Neidio i'r prif gynnwy

Yn 2017/18, cymerodd mwy na 100,000 o bobl ifanc ym mlynyddoedd 7 i 11 yr ysgolion uwchradd yng Nghymru ran yn yr Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr.

Y tro hwn roedd yn cynnwys yr arolwg Ymddygiadau Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol (HBSC). Cafodd yr arolwg ei weinyddu gan yr ysgolion eu hunain a llenwodd y myfyrwyr yr arolwg yn electronig.

Mae'r arolwg yn rhoi dealltwriaeth fanwl o iechyd a lles pobl ifanc, gan gynnwys y boblogaeth gyfan ac is-grwpiau o'r boblogaeth, fel plant sy'n derbyn gofal.

Mae’r arolwg yn cynnwys:

  • iechyd a lles cyffredinol
  • bywyd ysgol
  • bywyd teuluol a ffrindiau
  • perthnasoedd
  • ysmygu, yfed a chymryd cyffuriau
  • gamblo.

Adroddiadau