodau
  5. Masnach, llety a thrafnidiaeth

Pwysoliad

Mae’r data ymateb o’r arolwg yn cael ei bwysoli a’i grosio i gynhyrchu amcangyfrifon ar lefel Cymru. Defnyddir trosiant a phwysoliad uned i gynhyrchu amcangyfrifon o werth y fasnach a nifer y busnesau sy’n masnachu.

Mae pwysoliad canlyniadau yn ystyried tebygolrwydd dethol anghyfartal busnesau ac effaith peidio ag ymateb ar y sampl a gyflawnwyd.

Wrth i waith datblygu barhau ar gyfer yr ystadegau arbrofol hyn, bydd y dull samplu a phwysoli yn cael ei adolygu bob blwyddyn. Mae manylion y pwysoliad bob blwyddyn ar gael yn yr adroddiad technegol.

Priodoli

Priodolir data i fodelu gwerthoedd coll lle mae ymatebwyr wedi darparu gwybodaeth rannol. Mae hyn yn seiliedig ar werthoedd eraill (ymatebion) a ddarparwyd yn yr arolwg. Cyfrifir cyfrannau cyfartalog gwerthiannau/pryniannau ymysg busnesau tebyg yn yr arolwg. Mae’r cyfartaleddau’n cael eu cymhwyso i’r cyfansymiau perthnasol a ddarparwyd gan ymatebwyr tebyg i lenwi eu hatebion coll.

Cywirdeb

Gwall dim ymateb

Y cyfyngiad mwyaf ar gywirdeb y canlyniadau yw’r gwall dim ymateb. Mae’n hysbys bod y cyfraddau ymateb ar gyfer arolygon ar-lein yn isel fel arfer o’u cymharu â dulliau eraill, mwy costus o gasglu data, fel dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Ymhellach at hynny, mae TSW yn arolwg gwirfoddol, tra bod arolygon tebyg a gynhelir gan yr SYG yn orfodol, sy’n arwain at gyfraddau ymateb o 60% neu fwy.

Mae peidio ag ymateb yn arwain at lai o feintiau seiliau, felly dim ond pan fydd meintiau’r seiliau’n caniatáu y darperir dadansoddiadau o’r amcangyfrifon ar lefel Cymru.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i ymgorffori ffynonellau data eraill i wneud iawn am beidio ag ymateb a gwella cywirdeb amcangyfrifon.

Gwall samplu

Mae gwall samplu yn codi oherwydd bod yr amcangyfrifon yn seiliedig ar hapsampl o’r boblogaeth yn hytrach na’r boblogaeth gyfan. Mae’r canlyniadau ar gyfer unrhyw hapsampl yn debygol o amrywio ar hap o’r canlyniadau a geid pe bai’r boblogaeth gyfan yn cael ei harolygu (h.y. cyfrifiad), ac mae’r amrywiad hwn yn cael ei alw’n wall samplu. Yn gyffredinol, po leiaf yw maint y sampl, y mwyaf yw’r posibilrwydd o gael gwall samplu.

Nod cynllun sampl TSW yw lleihau hyn drwy ddefnyddio dull cyfrifo ar gyfer y busnesau mwyaf (yn ôl cyflogaeth) a chanolbwyntio’r dyraniad sampl sy’n weddill ar y sectorau diwydiannol sydd â’r trosiant mwyaf.

Bydd y gwall samplu’n cael ei archwilio ymhellach fel rhan o ddatblygu’r ystadegau arbrofol hyn.

Atebion coll

Mae atebion coll yn digwydd am sawl rheswm, gan gynnwys gwrthod neu fethu ag ateb cwestiwn penodol. Mae cyfeirio o fewn yr arolwg yn atal ymatebwyr rhag gweld cwestiynau amherthnasol. Defnyddir priodoli i fodelu rhai ymatebion coll.

Mae’r canlyniadau’n cynnwys categori ‘heb ei ddyrannu’ o ganlyniad i’r ymatebwyr sy’n llenwi’r holiadur yn rhannol, er enghraifft; busnes sy’n darparu gwerth cyfanswm gwerthiant nwyddau i’r DU, ond nad yw’n gallu darparu dadansoddiad o’r gwerthiant i wledydd unigol y DU. Er bod hyn yn cyfyngu ar ddefnyddioldeb rhai canlyniadau, mae deall yr anhawster y mae ymatebwyr yn ei gael wrth ateb cwestiynau penodol yn bwysig wrth i waith datblygu fynd rhagddo.

Atebion anghywir

Un achos posibl o duedd yw camgymeriad gan ymatebwyr wrth ateb. Mae gan arolwg ar-lein TSW nifer o wiriadau ar waith i atal hyn. Mae’r arolwg ar-lein yn caniatáu cynnal archwiliadau awtomatig wrth i'r ymatebydd lenwi’r holiadur a thynnu sylw at gwestiwn. Mae gwiriadau dilysu yn cynnwys:

  • gwiriadau rhesymeg sy'n cadarnhau bod dadansoddiadau’n cyfateb i'r cyfansymiau a ddarparwyd
  • rhoi crynodeb i’r ymatebwyr o’r atebion a roddwyd, ar ffurf rifol ac ysgrifenedig, gan oresgyn dryswch posibl wrth gofnodi gwerthoedd mawr

Os bydd ymatebion yn methu gwiriad awtomatig, gofynnir i’r ymatebydd adolygu a chywiro’r ymateb neu gadarnhau ei fod yn gywir (gyda’r opsiwn o roi rheswm).

Mae atebion anghywir hefyd yn cael eu hatal drwy gyfeirio ymatebwyr at gwestiynau perthnasol yn unig, yn seiliedig ar ymatebion i gwestiynau hidlo.

Dilysu terfynol

Mae gwiriadau dilysu awtomatig yn cael eu cynnal ar bob ymateb i arolwg a gyflwynir, i dynnu sylw at unrhyw anghysonderau sy’n weddill a fyddai’n annilysu’r ymateb. Mae ymatebion wedi’u fflagio yn cael eu hadolygu gan y contractwr, mae’r data’n cael ei newid os oes angen; drwy gyfuniad o ymchwil wrth ddesg a galw’r ymatebwyr yn ôl, lle ceir caniatâd.

Mae’n ofynnol hefyd i’r contractwr gynnal gwiriadau sicrhau ansawdd eraill ar y data ar ôl i’r gwaith maes ddod i ben. Roedd hyn yn cynnwys edrych ar y sylwadau a ddarparwyd yn yr arolwg i asesu a oedd unrhyw ymatebwyr wedi tynnu sylw at faterion penodol a allai effeithio ar ddibynadwyedd eu hymatebion.

Sicrhau ansawdd

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau sicrhau ansawdd terfynol ar y data ymateb a'r ffeiliau canlyniadau a ddarperir gan y contractwr. Mae’r holl ystadegau cyhoeddedig yn destun sicrwydd ansawdd yn unol â chanllawiau ystadegau Ansawdd GSS mewn llywodraeth.

Prydlondeb

Mae pob ton o sampl TSW yn cael ei thynnu o ddetholiad blynyddol yr IDBR. Mae’r IDBR yn cael ei ddiweddaru gan ddefnyddio ffynonellau data gweinyddol ac ar sail arolwg, gydag amrywiaeth o ddyddiadau cyfeirio sy’n golygu y gellid bod wedi diweddaru data busnes ar unrhyw adeg hyd at ddyddiad y detholiad. Mae hyn yn golygu bod y data nodweddion busnes a ddefnyddir i samplu a phwysoli ar gyfer TSW ond mor gyfredol â fersiwn diweddaraf yr IDBR.

Mae gwaith maes TSW yn dechrau yn yr Hydref, gan gasglu data ar gyfer y flwyddyn galendr flaenorol. Mae’r canlyniadau wedyn yn cael eu dadansoddi a’u cyhoeddi’r flwyddyn ganlynol, er enghraifft; casglwyd data 2018 yn 2019 a chyhoeddwyd y canlyniadau yn 2020.

Hygyrchedd ac eglurder

Data

Mae holl ddata TSW yn cael ei ddarparu mewn taenlenni hygyrch ar fformat agored.

Rheoli datgelu

Rydyn ni’n gofalu nad oes modd adnabod busnesau unigol o’r canlyniadau sydd wedi’u cyhoeddi. Rydym yn dilyn y gofynion o ran cyfrinachedd a mynediad at ddata a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Cyfeirir ymatebwyr at Hysbysiad preifatrwydd TSW i gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch a chyfrinachedd y data maent yn ei ddarparu.

Gofynion Iaith

Glynir wrth safonau’r Gymraeg ar gyfer casgliadau ac allbynnau data TSW. Mae ein llythyrau gwahoddiad, holiadur, llinell gymorth, gwefan, cyhoeddiadau canlyniadau, adroddiadau technegol, cyfresi data yn cael eu cynhyrchu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ein nod yw ysgrifennu’n glir (gan ddefnyddio Cymraeg Clir/Saesneg clir).

Cymharedd a chydlyniaeth

Mae cymharu’r canlyniadau a gynhyrchir gan TSW â ffynonellau data presennol yn elfen allweddol o’n gwaith datblygu.

Mae adroddiadau canlyniadau blynyddol yn cynnwys cymhariaeth fanwl o amcangyfrifon diweddaraf TSW yn erbyn blynyddoedd blaenorol ac ystadegau amgen a gyhoeddwyd gan CThEM a’r SYG. Trafodir anghysondebau a thynnir sylw at gyfyngiadau yn ein hamcangyfrifon.

Adborth

Mae gwaith datblygu TSW yn parhau ac mae cynlluniau ar waith i wella amcangyfrifon drwy gyflwyno data o arolygon eraill. Rydym yn parhau i geisio adborth ar ein cynlluniau ac ar yr allbynnau a gynhyrchwyd hyd yma. Gellir anfon adborth at ystadegau.masnach@llyw.cymru.