Arolwg heintiadau coronafeirws (COVID-19) (data gwrthgyrff): 18 to 24 Hydref 2021
Dadansoddiad o gyfran y bobl yng Nghymru sy'n profi'n bositif am wrthgyrff COVID-19 ar gyfer 18 to 24 Hydref 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r data gwrthgyrff a gyflwynir yn rhan o’r Arolwg Heintiadau Coronafeirws (COVID-19) ar draws y DU gyfan. Gellir defnyddio’r data i ddeall pwy sydd wedi cael yr haint yn y gorffennol neu sydd wedi datblygu gwrthgyrff drwy gael y brechlyn.
Mae’r dadansoddiad a gyflwynwyd ar heintiadau yn y gorffennol a/neu’r brechlyn, wedi’i ddiffinio fel profi’n bositif am wrthgyrff i SARS-CoV-2 yn seiliedig ar ganfyddiadau o Arolwg Heintiadau COVID-19. SARS-CoV-2 yw’r enw gwyddonol a roddir i’r feirws penodol sy’n achosi COVID-19.
Gwybodaeth am y dull a ddefnyddir i fodelu amcangyfrifon gwrthgyrff ar gael ar wefan yr Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).
Mae’r cyhoeddiad hwn hefyd yn cynnwys amcangyfrifon o’r ganran o bobl sydd wedi dweud trwy’r arolwg eu bod wedi cael un dos neu fwy o frechlyn COVID-19, yn ogystal â’r rheini sydd wedi cael y dos llawn. Nid yw'r amcangyfrifon hyn yr un fath â'r ffigurau cyhoeddedig gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar frechiadau a gofnodwyd ac nid ydynt yn cynnwys preswylwyr cartrefi gofal.
Gellir cael rhagor o wybodaeth, fel amcangyfrifon o bositifedd gwrthgyrff yn ôl blwyddyn oedran unigol ar gyfer pob un o wledydd y DU ar wefan y SYG.
Nodyn am y dadansoddiad yr wythnos hon
Oherwydd mater dros dro yn y broses brofi mewn labordai, nad oedd y data am wrthgyrff ar gael rhwng 26 Awst 2021 a 15 Medi 2021. Mae tîm yr arolwg wedi bod yn gweithio gyda'r labordai i ddatrys y mater hwn a byddant yn derbyn data sy’n cwmpasu'r cyfnod hwn.
Ar gyfer dadansoddiad yr wythnos hon, defnyddir model sy'n cynnwys addasiadau sy'n cadw mewn cof y ffaith nad oes data am wrthgyrff sydd ar gael ar gyfer y cyfnod hwn. Mae'r amcangyfrifon ynghylch positifedd gwrthgyrff yn yr wythnosau gwyliadwriaeth rhwng 16 Awst 2021 a 5 Medi 2021 wedi'u modelu gan ddefnyddio llai o bwyntiau data, sydd wedi’u gwasgaru ymhellach ar wahân er mwyn pontio'r bwlch. Mae hyn yn caniatáu i amcangyfrifon gael eu gwneud tra'n aros am ddata pellach ond mae'n golygu bod mwy o ansicrwydd i'r amcangyfrifon yn y cyfnod hwn. Bydd yr amcangyfrifon hyn yn cael eu diwygio pan dderbynnir data sy'n cwmpasu'r cyfnod pan nad oes data am wrthgyrff ar gael.
Cyfran y bobl yng Nghymru a gafodd gwrthgyrff yn erbyn COVID-19
Rhwng 18 a 24 Hydref 2021, amcangrifir bod dros 9 o bob 10 person (91.7%) o bobl 16 oed a hŷn wedi cael canlyniad prawf positif am wrthgyrff coronafeirws (COVID-19) (cyfwng credadwy o 95%: 90.1% i 93.1%).
Rydym yn gweld mwy a mwy o brofion yn agos at y trothwy ar gyfer canfod, felly gallwn ddisgwyl gweld amrywiadau yn ein hamcangyfrifon o bositifrwydd gwrthgyrff dros amser. Byddwn yn parhau i fonitro'r duedd tymor hwy, a dylid bod yn ofalus wrth gymharu lefelau gwrthgyrff rhwng cyfnodau amser penodol.
Diffinnir positifrwydd gwrthgyrff gan grynodiad sefydlog (neu drothwy) o wrthgyrff yn y gwaed; nid yw cael prawf negyddol am wrthgyrff yn golygu nad oes gan berson ymateb imiwn i haint.
Bydd y mwyafrif o bobl sy'n cael eu brechu yn cadw lefel gwrthgorff uwch na chyn brechu, hyd yn oed ar ôl gostwng yn is na'r gwerth trothwy safonol. Nid yw canlyniad negyddol yn golygu bod lefel gwrthgorff ar sero neu nad oes gan berson unrhyw amddiffyniad yn erbyn COVID-19, gan nad yw ymateb imiwn yn dibynnu ar bresenoldeb gwrthgyrff yn unig.
Disgwylir y bydd nifer y bobl sydd â gwrthgyrff yn cynyddu wrth i fwy o bobl gael eu brechu. Fodd bynnag, nid yw canfod gwrthgyrff yn unig yn fesur manwl gywir o amddiffyniad imiwnedd a geir rhag brechiadau. Y rheswm am hyn yw y gall lefelau gwrthgyrff yn y gwaed ddirywio dros amser, sy'n golygu y gall rhai pobl sydd wedi cael COVID-19 o'r blaen yn profi negyddol am wrthgyrff. Am y rheswm hwn, dylid ystyried y ffigurau hyn fel amcangyfrifon o nifer yr achosion o wrthgyrff misol, nid amlygiad cronnus.
Mae'r amcangyfrifon wedi'u modelu yn awgrymu bod canran y bobl sy'n nodi eu bod wedi cael o leiaf un dos o frechlyn COVID a bod y rhai sy'n nodi eu bod wedi cael eu brechu'n llawn wedi cynyddu, ac mae'r gyfradd gwrthgyrff wedi cynyddu eto ar ôl gostyngiad bach.
Rhwng 18 a 24 Hydref, yn ôl yr arolwg adroddwyd bod dros 9 o bob 10 person 16 oed a hŷn eu bod wedi cael un dos neu fwy o frechlyn COVID-19, gyda bron 9 o bob 10 person yn adrodd eu bod wedi cael eu brechu’n llawn.
Nid yw'r amcangyfrifon brechiadau yr un peth â'r ffigurau cyhoeddedig gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar frechiadau a gofnodwyd ac nid ydynt yn cynnwys preswylwyr cartrefi gofal, ysbytai neu leoliadau sefydliadol eraill. Bydd gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon wedi'u modelu hyn a'r ffigurau swyddogol oherwydd gwahaniaethau mewn cwmpas, dulliau ac amseroldeb. Mae’r amcangyfrifon a gynhyrchwyd o’r arolwg yn ddefnyddiol i’w cymharu â nodweddion eraill, megis profi’n bositif am wrthgyrff.
Mae canran y bobl sy'n profi'n bositif am wrthgyrff yn parhau i fod yn uchel mewn pob grŵp oedran ac er gwaetha’r gostyngiad bach yn y grwpiau oedran hŷn (y rhai 65 oed a hŷn) ers diwedd Gorffennaf 2021 mae’r canran wedi aros yn uchel yn y mis diwethaf gyda’r amcangyfrifon yn amrywio o 86.3% i 89.4% ar gyfer pobl dros 65 oed yn yr wythnos 18 i 24 Hydref. Mewn cyferbyniad, cynyddodd cyfraddau positifrwydd gwrthgyrff i 96.0% ar gyfer y rhai rhwng 16 a 24 oed.
Dylid gofalu wrth ddehongli’r amcangyfrifon hyn. Mae’r cyfyngau credadwy yn eang a maint y sampl yn gymharol fychan, sy’n golygu bod ansicrwydd o gwmpas y ffigurau hyn.
Diffiniadau
Poblogaeth gymunedol
Mae’r Arolwg hwn yn cynnwys pobl sy’n byw mewn aelwydydd preifat, a chyfeirir atynt fel poblogaeth gymunedol. Nid yw’n cynnwys pobl mewn ysbytai, cartrefi gofal a/neu leoliadau sefydliadol eraill.
Cyfwng credadwy
Mae cyfwng credadwy yn dangos y lefel o ansicrwydd i amcangyfrif mewn dadansoddiad data. Mae cyfryngau credadwy o 95% yn cael eu cyfrifo i sicrhau mai’r tebygolrwydd y bydd y gwir gwerth o fewn y cyfrwng yw 95%.
Y gyfradd positifedd
Y gyfran o bobl a amcangyfrifir sy’n profi’n bositif am wrthgyrff rhag coronafeirws (COVID-19) ar adeg benodol.
Wythnosau gwyliadwriaeth
Mae'r rhain yn wythnosau safonol o ddydd Llun i ddydd Sul, sy'n cael eu defnyddio'n rhyngwladol ac sy'n ddefnyddiol ar gyfer cymaroldeb. Fodd bynnag, mae'r dull hwn weithiau'n arwain at amcangyfrifon sy'n cyfeirio at gyfnod o lai na 7 diwrnod os nad oes data'r wythnos gyfan ar gael.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Gellir cael gwybodaeth am y dull a ddefnyddir i fodelu’r amcangyfrifon gwrthgyrff a gyflwynir yn y cyhoeddiad hwn ar wefan ONS. Mae’r model yn seiliedig ar safoni wythnosau gwyliadwriaeth sy’n mynd o ddydd Llun i ddydd Sul, yn hytrach nag yn seiliedig ar y cyfnodau 28 o ddiwrnodau a ddefnyddiwyd i adrodd yn flaenorol, er mwyn ei gwneud yn bosibl cynhyrchu amcangyfrifon wythnosol sy’n fwy amserol. Cafodd yr amcangyfrifon sy’n seiliedig ar y model eu cyflwyno o 4 Ionawr ymlaen. Mae mwy o ansicrwydd ynglŷn â’r amcangyfrif a gafodd ei fodelu ar gyfer yr wythnos olaf, gan fod honno’n wythnos anghyflawn ac mae’r data felly’n fwy tebygol o newid pan ddaw mwy o ddata i law.
Mae’r dadansoddiad a gyflwynwyd yn seiliedig ar ganlyniadau profion gwaed o is-sampl dethol o unigolion 16 oed a hŷn a ddewiswyd ar hap, a ddefnyddir i brofi am wrthgyrff yn erbyn SARS-CoV-2. Gellir ei ddefnyddio i helpu i ddeall pwy sydd wedi cael yr haint yn y gorffennol neu sydd wedi datblygu gwrthgyrff o ganlyniad i’r brechlyn.
Un ffordd mae’r corff yn ymladd COVID-19 yw drwy gynhyrchu gronynnau bach yn y gwaed a elwir yn wrthgyrff. Mae’n cymryd rhwng dwy a thair wythnos i wneud digon o wrthgyrff i ymladd yr haint. Mae gwrthgyrff yn aros yn y gwaed ar lefel isel, er y gall y lefelau hyn leihau dros amser nes eu bod mor isel na all y profion eu hadnabod. Gall gwrthgyrff helpu i atal unigolion rhag dal yr un haint ddwywaith.
Bydd presenoldeb gwrthgyrff yn cael ei fesur i ddeall pwy sydd wedi cael coronafeirws (COVID-19) yn y gorffennol ac effaith y brechlynnau. Ar ôl dal yr haint, ni wyddom yn llawn am ba mor hir mae gwrthgyrff yn aros yn y gwaed ar lefelau y gellir eu canfod. Ni wyddom chwaith, hyd yn hyn, ym mha ffordd mae bod â gwrthgyrff, nawr neu ar ryw adeg yn y gorffennol, yn effeithio ar y tebygolrwydd o ddal COVID-19 eto.
Mae’r cyhoeddiad hwn hefyd yn cyflwyno amcangyfrifon yn seiliedig ar bobl yn hunanadrodd, mewn perthynas â’r ganran ohonynt sydd wedi cael un dos neu fwy o frechlyn COVID-19 ers 4 Ionawr 2020 ac amcangyfrifon o ganran y bobl yr adroddwyd eu bod wedi’u brechu’n llawn ers 15 Chwefror 2021. Mae’r amcangyfrifon hyn yn defnyddio modelu sy’n seiliedig ar y bobl yr ymwelwyd â nhw yn yr Arolwg Heintiadau COVID-19 a gynhaliwyd yn y gymuned am gyfnod penodol o amser. Mae’r amcangyfrifon wedyn yn cael eu haddasu i adlewyrchu’r boblogaeth.
Nid yw’r amcangyfrifon hyn yr un â ffigurau’r llywodraeth a gyhoeddwyd ar gyfer y brechiadau a gofnodwyd, a gallai fod gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon hyn sydd wedi eu modelu a’r ffigurau swyddogol, sy’n cael eu diweddaru’n fwy rheolaidd. Mae’n ddefnyddiol cymharu’r amcangyfrifon a gynhyrchwyd gan yr arolwg â nodweddion eraill megis profi’n bositif ar gyfer gwrthgyrff.
Mae dangosfwrdd coronafeirws y DU yn cynnwys data dyddiol ar gyfer y DU, a phob gwlad sy’n rhan ohoni, o ran y nifer gwirioneddol o bobl sydd wedi cael brechiad COVID-19. Mae hyn yn seiliedig ar gofnodion brechu unigol (data gweinyddol sy’n cael eu cadw gan bob gwlad), ac a ddylai gael eu defnyddio i ddeall hynt y rhaglen frechu ar draws y DU.
Mae’r ystadegau hyn yn cyfeirio at heintiadau a adroddwyd yn y gymuned, sef aelwydydd preifat. Nid yw’r ffigurau hyn yn cynnwys heintiadau a adroddwyd mewn ysbytai, cartrefi gofal a/neu sefydliadau eraill. Mae’r boblogaeth a ddefnyddir yn y dadansoddiad hwn yn cyfeirio at y boblogaeth gymunedol 16 oed a hŷn.
Mae'n bwysig nodi bod cryn dipyn o ansicrwydd o ran yr amcangyfrifon. Y rheswm am hyn yw, er gwaethaf sampl fawr o gyfranogwyr, fod nifer yr achosion positif a nodwyd yn fach. Rhoddir yr amcangyfrifon gyda cyfyngau credadwy o 95% i ddangos yr ystod y gallwn fod yn hyderus bod y gwir ffigur wedi’i gynnwys ynddi.
Mae rhagor o wybodaeth am y canlyniadau profion gwrthgyrff yn cael ei chyhoeddi gan y Swyddfa Ystadgau Gwladol ac yn cynnwys gwybodaeth am wrthgyrff ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon a’r Alban yn cael eu cyhoeddi gan y gwahanol weinyddiaethau, yn yr un modd ag yma yng Nghymru.
Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a thudalennau arolwg safle Prifysgol Rhydychen.
Rhagor o wybodaeth am Arolwg Heintiau COVID-19 yng Nghymru.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Diweddariad nesaf
23 Tachwedd 2021
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Lisa Bloemberg
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 356/2021