Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r data gwrthgyrff a gyflwynir yn rhan o’r Arolwg Heintiadau Coronafeirws (COVID-19) ar draws y DU gyfan. Gellir defnyddio’r data i ddeall pwy sydd wedi cael yr haint yn y gorffennol neu sydd wedi datblygu gwrthgyrff drwy gael y brechlyn.

Mae’r dadansoddiad a gyflwynwyd ar heintiadau yn y gorffennol a/neu’r brechlyn, wedi’i ddiffinio fel profi’n bositif am wrthgyrff i SARS-CoV-2 yn seiliedig ar ganfyddiadau o Arolwg Heintiadau COVID-19. SARS-CoV-2 yw’r enw gwyddonol a roddir i’r feirws penodol sy’n achosi COVID-19.

Gwybodaeth am y dull a ddefnyddir i fodelu amcangyfrifon gwrthgyrff ar gael ar wefan yr Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).

Mae’r cyhoeddiad hwn hefyd yn cynnwys amcangyfrifon o’r ganran o bobl sydd wedi dweud trwy’r arolwg eu bod wedi cael un dos neu fwy o frechlyn COVID-19, yn ogystal â’r rheini sydd wedi cael y dos llawn. Nid yw'r amcangyfrifon hyn yr un fath â'r ffigurau cyhoeddedig gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar frechiadau a gofnodwyd ac nid ydynt yn cynnwys preswylwyr cartrefi gofal.

Gellir cael rhagor o wybodaeth, fel amcangyfrifon o bositifedd gwrthgyrff yn ôl blwyddyn oedran unigol ar gyfer pob un o wledydd y DU ar wefan y SYG.

Nodyn am y dadansoddiad yr wythnos hon

Mae ymchwil academaidd ar drothwyon gwrthgyrff, gan ddefnyddio data o'r adeg pan oedd yr amrywiolyn Delta yn straen amlycaf, yn dangos bod angen trothwy uwch o wrthgyrff i ddarparu amddiffyniad rhag heintiau COVID-19 newydd i'r rhai sy'n cael eu brechu. Penderfynwyd ar y trothwy a ddefnyddiwyd hyd yma, y cyfeirir ato fel y ‘trothwy safonol (42 ng/ml)’ cyn datblygu’r brechiadau coronafeirws (COVID-19).

Mae SYG bellach wedi cyflwyno ail drothwy ychwanegol sy’n gysylltiedig â chrynodiad uwch o wrthgyrff, i amcangyfrif canran yr oedolion sy’n debygol o fod ag amddiffyniad cryf rhag cael haint COVID-19 newydd. Mae haint COVID-19 blaenorol fel arfer yn arwain at ymateb imiwn cryfach na brechiad. Er mwyn cael lefel debyg o amddiffyniad rhag brechu yn unig, mae angen crynodiad uwch o wrthgyrff.

Y trothwy uwch yw 179 ng/ml a ganfodwyd ei fod yn darparu risg 67% yn is o gael haint COVID-19 newydd gyda'r amrywiad Delta ar ôl dau frechiad gyda brechlynnau Pfizer neu AstraZeneca, o'i gymharu â rhywun nad oedd wedi'i frechu ac nad oedd wedi cael COVID-19 o'r blaen. Canfodwyd y trothwy uwch hwn trwy gymharu sut roedd y risg o heintiau COVID-19 newydd â'r amrywiad Delta, yn amrywio ar draws gwahanol lefelau gwrthgyrff. Mae'n annhebygol y bydd y trothwy hwn yn darparu amddiffyniad cyfatebol yn erbyn yr amrywiad Omicron ac mae dadansoddiadau o effeithiolrwydd brechiadau yn erbyn yr amrywiad Omicron yn parhau.

Mae angen sicrwydd ansawdd ychwanegol ar amcangyfrifon brechu wedi’u modelu ar gyfer un neu fwy a dau neu fwy o frechiadau COVID-19 ar gyfer Cymru ac nid ydynt wedi’u cynnwys yma. Fodd bynnag, cyflwynir data ar ganran y bobl 16 oed a hŷn a ddywedodd eu bod wedi cael tri neu fwy o frechiadau COVID-19 ochr yn ochr â’r trothwyon safonol ac uwch ar gyfer gwrthgyrff.

Cyfran y bobl yng Nghymru a gafodd gwrthgyrff yn erbyn COVID-19

Rhwng 3 a 9 Ionawr 2022, amcangrifir bod dros 9 o bob 10 person (97.4%) o bobl 16 oed a hŷn wedi cael canlyniad prawf positif am wrthgyrff coronafeirws (COVID-19) yn seiliedig ar y trothwy safonol (cyfwng credadwy o 95%: : 96.7% i 98.0%). Ar y trothwy uwch, amcangyfrifir bod dros 9 o bob 10 o bobl (94.1%) 16 oed a hŷn wedi profi’n bositif am wrthgyrff (cyfwng credadwy 95%: 93.2% i 95.0%).

Er bod ansicrwydd gyda'r amcangyfrifon, mae'n ymddangos bod canran y bobl sy'n profi'n bositif am wrthgyrff wedi aros yn uchel yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Diffinnir positifrwydd gwrthgyrff gan grynodiad sefydlog (neu drothwy) o wrthgyrff yn y gwaed; nid yw cael prawf negyddol am wrthgyrff yn golygu nad oes gan berson ymateb imiwn i haint.

Bydd y mwyafrif o bobl sy'n cael eu brechu yn cadw lefel gwrthgorff uwch na chyn brechu, hyd yn oed ar ôl gostwng yn is na'r gwerth trothwy safonol. Nid yw canlyniad negyddol yn golygu bod lefel gwrthgorff ar sero neu nad oes gan berson unrhyw amddiffyniad yn erbyn COVID-19, gan nad yw ymateb imiwn yn dibynnu ar bresenoldeb gwrthgyrff yn unig.

Disgwylir y bydd nifer y bobl sydd â gwrthgyrff yn cynyddu wrth i fwy o bobl gael eu brechu. Fodd bynnag, nid yw canfod gwrthgyrff yn unig yn fesur manwl gywir o amddiffyniad imiwnedd a geir rhag brechiadau. Y rheswm am hyn yw y gall lefelau gwrthgyrff yn y gwaed ddirywio dros amser, sy'n golygu y gall rhai pobl sydd wedi cael COVID-19 o'r blaen yn profi negyddol am wrthgyrff. Am y rheswm hwn, dylid ystyried y ffigurau hyn fel amcangyfrifon o nifer yr achosion o wrthgyrff misol, nid amlygiad cronnus.

Image
Mae'r siart yn dangos bod cyfraddau gwrthgyrff yn parhau i fod yn uchel yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Mae canran y bobl sy'n profi'n bositif am wrthgyrff ar y trothwy safonol yn parhau i fod yn uchel ar draws pob grŵp oedran 16+, yn amrywio o 96.4% mewn pobl dros 80 oed i 98.2% ymhlith pobl 70 i 79 oed. Mae'r grŵp oedran 12 i 15 ar 88.0% ac o fewn y grŵp oedran 8 i 11 mae 53.3% wedi profi'n bositif am wrthgyrff.

Ar y lefel trothwy uwch, mae canran y bobl sy'n profi'n bositif am wrthgyrff hefyd yn uchel ar draws pob grŵp oedran 16+, yn amrywio o 91.3% mewn pobl dros 80 oed i 96.7% mewn pobl 75 i 79 oed. Mae’r grŵp oedran 12 i 15 yn uchel hefyd ar 80.4% ac o fewn y grŵp oedran 8 i 11 mae 28.5% wedi profi’n bositif am wrthgyrff.

Dylid gofalu wrth ddehongli’r amcangyfrifon hyn. Mae’r cyfyngau credadwy yn eang a maint y sampl yn gymharol fychan, sy’n golygu bod ansicrwydd o gwmpas y ffigurau hyn.

Image
Mae'r siart yn dangos bod y canrannau o bobl a oedd yn profi'n bositif am wrthgyrff COVID-19 rhwng 3 a 9 Ionawr 2022 yn parhau i fod yn uchel mewn pob grwp oedran.

Mae’r amcangyfrifon wedi’u modelu’n awgrymu bod canran y bobl sy’n adrodd eu bod wedi cael tri neu fwy o ddosau (gan gynnwys dos atgyfnerthu) o frechlyn COVID wedi cynyddu.

Rhwng 3 a 9 Ionawr 2022, yn ôl yr arolwg adroddodd bron i 7 o bob 10 o bobl (69.5%) 16 oed a hŷn eu bod wedi cael tri o ddosau neu mwy (gan gynnwys dos atgyfnerthu) o frechlyn COVID-19.

Nid yw’r amcangyfrifon o frechiadau yr un fath â’r ffigurau a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar frechiadau a gofnodwyd ac nid ydynt yn cynnwys preswylwyr cartrefi gofal, ysbytai na lleoliadau sefydliadol eraill. Bydd gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon hyn wedi'u modelu a'r ffigurau swyddogol oherwydd gwahaniaethau mewn cwmpas, dulliau ac amseroldeb. Mae'r amcangyfrifon a gynhyrchwyd o'r arolwg yn ddefnyddiol i gymharu â nodweddion eraill, megis profi'n bositif am wrthgyrff.

Image
Mae'r siart yn dangos bod y gyfradd wrthgyrff, canran y bobl sy’n adrodd eu bod wedi cael o leiaf un dos o frechlyn COVID a’r rheini sydd wedi cael eu brechu’n llawn wedi aros yn uchel.

Diffiniadau

Poblogaeth gymunedol

Mae’r Arolwg hwn yn cynnwys pobl sy’n byw mewn aelwydydd preifat, a chyfeirir atynt fel poblogaeth gymunedol. Nid yw’n cynnwys pobl mewn ysbytai, cartrefi gofal a/neu leoliadau sefydliadol eraill.

Cyfwng credadwy

Mae cyfwng credadwy yn dangos y lefel o ansicrwydd i amcangyfrif mewn dadansoddiad data. Mae cyfryngau credadwy o 95% yn cael eu cyfrifo i sicrhau mai’r tebygolrwydd y bydd y gwir gwerth o fewn y cyfrwng yw 95%.

Y gyfradd positifedd

Y gyfran o bobl a amcangyfrifir sy’n profi’n bositif am wrthgyrff rhag coronafeirws (COVID-19) ar adeg benodol.

Wythnosau gwyliadwriaeth

Mae'r rhain yn wythnosau safonol o ddydd Llun i ddydd Sul, sy'n cael eu defnyddio'n rhyngwladol ac sy'n ddefnyddiol ar gyfer cymaroldeb. Fodd bynnag, mae'r dull hwn weithiau'n arwain at amcangyfrifon sy'n cyfeirio at gyfnod o lai na 7 diwrnod os nad oes data'r wythnos gyfan ar gael.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Gellir cael gwybodaeth am y dull a ddefnyddir i fodelu’r amcangyfrifon gwrthgyrff a gyflwynir yn y cyhoeddiad hwn ar wefan ONS. Mae’r model yn seiliedig ar safoni wythnosau gwyliadwriaeth sy’n mynd o ddydd Llun i ddydd Sul, yn hytrach nag yn seiliedig ar y cyfnodau 28 o ddiwrnodau a ddefnyddiwyd i adrodd yn flaenorol, er mwyn ei gwneud yn bosibl cynhyrchu amcangyfrifon wythnosol sy’n fwy amserol. Cafodd yr amcangyfrifon sy’n seiliedig ar y model eu cyflwyno o 4 Ionawr 2021 ymlaen. Mae mwy o ansicrwydd ynglŷn â’r amcangyfrif a gafodd ei fodelu ar gyfer yr wythnos olaf, gan fod honno’n wythnos anghyflawn ac mae’r data felly’n fwy tebygol o newid pan ddaw mwy o ddata i law.

Mae’r dadansoddiad a gyflwynwyd yn seiliedig ar ganlyniadau profion gwaed o is-sampl dethol o unigolion 16 oed a hŷn a ddewiswyd ar hap, a ddefnyddir i brofi am wrthgyrff yn erbyn SARS-CoV-2. Gellir ei ddefnyddio i helpu i ddeall pwy sydd wedi cael yr haint yn y gorffennol neu sydd wedi datblygu gwrthgyrff o ganlyniad i’r brechlyn.

Un ffordd mae’r corff yn ymladd COVID-19 yw drwy gynhyrchu gronynnau bach yn y gwaed a elwir yn wrthgyrff. Mae’n cymryd rhwng dwy a thair wythnos i wneud digon o wrthgyrff i ymladd yr haint. Mae gwrthgyrff yn aros yn y gwaed ar lefel isel, er y gall y lefelau hyn leihau dros amser nes eu bod mor isel na all y profion eu hadnabod. Gall gwrthgyrff helpu i atal unigolion rhag dal yr un haint ddwywaith.

Bydd presenoldeb gwrthgyrff yn cael ei fesur i ddeall pwy sydd wedi cael coronafeirws (COVID-19) yn y gorffennol ac effaith y brechlynnau. Ar ôl dal yr haint, ni wyddom yn llawn am ba mor hir mae gwrthgyrff yn aros yn y gwaed ar lefelau y gellir eu canfod. Ni wyddom chwaith, hyd yn hyn, ym mha ffordd mae bod â gwrthgyrff, nawr neu ar ryw adeg yn y gorffennol, yn effeithio ar y tebygolrwydd o ddal COVID-19 eto.

Mae’r cyhoeddiad hwn hefyd yn cyflwyno amcangyfrifon yn seiliedig ar bobl yn hunanadrodd, mewn perthynas â’r ganran ohonynt sydd wedi cael un dos neu fwy o frechlyn COVID-19 ers 4 Ionawr 2021 ac amcangyfrifon o ganran y bobl yr adroddwyd eu bod wedi’u brechu’n llawn ers 15 Chwefror 2021. Mae’r amcangyfrifon hyn yn defnyddio modelu sy’n seiliedig ar y bobl yr ymwelwyd â nhw yn yr Arolwg Heintiadau COVID-19 a gynhaliwyd yn y gymuned am gyfnod penodol o amser. Mae’r amcangyfrifon wedyn yn cael eu haddasu i adlewyrchu’r boblogaeth.

Nid yw’r amcangyfrifon hyn yr un â ffigurau’r llywodraeth a gyhoeddwyd ar gyfer y brechiadau a gofnodwyd, a gallai fod gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon hyn sydd wedi eu modelu a’r ffigurau swyddogol, sy’n cael eu diweddaru’n fwy rheolaidd. Mae’n ddefnyddiol cymharu’r amcangyfrifon a gynhyrchwyd gan yr arolwg â nodweddion eraill megis profi’n bositif ar gyfer gwrthgyrff.

Mae dangosfwrdd coronafeirws y DU yn cynnwys data dyddiol ar gyfer y DU, a phob gwlad sy’n rhan ohoni, o ran y nifer gwirioneddol o bobl sydd wedi cael brechiad COVID-19. Mae hyn yn seiliedig ar gofnodion brechu unigol (data gweinyddol sy’n cael eu cadw gan bob gwlad), ac a ddylai gael eu defnyddio i ddeall hynt y rhaglen frechu ar draws y DU.

Mae’r ystadegau hyn yn cyfeirio at heintiadau a adroddwyd yn y gymuned, sef aelwydydd preifat. Nid yw’r ffigurau hyn yn cynnwys heintiadau a adroddwyd mewn ysbytai, cartrefi gofal a/neu sefydliadau eraill. Mae’r boblogaeth a ddefnyddir yn y dadansoddiad hwn yn cyfeirio at y boblogaeth gymunedol 16 oed a hŷn.

Mae'n bwysig nodi bod cryn dipyn o ansicrwydd o ran yr amcangyfrifon. Y rheswm am hyn yw, er gwaethaf sampl fawr o gyfranogwyr, fod nifer yr achosion positif a nodwyd yn fach. Rhoddir yr amcangyfrifon gyda cyfyngau credadwy o 95% i ddangos yr ystod y gallwn fod yn hyderus bod y gwir ffigur wedi’i gynnwys ynddi.

Mae rhagor o wybodaeth am y canlyniadau profion gwrthgyrff yn cael ei chyhoeddi gan y Swyddfa Ystadgau Gwladol ac yn cynnwys gwybodaeth am wrthgyrff ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon a’r Alban yn cael eu cyhoeddi gan y gwahanol weinyddiaethau, yn yr un modd ag yma yng Nghymru.

Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a thudalennau arolwg safle Prifysgol Rhydychen.

Rhagor o wybodaeth am Arolwg Heintiau COVID-19 yng Nghymru.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

9 Chwefror 2022

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Lisa Bloemberg
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 29/2022