Neidio i'r prif gynnwy

Nod Arolwg Heintiadau COVID-19 yw amcangyfrif:

  • faint o bobl sydd â’r haint dros gyfnod penodol
  • faint o achosion newydd sy'n digwydd dros gyfnod penodol
  • faint o bobl sydd â gwrthgyrff i COVID-19

Bydd yr arolwg yn helpu i olrhain lefelau heintio a throsglwyddo COVID-19 ymhlith pobl mewn preswylfeydd preifat, sef y boblogaeth gymunedol.

Cyfran y bobl yng Nghymru a oedd â COVID-19

Ar gyfer yr wythnos rhwng 2 i ac 8 Hydref 2020, amcangyfrifir bod cyfartaledd o 0.26% o'r boblogaeth gymunedol wedi cael COVID-19 (cyfwng credadwy o 0.08% i 0.59%).

Mae hyn yn cyfateb i tua 1 o bob 390 o unigolion (cyfwng credadwy o 95%: 1 mewn 1,300 i 1 mewn 170), neu amcangyfrif o 7,900 o bobl i gyd (cyfwng credadwy: 2,400 i 18,200).

Mae’r data’n awgrymu bod y gyfradd wedi cynyddu yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond bod y cynnydd wedi arafu erbyn hyn o bosibl. Gan fod yr amcangyfrifon yn seiliedig ar nifer gymharol isel o brofion positif, mae cryn ansicrwydd a dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r canlyniadau.

Image
Siart yn dangos yr amcangyfrifon swyddogol ar gyfer canran y bobl a gafodd brofion positif drwy swabiau trwyn a gwddf o 28 Awst i 08 Hydref 2020. Cynyddodd y duedd yn ystod yr wythnosau diwethaf ond efallai maent wedi lefelu ers hynny.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae’r canlyniadau wedi’u seilio ar swabiau trwyn a gwddf a ddarparwyd gan gyfranogwyr i’r astudiaeth. Yn ogystal ag edrych ar nifer yr achosion yn gyffredinol, defnyddir yr arolwg i edrych ar nodweddion y rhai sy'n profi'n bositif am COVID-19 a gweld i ba raddau y mae pobl sydd wedi’u heintio yn cael symptomau.

Dechreuodd y gwaith maes yng Nghymru ar 29 Mehefin 2020. Mae'n bwysig nodi bod cryn dipyn o ansicrwydd o ran yr amcangyfrifon. Y rheswm am hyn yw, er gwaethaf sampl fawr o gyfranogwyr, bod nifer yr achosion positif a nodwyd yn fach. Rhoddir yr amcangyfrifon gyda chyfyngau credadwy o 95% i ddangos yr ystod y gallwn fod yn hyderus bod y gwir ffigur wedi’i gynnwys ynddi.

Mae'r canlyniadau ar gyfer cartrefi preifat yn unig ac nid ydynt yn cynnwys pobl mewn ysbytai, cartrefi gofal neu leoliadau sefydliadol eraill.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi bwletinau ystadegol wythnosol a thablau cyfeirio, gan gynnwys canlyniadau ar gyfer Cymru a Lloegr, ar ei gwefan.

Mae’r amcangyfrifon wedi’u seilio ar fodelu ystadegol. Mae gwaith modelu'n cael ei wneud o'r newydd bob wythnos gan ddefnyddio'r data am y 6 wythnos ddiwethaf. Mae'r model yn gweithio drwy hwyluso’r gyfres i ddeall y duedd ac mae'n cael ei diwygio bob wythnos i gynnwys canlyniadau profion newydd. Mae hyn yn golygu y gallai'r amcangyfrif diweddaraf am gyfnod cynharach fod yn wahanol i'r amcangyfrif swyddogol a gynhyrchwyd ar y pryd. Dengys Siart 1 y duedd ddiweddaraf wedi'i modelu a'r amcangyfrifon swyddogol a gyhoeddwyd ar y pryd.

Nid yw’r samplau o’r arolwg hwn yn ddigon mawr eto i gefnogi dadansoddiad mwy manwl na’r hyn a ddarperir yma. Mae’r gwaith maes yn cael ei gynyddu gyda’r bwriad o sicrhau tua 9 mil o gyfranogwyr bob pythefnos erbyn canol mis Rhagfyr. Bydd hyn yn caniatáu gwaith dadansoddi mwy manwl, a allai gynnwys dadansoddi nifer yr heintiau newydd dros gyfnod o amser a dadansoddi nodweddion pobl sy’n cael canlyniadau prawf positif. Bydd y math o ddadansoddiad a fydd yn bosibl hefyd yn dibynnu ar nifer sylfaenol yr achosion o’r feirws, gyda chyfraddau heintio uwch yn caniatáu mwy o waith dadansoddi a chyfraddau heintio llai yn caniatáu llai.

Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Senedd. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ryan Pike
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 167/2020